FFramwaith Adeiladu a Chynnal Seilwaith Coedwigaeth - Digwyddiadau Galw Heibio i Ymgysylltu a Chyflwenwyr

Overview

Dyma fframwaith i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) benodi contractwyr cymwys i adeiladu, cynnal a chadw, atgyweirio neu uwchraddio strwythurau a’r tir cysylltiedig yn Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru. Mae'r gwaith hwn yn galluogi gweithrediadau cynaeafu coed diogel ac effeithlon.

Mae'r cwmpas yn cynnwys llwybrau coedwig, ffyrdd, pontydd, a seilwaith hanfodol arall sy'n cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni ei gyfrifoldebau o ran rheoli Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru. Rhaid i bob gweithgaredd gydymffurfio â’r deddfwriaeth berthnasol o ran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd er mwyn sicrhau rheoli tir yn gyfrifol a chynaliadwy.

Mae CNC am wahodd cyflenwyr sydd â diddordeb i'r sesiynau ymgysylltu i drafod y cyfle y mae’r fframwaith yn ei gynnig, y broses dendro, a rhaglenni gwaith seilwaith coedwigaeth yn y dyfodol. 

Digwyddiadau 'galw heibio' fydd y rhain, felly ni fydd agenda benodol.  Fodd bynnag, bydd disgwyl i gyflenwyr gofrestru ar ôl cyrraedd, a bydd gwybodaeth am y fframwaith yn cael ei darparu.  Bydd cyfle hefyd i gael sgwrs anffurfiol gyda Busnes Cymru a chynrychiolwyr Peirianwyr Sifil Coedwigaeth CNC, ac i ddysgu am y cymorth sydd ar gael.

I ddod i'r digwyddiad hwn, sy’n rhad ac am ddim, cwblhewch y ffurflen a chadarnhewch pa ddigwyddiad yr hoffech ddod iddo - naill ai Coed y Brenin neu Resolfen.  

Cofrestrwch eich diddordeb yma os gwelwch yn dda

Closes 3 Aug 2026

Opened 29 Jun 2026

Events

  • NRW Forest Infrastructure Construction and Maintenance Framework

    From 4 Aug 2026 at 10:00 to 4 Aug 2026 at 16:00
    Location Coed y Brenin Conference room, Coed y Brenin, Dolgellau, LL40 2HZ

    Supplier Engagement Event - Drop in event so suppliers can come along to Coed y Brenin any time between between 10am and 4pm

  • NRW Forest Infrastructure Construction and Maintenance Framework

    From 5 Aug 2026 at 10:00 to 5 Aug 2026 at 16:00
    Location NRW Resolven Office, Coed-y-Cymoedd, Resolven, SA11 4DR

    Supplier Engagement Event - Drop in event so suppliers can come along to NRW Resolven Office any time between between 10am and 4pm

Areas

  • All Areas

Audiences

  • Forest Management

Interests

  • Timber sales