Newid i drwydded amgylcheddol ar gyfer Fferm Llanshay
Trosolwg
Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English
Mae Llanshay Farm Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru i newid y drwydded amgylcheddol ar gyfer Fferm Llanshay (rhif trwydded EPR/AB3593ZL).
Mae’r newid hwn, a elwir yn ‘amrywiad’, yn ofyniad cyfreithiol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
Rydym wedi asesu'r cais ac rydym yn bwriadu caniatáu'r amrywiad. Rydym bellach yn ymgynghori ar ein penderfyniad drafft.
Manylion y Cais
Gweithredwr: Llanshay Farm Limited
Cyfeirnod y cais: PAN-018463
Math o gyfleuster rheoledig: Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, gweithfa Atodlen 1, Rhan 1, Adran 6.9 A(1)(a)(i) Magu dofednod neu foch yn ddwys mewn gweithfa gyda mwy na: (i) 40,000 o leoedd dofednod.
Cyfeiriad y safle: Fferm Llanshay, Lôn Llanshay, Trefyclo, Powys, LD7 1LW
Mae'r gweithredwr wedi cynnig y newidiadau canlynol i'w drwydded:
- cynnydd yn nifer y lleoedd dofednod o 110,000 i 200,000
- adeiladu 2 sied dofednod newydd
- Gosod sgwrwyr amonia ym mhob sied dofednod (newydd a phresennol) i leihau allyriadau amonia i'r aer
Ein penderfyniad drafft
Rydym yn bwriadu caniatáu’r amrywiad i’r drwydded. Dim ond os credwn na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi a bod gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau'r drwydded y byddwn yn caniatáu amrywio trwydded.
Mae'r drwydded yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd pobl a'r amgylchedd.
Pam bod eich barn yn bwysig
Dyma'ch cyfle i adolygu ein penderfyniad drafft a chyflwyno eich sylwadau. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion perthnasol cyn i ni wneud ein penderfyniad terfynol ar y cais am drwydded.
Gweler Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfranogiad y cyhoedd: sut y gallwch gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ar drwyddedau am ragor o wybodaeth am sut rydym yn ymgynghori a pha faterion sydd o fewn ein cylch gwaith rheoleiddio.
Gallwch weld y dogfennau drafft canlynol a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad gan ddefnyddio'r dolenni isod:
Mae'r dogfennau hyn hefyd ar gael ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Os hoffech gyflwyno eich sylwadau drwy e-bost, cysylltwch â permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Rhowch eich barn i ni
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Citizens
Diddordebau
- Permits
- Trwyddedau
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook