Arolwg prosiect adfer afonydd - Afon Dâr
Trosolwg
Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio gwella cymeriad naturiol afonydd ledled Cymru.
I wneud hyn, rydym yn edrych ar gyfleoedd i gael gwared ar adeileddau o waith dyn sy'n effeithio'n negyddol ar iechyd afonydd. Bydd adfer afonydd o fudd i natur a phobl, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Nod y prosiect hwn yw nodi ac asesu cyfleoedd adfer afon y gellid eu gweithredu ar hyd Afon Dâr, trwy Barc Gwledig Cwm Dâr.
Mae Afon Dâr yn cychwyn ychydig i'r gorllewin o safle'r prosiect ac yn llifo i'r dwyrain tuag at Aberdâr ac mae'n un o is-afonydd Afon Cynon. Mae'r map isod yn dangos ardal y prosiect.
Mae'r dirwedd amgylchynol ac Afon Dâr trwy safle'r prosiect wedi'u newid yn sylweddol dros amser oherwydd hanes cloddio glo yn yr ardal. Mae glannau'r afon wedi'u leinio ag amddiffyniad cerrig bloc i’r glannau, a ddangosir yn y ffotograff isod.
Mae'r cerrig bloc wedi'u gosod i gynnal y glannau a lleihau colledion ar hyd y glannau. Mae hyn yn cyfyngu ar y math o gynefinoedd a bywyd gwyllt a all fyw ar lannau'r afon gan nad oes llystyfiant ar hyd yr afon. Mae’r glannau hefyd yn annaturiol o uchel, gan gyfyngu’r dŵr a’i atal rhag llifo i’r gorlifdir o’i amgylch yn ystod cyfnodau o lif uchel, sy’n fwy tebygol o achosi colled a difrod i lannau mewn ardaloedd eraill ar hyd yr afon.
O fewn Afon Dâr hefyd mae sawl rhwystr sy’n atal pysgod rhag nofio i fyny'r afon, gan gynnwys cwlfert, sianel wedi'i leinio â brics, a dwy gored. Mae'r ffotograff isod yn dangos cored ar y safle.
Cliciwch i weld y syniadau ar gyfer gwella'r afon. Gellir gweld y syniadau yn fwy manwl yn yr arolwg ar-lein (dolen isod).
Rhowch eich barn i ni
Ardaloedd
- Aberdare East
- Aberdare West/Llwydcoed
Cynulleidfaoedd
- River restoration
Diddordebau
- River restoration
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook