Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf

Yn cau 30 Maw 2029

Wedi'i agor 20 Mai 2024

Trosolwg

Mae Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf yn prosiect CNC, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, i adfer cyflwr rhan uchaf afon Gwy.

Mae afon Gwy yn un o afonydd mwyaf arbennig y DU, ac mae hynny wedi’i adlewyrchu yn y ffaith ei bod wedi’i dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Mae’n gartref i nifer o rywogaethau pwysig, gan gynnwys eogiaid, dyfrgwn, gwangod a herlod, cimychiaid yr afon, yn ogystal â’r planhigyn crafancy-frân y dŵr.

Mae’r afon hefyd yn cael ei choleddu a’i defnyddio gan gymunedau lleol ac ymwelwyr at ddibenion gweithgareddau awyr agored a lles.

Kingfisher

Ardal Prosiect

Mae ardal y prosiect yn cynnwys dalgylch afon Gwy i fyny’r afon o’r Gelli Gandryll. Bydd y gwelliannau a wnawn yn y dalgylch uchaf o fudd i’r afon gyfan.

Nod cyffredinol y prosiect

Nod cyffredinol y prosiect hwn yw gwarchod rhywogaethau a gwella cynefinoedd trwy fynd i’r afael â nifer o wahanol fathau o bwysau sy’n effeithio ar yr afon.

Diben y prosiect yw:

  • adfer a gwella cynefinoedd yn yr afon, ar lannau’r afon ac yn y dalgylch yn ehangach
  • lleihau’r gwaddod a’r llygryddion sy’n mynd i mewn i’r afon
  • gwella gwytnwch yr afon yn wyneb tywydd eithafol a thymheredd cynhesach o ganlyniad i newid hinsawdd

Camau gweithredu’r prosiect

Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â thirfeddianwyr, ffermwyr, cymunedau a sefydliadau lleol i:

  • Adfer coridorau afon trwy ffensio a phlannu parthau clustogi
  • Creu cynefin yn yr afon trwy gyflwyno deunydd coediog mawr
  • Cyflwyno mesurau i leihau llygredd a chadw’r pridd ar y tir
  • Cyflwyno mesurau i arafu llif dŵr dros y tir, gan annog y pridd i’w amsugno
  • Adfer ac ailgysylltu gorlifdiroedd
  • Tynnu neu addasu strwythurau o waith dyn sy’n rhwystro symudiad pysgod a graean
  • Cael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol sy’n cyfrannu at erydiad y glannau ac sy’n gystadleuaeth rhy gryf i’n planhigion brodoro

Byddwn yn olrhain ein cynnydd trwy gyfrwng rhaglen fonitro, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau megis ffotograffiaeth, dronau ac arolygon ecolegol.

Cydweithio

Nid yw adfer rhan uchaf afon Gwy yn rhywbeth y gallwn ei gyflawni ar ein pen ein hunain, a bydd cefnogaeth gan gymunedau lleol a thirfeddianwyr yn hollbwysig. Mae sefydliadau ac elusennau eraill eisoes yn gweithio yn y maes hwn, ac rydym yn chwilio am ffyrdd y gallwn wella ac ychwanegu gwerth at waith ein gilydd, a rhannu gwybodaeth a syniadau.

 

Canfyddwch ni @AdferGwyUchaf

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni Os ydych yn dirfeddiannwr, yn denant, neu’n grŵp cymunedol yn ardal uchaf afon Gwy ac os hoffech weithio gyda ni a chymryd rhan, cysylltwch â ni drwy:

AdferGwyUchaf@cyfoethnaturiol.cymru

Cadwch mewn cysylltiad

Rydym yn ymgysylltu â sefydliadau, grwpiau a chymunedau lleol trwy gyfrwng digwyddiadau lleol, cylchlythyrau a blogiau, ac yn rhoi gwybod am ein cynnydd trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Beth am ein dilyn i weld beth rydyn ni’n ei wneud?

Digwyddiadau

  • Byddwn yn lawnsio ein prosiect yn y Sioe Frenhinol Cymru (tocynnau mynediad yn angenrheidiol)

    O 22 Gorff 2024 at 11:00 i 22 Gorff 2024 at 11:30

    Ar ôl yr oedi oherwydd yr Etholiad Cyffredinol, mae Tîm Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf Cyfoeth Naturiol Cymru yn falch o gyhoeddi ein lansiad swyddogol ar:

    Ddydd Llun, 22 Gorffennaf 2024, Pabell CNC (878-CCA), Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt

    Ar ôl cyhoeddi’r lansiad, bydd tîm y prosiect wrth law am sgwrs anffurfiol am y prosiect ac i ateb unrhyw gwestiynau. Dewch draw i babell CNC (878-CCA) i ddweud 'helo' os ydych chi'n dod i'r sioe.

Ardaloedd

  • Builth
  • Llandrindod East/Llandrindod West
  • Llandrindod North
  • Llandrindod South
  • Rhayader

Cynulleidfaoedd

  • Fly-fishing
  • Rivers
  • Management
  • citizens
  • NFU
  • Anglers
  • Wales Biodiversity Partnership

Diddordebau

  • Flooding
  • Forest Management
  • Community Engagement
  • water framework directive
  • Terrestrial ecosystems and species
  • Fishing
  • Biodiversity