Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf
Trosolwg
Mae Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf wedi ei ariannu gan Gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru, rhan o’r Rhaglen Gyfalaf Dŵr, i adfer cyflwr Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Gwy Uchaf. Mae afon Gwy yn un o afonydd mwyaf arbennig y DU, a adlewyrchir gan ei dynodiad fel ardal cadwraeth arbennig a safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddiogelu rhywogaethau, adfer cynefinoedd, a gwella ansawdd dŵr wrth feithrin gwydnwch i newid hinsawdd. Mae’r prif amcanion yn cynnwys:
- adfer a gwella cynefinoedd yn yr afon, ar lannau’r afon, ac yn y dalgylch ehangach;
- lleihau gwaddod a llygryddion sy’n mynd i mewn i’r afon;
- gwella gwydnwch yr afon i ddigwyddiadau tywydd eithafol a thymheredd cynhesach sy’n deillio o newid yn yr hinsawdd.
Mae’r prosiect yn cyd-fynd â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Pwysigrwydd afon Gwy
Mae afon Gwy uchaf yn tarddu ym Mynyddoedd Cambria ar Bumlumon ac yn llifo trwy dirweddau ucheldirol Powys. Mae’r rhannau uchaf hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio iechyd y system afonol gyfan i lawr yr afon.
Mae afon Gwy a’i hisafonydd yn gartref i sawl rhywogaeth bwysig fel eog Iwerydd, gwangod, dwrgi, cimwch crafanc wen yr afon, ac egyllt y dŵr (Ranunculus).
Mae’r afon a’r tirweddau o’i chwmpas yn cael eu trysori gan gymunedau lleol ac ymwelwyr oherwydd eu manteision diwylliannol, ac o ran hamdden a llesiant.
Lluniau: Peter Lewis
Beth yw’r pwysau sy’n wynebu ein hafonydd?
Mae afon Gwy uchaf yn wynebu pwysau oherwydd llygredd, gan gynnwys maetholion a gwaddod, cynefin gwael, a diffyg gorchudd coed, erydu a newid yn yr hinsawdd. Mae hafau cynhesach a sychach yn arwain at lifoedd isel a thymheredd dŵr uwch, gan roi rhywogaethau sensitif fel eogiaid dan straen. Mae rheoli tir yn y gorffennol wedi arwain at gael gwared ar gysgod naturiol ar y glannau a chynefinoedd pwysig, fel clogfeini a choed mawr, yn yr afon.
Mae adeileddau fel coredau, cwlfertau a sianeli wedi eu haddasu yn tarfu ar brosesau naturiol afonydd a mudo gan bysgod, tra bod rhywogaethau planhigion goresgynnol yn ansefydlogi glannau afonydd ac yn cystadlu â rhywogaethau brodorol.
Mae mynd i’r afael â’r pwysau hyn yn rhan uchaf y dalgylch yn hanfodol, gan fod gwelliannau yma yn cynnal iechyd a gwydnwch afon Gwy gyfan i lawr yr afon.

Y camau rydyn ni’n eu cymryd
Rydym yn gweithio ochr yn ochr â thirfeddianwyr, ffermwyr, cymunedau a sefydliadau lleol i adfer dalgylch afon Gwy uchaf trwy gamau ymarferol ar lawr gwlad.
Mae ein gwaith yn cynnwys:
- adfer coridorau afonydd trwy osod ffensys ar lannau afonydd, a phlannu lleiniau clustogi i amddiffyn glannau a gwella ansawdd dŵr;
- creu cynefin gwell yn yr afon drwy gyflwyno deunydd prennaidd mawr i arafu llifoedd a chynnal pysgod ac infertebratau;
- lleihau llygredd, a chadw pridd ar y tir drwy fesurau rheoli tir pwrpasol;
- arafu llif dŵr dros y tir er mwyn iddo dreiddio i’r pridd, yn hytrach na rhedeg yn uniongyrchol i’r afon;
- adfer ac ailgysylltu gorlifdiroedd i storio dŵr yn naturiol yn ystod llifoedd uchel;
- tynnu neu addasu adeileddau o waith dyn sy’n rhwystro symudiad pysgod ac yn tarfu ar brosesau naturiol yr afon;
- mynd i’r afael â rhywogaethau planhigion estron goresgynnol sy’n cyfrannu at erydu glannau ac yn trechu planhigion brodorol, fel jac y neidiwr a pidyn-y-gog Americanaidd.
Mae monitro gydag offer fel cofnodwyr data sond, arolygon electrobysgota, a lluniau drôn yn olrhain cynnydd ac yn sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni mewn ardaloedd sy’n darparu’r budd mwyaf.
Gyda’i gilydd, mae’r camau gweithredu hyn yn helpu i adfer prosesau naturiol afonydd, gwella gwydnwch i newid yn yr hinsawdd, a chynnal bywyd gwyllt a chymunedau ar hyd afon Gwy.

Diweddariadau
I ddod o hyd i'r newyddion diweddaraf o'r prosiect edrychwch ar ein cylchgronau:
Cylchlythyr #1
🔗Cofrestrwch ar gyfer rhifynnau'r dyfodol yma 👉 COFRESTRWCH
Ardal y prosiect
Mae ardal y prosiect yn cwmpasu dalgylch afon Gwy i fyny’r afon o’r Gelli Gandryll. Ein meysydd ffocws presennol yw afon Ithon a’i hisafonydd i fyny’r afon o Landrindod, afon Gwy uchaf a’i hisafonydd i fyny’r afon o Bontnewydd-ar-Wy, ac afon Irfon i’r gorllewin o Lanfair-ym-Muallt. Rydym yn gwneud rhywfaint o waith mewn ardaloedd eraill, felly mae gennym ddiddordeb bob amser mewn clywed gan unrhyw ran o’r dalgylch uchaf.

Ein gwaith gyda chymunedau
Mae cymunedau sy’n byw ac yn gweithio ar hyd afon Gwy uchaf wrth wraidd y prosiect hwn, ac rydym yn cydweithio’n agos â phobl a sefydliadau lleol.
Mae ffermwyr a rheolwyr tir yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio’r dalgylch. Rydym yn ariannu ac yn cyflawni gwaith ar ffermydd sy’n fuddiol i iechyd afonydd tra’n cefnogi busnesau fferm effeithlon a phroffidiol. Mae’r holl waith yn cael ei ddatblygu mewn cydweithrediad â thirfeddianwyr, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u profiad lleol, a’n cyngor technegol ni.
Rydym hefyd yn cydweithio’n agos ag ystod eang o sefydliadau sy’n gweithio yn yr ardal, gan gynnwys Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn, Sefydliad Gwy ac Wysg, Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw a Coed Cadw, sefydliadau ffermio, a grwpiau clwstwr ffermydd.
Rydym yn annog pobl i gymryd rhan lle bynnag y bo modd, trwy ddigwyddiadau fel ymweliadau â safleoedd a sgyrsiau, mynd i sioeau amaethyddol lleol sefydledig, a digwyddiadau cymunedol ar draws y dalgylch.
Drwy ymgysylltu â chymunedau a gweithio gyda’n gilydd gallwn rannu gwybodaeth a chyflawni gwelliannau i afon Gwy, a fydd ag effaith gadarnhaol am flynyddoedd i ddod.

Cofrestrwch ar gyfer ein e-gylchlythyr
Rydym yn cynhyrchu e-gylchlythyr chwarterol yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd, ochr yn ochr â straeon a mewnwelediadau diddorol am afon Gwy uchaf. Os hoffech chi barhau i gael gwybodaeth, gallwch chi gofrestru yma:
Diolch am eich diddordeb!
Canfyddwch ni @AdferGwyUchaf
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni Os ydych yn dirfeddiannwr, yn denant, neu’n grŵp cymunedol yn ardal uchaf afon Gwy ac os hoffech weithio gyda ni a chymryd rhan, cysylltwch â ni drwy:
AdferGwyUchaf@cyfoethnaturiol.cymru
Cadwch mewn cysylltiad
Rydym yn ymgysylltu â sefydliadau, grwpiau a chymunedau lleol trwy gyfrwng digwyddiadau lleol, cylchlythyrau a blogiau, ac yn rhoi gwybod am ein cynnydd trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Beth am ein dilyn i weld beth rydyn ni’n ei wneud?
Ardaloedd
- Builth
- Llandrindod East/Llandrindod West
- Llandrindod North
- Llandrindod South
- Rhayader
Cynulleidfaoedd
- Anglers
- citizens
- Fly-fishing
- Forest Management
- NFU
- Rivers
- Wales Biodiversity Partnership
Diddordebau
- Biodiversity
- Community Engagement
- Fishing
- Flooding
- Forest Management
- Terrestrial ecosystems and species
- water framework directive
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook