Tudalen wybodaeth ar waith coedwigaeth yn Fforest Fawr - Ionawr 2024
Trosolwg
Rydyn ni'n dechrau gwaith coedwigaeth ar 15 Ionawr i deneuo ardal o Fforest Fawr ger Tongwynlais, ar gyrion Caerdydd.
Bydd y gwaith i deneuo a chynaeafu’r coed llarwydd sydd wedi’u heintio â Phytophthora Ramorum, neu glefyd y llarwydd, yn parhau am oddeutu dri mis. Mae'r coed o dan Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol i reoli lledaeniad y clefyd.
Byddwn yn defnyddio ceffylau i dynnu pren o ardaloedd cwympo coed heb fod angen peiriannau mawr, er mwyn lleihau difrod i’r ddaear a phlanhigion eraill.
Tra bydd maes parcio Fforest Fawr yn parhau ar agor, gofynnwn i ymwelwyr â’r coetir gadw at unrhyw arwyddion diogelwch neu ddargyfeiriadau, a chadw cŵn ar dennyn yn yr ardal waith ac o’i chwmpas.
Gwyriadau ar y llwybrau
Er mwyn diogelwch y cyhoedd, bydd angen i ni gau un llwybr cerdded a gosod gwyriadau ar un arall.
- Ffordd Burges (MELYN) - Mae angen cau'r llwybr hwn sy'n dechrau ac yn gorffen ym maes parcio Castell Coch (sy'n cael ei reoli gan Cadw) gan ei fod yn pasio'n agos i'r ardal waith.
-
Llwybr Syr Henry (COCH), sy'n dechrau naill ai ym maes parcio coedwig CNC neu Gastell Coch. Bydd gwyriad ar waith os ydych chi’n ei ddilyn o faes parcio'r goedwig, ond bydd ar gau os ydych yn dechrau o faes parcio Castell Coch.
Dilynwch unrhyw arwyddion diogelwch a chadwch gŵn ar dennyn o amgylch yr ardal waith.
Ardaloedd
- Rhiwbina
- Taffs Well
- Whitchurch and Tongwynlais
Cynulleidfaoedd
- Management
Diddordebau
- Forest Management
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook