Adfer Afon Kenson
Trosolwg
Click to read this page in English / Cliciwch i ddarllen y dudalen hon yn Saesneg

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda Chastell Ffwl-y-mwn i adfer rhan o Afon Kenson yng nghwm Ystad Ffwl-y-mwn ger y Rhws ym Mro Morgannwg.
Dweud eich dweud! Ymgynghoriad ar y gwaith arfaethedig yn dechrau 19 Chwefror 2026 a dewch i'n digwyddiad galw heibio cyhoeddus yn Llancarfan ar 2 Mawrth
Cyn cyflwyno’r cais cynllunio, byddwn yn ymgynghori ar y gwaith arfaethedig o 19 Chwefror tan 19 Mawrth 2026. Bydd hwn yn gyfle i chi ddweud eich dweud a llunio dyfodol y prosiect adfer.
Cliciwch i ddarllen y dogfennau ac i ymateb i'r ymgynghoriad
Os hoffech weld y cynlluniau yn bersonol a siarad â'n tîm, dewch draw i'n digwyddiad galw heibio yn Neuadd Bentref Llancarfan (CF62 3AD) ar 2 Mawrth rhwng 1pm a 6pm.
Mae Afon Kenson yn gwrs dŵr bychan sy'n llifo trwy Bro Morgannwg, gan ymuno ag Afon Ddawan cyn cyrraedd Sianel Bryste. Yn hanesyddol, roedd yr afon yn cynnal amryw cyfoethog o gynefinoedd, gan gynnwys dolydd gwlyb a choetir glannau afon, a oedd yn darparu lloches i fywyd gwyllt ac yn helpu i reoleiddio llifogydd naturiol. Dros amser, mae dwysáu amaethyddol ac addasiadau sianel wedi newid ei gymeriad, gan leihau amrywiaeth cynefinoedd a datgysylltu'r afon o'i gorlifdir. Er gwaethaf y newidiadau hyn, mae'r afon yn parhau i fod yn nodwedd bwysig o'r dirwedd leol ac yn gyfrannwr allweddol i rwydwaith ecolegol yr ardal.
Ar hyn o bryd, mae Afon Kenson yn methu â chyrraedd Statws Ecolegol Da o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, yn bennaf oherwydd llygredd gwasgaredig gwledigddŵr, mewnbwn gwaddod mân, nodweddion sianel ac amrywiaeth llif gyfyngedig, cysylltedd gwael â’r gorlifdir, ac effeithiau ar fudo pysgod.
Tynnwyd ystumiau naturiol yr afon yn ystod gwaith adlinio’r sianel yn y 1950au, gan arwain at sianel syth, unffurf artiffsial a rhy ddwfn gyda’r amrywiad lleiaf posibl o ran ffurf a chynefin. Fodd bynnag, mae pantiau sianel hanesyddol yn dal i fod yn bresennol yng nghaeau’r dyffryn, gan ddangos bod llifoedd wedi mudo ar draws ardal fwy o’r gorlifdir yn flaenorol.
Nod prosiect adfer afon Kenson yw adfer 2.5km o brosesau afon naturiol trwy adfer ystumiau a chwrs naturiol yr afon. Bydd hyn hefyd yn ychwanegu hyd at 450 metr o gynefin amrywiol ar gyfer pysgod, llyswennod, dyfrgwn, llygod dŵr, infertebratau a phlanhigion dyfrol.
Mae’r gwaith adfer yn targedu cyflawni ’Statws Ecolegol Da’ drwy wella ansawdd dŵr, yr amrywiaeth o gynefinoedd, a chludiant gwaddod. Bydd yn cyfrannu at ecosystem sy’n wydn i heriau newid hinsawdd, fel llifogydd a sychder.
Mae’r prosiect hefyd yn anelu at ailgysylltu’r gymuned â’u hafon leol trwy adfer ecosystem iach a gweithredol lle gall pobl a natur ffynnu gyda’i gilydd.
Manteision y prosiect
Nod y prosiect yw dod â'r afon i 'Statws Ecolegol Da' trwy adfer 2.5km o'r afon, a bydd yr ystumiau’n arwain at estyniad o hyd at 450m i sianel yr afon.
Bydd dychwelyd at ffurfiannau hanesyddol yn adfer prosesau geomorffolegol naturiol, fel cludo a dyddodi deunyddiau.
Bydd 450m yn fwy o hyd afon yn darparu cynefin ychwanegol i rywogaethau sydd mewn perygl difrifol, fel llyswennod Ewropeaidd sydd mewn perygl difrifol, llygod dŵr a nifer o infertebratau. Yn ei dro, bydd hyn yn cyfrannu at gynefin amrywiol a gwydn. Bydd y gwelliant yn ansawdd a maint y cynefinoedd yn cefnogi ymhellach ymdrechion i ddad-ddofi’r tir sydd ar y gweill ar Ystad Ffwl-y-mwn.
Bydd y cynnydd yn hyd y sianel, a’r dolennedd naturiol uwch sydd ganddi, yn gwella ansawdd y cynefin yn y darn isaf hwn o'r afon. Er bod cyfleoedd silio yma wedi'u cyfyngu'n bennaf i rywogaethau fel crothell a bawd y melinydd, bydd y gwelliannau yn cefnogi mudo pysgod i fyny'r afon, gan gynnwys llyswennod, llysywen bendoll a brithyllod, trwy ddarparu mwy o orchudd a chynefin mwy amrywiol. Bydd y gwelliannau hyn yn cynnig manteision ecolegol ehangach y tu hwnt i ffin y prosiect ac i fyny'r afon tuag at gorff dŵr Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr Llancarfan sy'n methu, gan gynnwys amodau gwell ar gyfer pysgod ifanc fel llyswennod.
Bydd y prosiect yn darparu cysylltedd gwell ar gyfer arwynebedd gorlifdir o dros 20 hectar. Mae hyn yn golygu:
- Cynyddu’r capasiti ar gyfer llifogydd yn y dyffryn.
- Llif dŵr arafach yn ystod llifogydd, gyda dŵr yn gollwng i’r gorlifdir. Mae hyn yn caniatáu i waddod setlo a threiddio. Mae’r cynefin gwlyptir yn gweithredu fel purydd, sy’n gwella ansawdd dŵr i lawr yr afon.
- Mae pyllau ac ystumiau newydd sy’n arafu llif y dŵr hefyd yn gweithredu fel lloches i rywogaethau, a fyddai fel arall yn cael eu golchi i ffwrdd gan ddŵr sy’n llifo’n gyflymach.
Nodweddion dylunio

Delweddau’r prosiect
I fyny'r afon

A - Creu ysgafellau wedi’u gwneud â deunydd malurion/pren a stanciau helyg
B - Tynnu’r arglawdd a’i ailraddio
C - Plannu rhywogaethau brodorol ar lannau’r afon
D - Cyflwyno graean/gwaddod i greu tonnau naturiol yng ngwely’r afon
E - Cyflwyno deunydd pren/pren mawr
I lawr yr afon

A - Pori er lles cadwraeth
B - Tynnu’r arglawdd ac ailraddio’r glannau
C - Plannu rhywogaethau brodorol ar lannau’r afon
D - Cysylltiad gwell â’r gorlifdir, sianeli hanesyddol wedi’u hailgysylltu, ac ystumiau naturiol
Modelu llifogydd
Cynhaliwyd gwaith modelu llifogydd manwl ar gyfer Afon Kenson i ddeall sut mae llifogydd yn effeithio ar yr ardal nawr a sut y gallai newid ar ôl y gwaith adfer arfaethedig ar yr afon.
Mae'r canlyniadau'n dangos bod y safle'n profi llifogydd ym mhob senario - cyn ac ar ôl y gwaith adfer - ac roedd hyn i’w ddisgwyl (o ystyried bod y safle'n orlifdir).
Mae llifogydd fel arfer yn fwyaf dwfn yn rhan ddeheuol y safle ac yn fwy bas yn y gogledd.
Ar ôl y gwaith adfer, mae'r modelu'n dangos gwelliannau bach ond amlwg mewn rhai mannau. Bydd rhai ardaloedd y tu allan i goridor yr afon a fydd wedi'i adfer yn gweld ychydig llai o lifogydd, o ran dyfnder y llifogydd a pha mor bell y mae'r dŵr yn cyrraedd. Ni fydd unrhyw ardaloedd y tu allan i'r cynllun yn cael eu heffeithio'n andwyol gan gynnydd o ran perygl lifogydd.

AEP Afonol o 1% ynghyd â Chymhariaeth Grid Ôl-Ddatblygu Newid Hinsawdd
Fe wnaethon ni roi'r prosiect ar brawf gan ddefnyddio senario llifogydd mawr a elwir yn aml yn Debygolrwydd Gormodiant Blynyddol (AEP) o 1% neu ddigwyddiad llifogydd 1 mewn 100 mlynedd. Mae hyn yn golygu bod siawns o 1% y bydd llifogydd o'r fath yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn benodol. Nid yw'n golygu mai dim ond unwaith bob 100 mlynedd y mae'n digwydd.
Yn y senario llifogydd mawr hwn, mae'r modelu'n dangos bod y gwaith adfer arfaethedig yn lleihau'r lefelau dŵr uchaf ar draws y safle a'r gorlifdir cyfagos o gymharu â'r lefelau sylfaenol:
- Lefelau dŵr hyd at 5 cm yn is yng ngogledd-ddwyrain y safle (ardaloedd glas tywyll)
- Llai nag 1 cm o ostyngiad yn y de-orllewin (ardaloedd gwyrdd)
Mae'r gostyngiadau bach hyn yn digwydd oherwydd bydd sianel yr afon yn cael ei lledu, gan ganiatáu iddi ddal a symud mwy o ddŵr yn ystod cyfnodau o lif uchel. Mae'r capasiti ychwanegol hwn yn creu manteision lleol cymedrol ond mesuradwy o gymharu â'r sefyllfa bresennol.
Mae canlyniadau mwy manwl y gwaith modelu llifogydd wedi'u cynnwys yn y dogfennau ymgynghori cyn-ymgeisio.
Cwestiynau cyffredin a’r camau nesaf
Sut mae’r prosiect yn cael ei ariannu?
Ariennir y prosiect gan Raglen Gyfalaf Argyfwng Natur ac Hinsawdd (NaCE) Llywodraeth Cymru. Mae'r rhaglen yn cefnogi nifer o flaenoriaethau amgylcheddol gan gynnwys adfer mawndiroedd, adfer mwyngloddiau metel, pysgodfeydd, ansawdd dŵr a choedwigoedd cenedlaethol.
Beth yw’r heriau neu’r risgiau posibl sy’n gysylltiedig â’r gwaith?
Mae gan y gwaith adeiladu a’r nodweddion newydd y potensial i effeithio ar goed yn sianel yr afon, ond cymerir mesurau i gyfyngu ar yr effeithiau a’u lliniaru. Bydd unrhyw aflonyddwch i gynefinoedd daearol, a chynefinoedd gwlyptir sydd eisoes wedi’u sefydlu, yn cael ei leihau i’r lleiafswm trwy arolygon rhywogaethau wedi’u targedu, goruchwyliaeth o’r prosiect, a gwaith lliniaru a monitro. Bydd aflonyddwch yn y sianel yn ystod y gwaith adeiladu yn cael ei leihau gan ddefnyddio dulliau ac amseru priodol.
Pwy yw partneriaid a rhanddeiliaid y prosiect?
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ystad Ffwl-y-mwn yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu’r prosiect. Mae rhanddeiliaid eraill y prosiect yn cynnwys tirfeddianwyr a ffermwyr tenant lleol, Tarmac, y Grid Cenedlaethol, Cyngor Bro Morgannwg, a Heneb. Mae’r gwaith dylunio yn cael ei gwblhau gan JBA Consulting, gyda chefnogaeth tîm o ymgynghorwyr yn ôl yr angen.
Pryd mae’r gwaith i fod i ddechrau, a phryd y disgwylir ei gwblhau?
Y nod yw dechrau’r gwaith adeiladu yn ystod haf 2026 gyda’r disgwyl y bydd wedi’i gwblhau yn hydref 2026, gyda chyfnod monitro o bum mlynedd i ddilyn.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Mae dyluniad manwl a chais cynllunio ategol yn cael eu paratoi ar hyn o bryd, a chynigir iddynt gael eu cyflwyno yn gynnar yn 2026. Cynhelir digwyddiad ymgynghori cyn ymgeisio cyn cyflwyno’r cais yn ffurfiol, gan ganiatáu ar gyfer cwestiynau ac adborth pellach, ac i ddarparu gwybodaeth fanylach am y cynigion.
Gwaith wedi'i gwblhau - Tynnu cored Kenson
Cwblhawyd cam cyntaf gwella statws Cyfarwyddeb Fframwaith Dwr afon Kenson yr haf 2025, drwy gael gwared ar y gored oedd yn methu ym mhen deorllewinol yr afon o fewn Ystad Ffwly-mwn. Bydd cael gwared ar y rhwystr hwn o fudd i fywyd gwyllt ar lefel leol a bydd hefyd yn galluogi cyfl eoedd gwella ar raddfa fwy ar y cyd â phrosiect adfer ehangach afon Kenson.
Manteision cael gwared ar y gored yw adfer cysylltedd, gan fod o fudd i fi oamrywiaeth ac ansawdd y dwr, yn ogystal â chael gwared ar rwystrau i symudiad pysgod, ac adfer swyddogaethau naturiol yr afon a’r ffordd y mae’n trosglwyddo gwaddod. Bydd cael gwared ar y gored hefyd yn lleihau erydu a sgwrio lleol, yn ogystal â chynyddu capasiti’r sianel yn ystod llifogydd a llanwau uchel.
Cyn tynnu’r cored

Ar ôl tynnu’r cored

Cysylltwch รข ni
Ardaloedd
- Rhoose
Cynulleidfaoedd
- River restoration
Diddordebau
- River restoration
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook