Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu gwneud gwaith i wella Cored Merthyr ar Afon Taf, Merthyr Tudful, NGR - SO 04310 06798.
Bydd y gwaith gwella arfaethedig yn cynnwys atgyweirio darnau o strwythur y gored, gosod grisiau mynediad at sianel yr afon a gosod ysgol bysgod ar wyneb y gored.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried nad yw’r gwaith gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw’n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol ar ei gyfer. Er na fwriedir gwneud datganiad amgylcheddol, mae’r cynllun wedi ystyried ffactorau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r safle ac wedi ymgorffori gwelliannau amgylcheddol pan fo’n bosibl.
Share
Share on Twitter Share on Facebook