Prosesu Ieir Sandycroft – Ymgynghoriad Cais Cychwynnol
Trosolwg
English version available here
Mae 2 Sisters Food Group Limited wedi cyflwyno cais i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i newid ei drwydded amgylcheddol ar gyfer Sandycroft Poultry Processing (rhif trwydded EPR/YP3632EM).
Mae'r newid hwn, a elwir yn 'amrywiad', yn ofyniad cyfreithiol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
Rydym yn ceisio sylwadau ar y cais hwn.
Manylion y cais
Cyfeirnod y cais: PAN-031585
Math o gyfleuster rheoledig: Lladd-dy a Chyfleuster Cynhyrchu
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Sandycroft Poultry Processing, Glendale Avenue, Sandycroft, Sir y Fflint, CH5 2QP
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgynghori ar gais sydd wedi’i gyflwyno gan 2 Sisters Food Group Limited i amrywio trwydded ar gyfer ei gyfleuster prosesu dofednod.
Mae'r cais yn ceisio amrywio'r drwydded amgylcheddol bresennol, er mwyn gwneud y canlynol:
- Cynyddu nifer yr adar sy'n cael eu prosesu ar y safle o 134,000 o adar y dydd i 172,000 o adar y dydd.
- Cynyddu’r diwrnodau gweithredu o chwe diwrnod yr wythnos i saith diwrnod yr wythnos.
- Caniatáu gweithredu uned oeri sydd wedi'i gosod ar y safle yn lle uned flaenorol.
Cyn gwneud penderfyniad ar y cais hwn, rydyn ni’n gwahodd sylwadau gan bartïon â diddordeb. Byddwn ni’n ystyried yr holl ymatebion perthnasol a ddaw i law yn ystod y cyfnod ymgynghori wrth asesu'r cais a phenderfynu a yw’n bosibl cyflawni'r newidiadau arfaethedig, a pharhau i amddiffyn pobl a'r amgylchedd.
Mae gwybodaeth sy'n ymwneud â'r cais ar gael yn rhan o'r ymgynghoriad hwn. Rydyn ni’n eich annog chi i adolygu dogfennau'r cais cyn cyflwyno eich ymateb.
Diolch i chi am roi o’ch amser i rannu eich barn.
Gallwch weld y set lawn o ddogfennau cais ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein. Fel arall, gallwch drefnu i weld y dogfennau drwy ffonio ein Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid ar 0300 065 3000 neu drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Pam mae eich barn chi yn bwysig
Rydym eisiau gwneud y penderfyniad gorau wrth drwyddedu. Mae gwrando ar farn pobl eraill yn ein helpu i ystyried pryderon, neu ffactorau amgylcheddol lleol, na fyddem, o bosibl, yn ymwybodol ohonynt fel arall.
Rydym yn gofyn am eich sylwadau ar y cais ac rydym wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus pedair wythnos o hyd. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion perthnasol wrth i ni wneud asesu’r cais am drwydded.
Er mwyn eich helpu, rydym wedi nodi isod yr hyn y gallwn ei ystyried, a'r hyn na allwn ei ystyried.
Ymhlith materion y gallwn ystyried sylwadau arnynt mae:
- Rheolaeth weithredol gyffredinol o’r cyfleuster arfaethedig
- Cymhwysedd y gweithredwr arfaethedig i fodloni amodau'r drwydded
- Trin a storio dofednod sy'n dod i mewn
- Defnydd effeithlon o ddeunyddiau crai, dŵr ac ynni
- Rheoli arogl, sŵn, sbwriel a phlâu
- Rheoli allyriadau i'r amgylchedd i'r terfynau a ganiateir
- Proses fonitro, gweithdrefnau a safonau y cytunwyd arnynt
- Monitro allyriadau i'r amgylchedd i safonau y cytunwyd arnynt
- Rheolaeth ar drin a storio gwastraff gweddilliol o'r broses
- Rheolaeth ar drin a storio deunyddiau crai
- Effeithiau posibl ar iechyd a'r amgylchedd lleol
- Unrhyw ffactorau lleol perthnasol nad ydych chi'n credu bod 2 Sisters Food Group Limited wedi'u hystyried yn ei gais am drwydded
Ymhlith materion na allwn ystyried sylwadau arnynt mae:
- Lleoliadau amgen ar gyfer y safle
- Traffig
- Effaith weledol
- Oriau gweithredu
- Cludo gwastraff i'r safle ac oddi yno
- O ble mae'r stoc dofednod yn dod
- A ddylai safle gael dynodiad ffurfiol o dan ddeddfwriaeth gadwraeth
- Iechyd a lles anifeiliaid
Gallwch gynnig sylwadau ar y cais drwy gymryd rhan yn ein hymgynghoriad. Mae dolen i’r ymgynghoriad ar waelod y dudalen hon. Os cewch unrhyw broblemau wrth gyflwyno eich sylwadau, gallwch anfon eich sylwadau atom drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Gweler Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfranogiad y cyhoedd: sut y gallwch gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ar drwyddedau am ragor o wybodaeth am sut rydym yn ymgynghori a pha faterion sydd o fewn ein cylch gwaith rheoleiddio.
Ymgynghori Ar-lein
Ardaloedd
- Whitford
Cynulleidfaoedd
- EPR and COMAH facilities
Diddordebau
- Permits
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook