Rydym yn bwriadu cyhoeddi’r newid. Byddwn yn cyhoeddi’r newid yn unig os credwn na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi ac os oes gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau’r drwydded. Bydd unrhyw drwydded y byddwn yn ei rhoi yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd dynol a’r amgylchedd.
Rhif y cais: PAN-005141/V002
Math o gyfleuster rheoledig: Atodlen 1, Rhan 2, Pennod 5, Adran 5.1 Rhan B (a)(v) Llosgi mewn gweithfa losgi fechan sy’n dal cyfanswm o 50 kg neu fwy yr awr o’r gwastraff canlynol – gwastraff pren ac eithrio gwastraff pren a allai gynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i driniaeth â chadwolion pren neu gaenu, Atodlen 25A: Cyfarpar Hylosgi Canolig ac Atodlen 25B: Generadur Penodol
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Blazers Fuels, Lôn Brickfield, Ffordd Dinbych, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2TN
Mae Newbridge Energy Limited wedi cyflwyno cais am newid sylweddol i ychwanegu un boeler biomas newydd mewnbwn thermol 5.2 MW gwres a phŵer cyfunedig, sy’n defnyddio tanwydd o bren crai, at eu trwydded gyfredol. Ar hyn o bryd caniateir i’r Gweithredwr weithredu un boeler biomas mewnbwn thermol 5.2 MW gwres a phŵer cyfunedig sy’n defnyddio tanwydd o bren crai a phren gwastraff. Mae'r cyfleuster rheoledig yn cynnwys y broses losgi/hylosgi ei hun a’r broses o storio lludw gwaelod ar unwaith. Nid yw'r cyfleuster rheoledig yn cynnwys:
Am fwy o wybodaeth am ein proses ymgynghori, gan gynnwys ein cylch gwaith cyfreithiol, gweler ein Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd. I weld y dogfennau cais cysylltiedig, trwydded ddrafft a dogfen penderfyniad drafft gweler ein Cofrestr Gyhoeddus Ar-lein.
Share
Share on Twitter Share on Facebook