Ymgysylltu Rhagarweiniol â’r Farchnad: Marchnad Ddynamig Gwasanaethau Cynaeafu Cynhyrchu Uniongyrchol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Yn cau 31 Hyd 2025

Wedi agor 20 Awst 2025

Trosolwg

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymgymryd ag ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad ar gaffael marchnad ddynamig ar gyfer darparu gwasanaethau cynaeafu cynhyrchu uniongyrchol ledled Cymru.

Mae gwybodaeth am weithgarwch ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad CNC yn gyffredinol, sy’n agor ar 19 Awst 2025 ac yn dod i ben ar 31 Hydref 2025, ar gael yma: marchnad ddynamig gwasanaethau cynaeafu pren cynhyrchu uniongyrchol Cymru gyfan – dod o hyd i dendr.

Rydym nawr yn gofyn am farn contractwyr posibl drwy wahodd cwmnïau i gwblhau’r holiadur ar-lein drwy agor y ddolen i’r “Holiadur i Gyflenwyr” isod. ei ofyniad a hysbysu’r farchnad am y cyfle tendro sydd ar ddod.

Nod yr holiadur yw casglu gwybodaeth am y farchnad, helpu CNC i ddatblygu ei ofynion, a hysbysu’r farchnad am y cyfle tendro sydd ar ddod.

Nid galwad am gystadleuaeth yw’r holiadur ac mae cymryd rhan yn wirfoddol. Caiff eich gwybodaeth ei chadw’n ddiogel. Ni fydd yn cael ei throsglwyddo i unrhyw drydydd parti a bydd yn cael ei chadw am gyfnod cyfyngedig o amser ac yn cael ei defnyddio mewn cysylltiad â’r prosiect hwn yn unig. Darllenwch fwy am sut rydym yn rheoli gwybodaeth amdanoch chi yn ein Datganiad Preifatrwydd.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion i’r holiadur yw 11.59 pm ar ddydd Llun, 13 Hydref 2025.

Anogir contractwyr hefyd i fynychu cyfarfod ar-lein am 2 pm ar ddydd Mawrth, 16 Medi 2025. Gallwch gofrestru eich presenoldeb drwy lenwi’r ffurflen ar-lein o dan “Cynnwys Perthnasol” isod.

Pam bod eich barn yn bwysig

Mae cymryd rhan mewn ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad yn gyfle i chi ddysgu am gynnig cyfredol CNC ar gyfer caffael gwasanaethau cynaeafu cynhyrchu uniongyrchol YN OGYSTAL Â rhoi adborth i CNC ar sut i lunio ei ddull.

Digwyddiadau

  • Ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad: cyfarfod rhithiol

    O 16 Medi 2025 at 14:00 i 16 Medi 2025 at 16:00

    Anogir contractwyr posibl i fynychu cyfarfod ar-lein drwy Microsoft Teams i glywed cynnig cyfredol CNC ar gyfer caffael gwasanaethau cynaeafu cynhyrchu uniongyrchol mewn marchnad ddeinamig AC i roi adborth ar sut y gallai CNC lunio ei ofynion.

    Cofrestrwch eich presenoldeb drwy lenwi'r ffurflen ar-lein o dan y Cynnwys Perthnasol isod.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Forest Management
  • Rheoli coedwigoedd
  • Woodland Opportunity Map users

Diddordebau

  • Forest Management
  • Gwerthu Pren
  • Rheoli Coedwig
  • Timber sales