Uned Ddofednod Racecourse — Ymgynghoriad Cais Cychwynnol
Trosolwg
Mae 2 Agriculture Growing Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i newid ei drwydded amgylcheddol ar gyfer Uned Ddofednod Racecourse (rhif trwydded EPR/XP3838WZ).
Mae'r newid hwn, a elwir yn 'amrywiad', yn ofyniad cyfreithiol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
Rydym yn ceisio sylwadau ar y cais hwn.
Manylion y cais
Cyfeirnod y Cais: PAN-029600
Math o gyfleuster rheoledig: Fferm Ddwys
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Cae Ras / Racecourse, Heol Babell, Treffynnon, Sir y Fflint, CH8 8PW
Bydd yr amrywiad yn cynyddu nifer yr adar y caniateir eu cadw ar y safle o 114,000 i 132,000. Bydd yr amrywiad hefyd yn cynnwys newid i gynllun y safle. Bydd y Gweithredwr yn dymchwel 8 sied bresennol ac yn codi 3 sied fodern yn eu lle.
Mae'r cais yn cynnwys disgrifiad llawn o'r gosodiad arfaethedig.
Gallwch weld y set lawn o ddogfennau cais ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein . Fel arall, gallwch drefnu i weld y dogfennau drwy ffonio ein Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid ar 0300 065 3000 neu drwy anfon e-bost at permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk .
Pam y mae eich barn chi yn bwysig
Rydym eisiau gwneud y penderfyniad gorau wrth drwyddedu. Mae gwrando ar farn pobl eraill yn ein helpu i ystyried pryderon, neu ffactorau amgylcheddol lleol, nad ydym efallai yn ymwybodol ohonynt fel arall.
Rydym yn gofyn am eich sylwadau ar y cais ac rydym wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus pedair wythnos. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion perthnasol cyn i ni wneud ein penderfyniad ar y cais am drwydded.
Gallwch gynnig sylwadau ar y cais trwy gymryd rhan yn ein hymgynghoriad. Mae dolen i’r ymgynghoriad ar waelod y dudalen hon. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth gyflwyno eich sylwadau, gallwch anfon eich sylwadau atom drwy e-bost i permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk
Gweler Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfranogiad y cyhoedd: sut y gallwch chi gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ar drwyddedau am ragor o wybodaeth am sut rydym yn ymgynghori a pha faterion sydd o fewn ein cylch gwaith rheoleiddio.
Ymgynghori Ar-lein
Ardaloedd
- Holywell West
Cynulleidfaoedd
- EPR and COMAH facilities
Diddordebau
- Permits
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook