Ar 17 Medi 2019, gwnaeth Menter Môn gyflwyno cais am drwydded forol i Cyfoeth Naturiol Cymru am Brosiect Arddangos Ffrwd Lanwol o'r enw Morlais.
Bydd y prosiect yn darparu parth arddangos technoleg lanwol â chaniatâd, wedi'i ddylunio'n benodol ar gyfer gosod ac arddangos yn fasnachol araeau niferus o ddyfeisiau ynni llanwol hyd at gapasiti gosodedig o 240 megawat (hyd at 620 o ddyfeisiau). Mae'r ardal datblygu yn y môr lle gall y gosodiadau arfaethedig fynd yn cwmpasu arwynebedd o 35km2 i'r gorllewin o Ynys Môn. Bydd y prosiect yn cynnwys seilwaith cymunedol i ddatblygwyr technoleg lanwol sy'n darparu llwybr a rennir i gysylltiad grid lleol drwy naw cynffon cebl allforio, is-orsaf glanfa ar y tir, a llwybr cebl trydanol ar y tir i gysylltiad grid drwy is-orsaf cysylltiad grid.
Gwnaethom ymgynghori'n gyhoeddus ar y wybodaeth a gyflwynwyd gyda'r cais. Dechreuwyd yr ymgynghoriad hwnnw ar 27 Tachwedd 2019 a daeth i ben ar 8 Ionawr 2020. Yn dilyn cyflwyno gwybodaeth bellach, ymgynghorwyd â'r cyhoedd am ail dro rhwng 29 Gorffennaf 2020 a 9 Medi 2020.
Rydym wedi cynhyrchu Datganiad lle y gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y broses benderfynu ar gyfer y cais am drwydded forol Morlais.
Yng Nghymru, rôl CNC, fel yr awdurdod trwyddedu morol ar ran Gweinidogion Cymru, yw penderfynu ar gais trwydded forol Menter Môn. Mae hyn yn ymwneud ag agweddau ar y prosiect am waith y mae angen i'w wneud yn yr amgylchedd morol ac ardaloedd llanwol (ardal sydd tua'r môr o benllanw cymedrig y gorllanw) ac o ran penderfynu a ddylid rhoi trwydded ag amodau neu wrthod y cais. Caiff y camau y byddwn yn eu dilyn wrth benderfynu p’un a ddylid rhoi neu wrthod trwydded eu diffinio gan ofynion cyfreithiol.
Ar 19 Chwefror 2021, derbyniwyd gwybodaeth bellach gan yr ymgeisydd ac rydym bellach yn ymgynghori gyda'r cyrff arbenigol a'r cyhoedd i ofyn am eu barn ar y wybodaeth a gyflwynwyd. Gellir gweld rhestr o ddogfennu a gyflwynwyd fel rhan o'r wybodaeth bellach a gyflwynwyd yn y mynegai dogfennau isod ac maent ar gael ar ein cofrestr gyhoeddus. Ar y gofrestr gyhoeddus, bydden yn cynghori eu trefnu o ran dyddiad, a defnyddio'r swyddogaeth chwilio er mwyn dod o hyd i ddogfen benodol.
Sylwer y bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu gyda'r ymgeisydd a gellir eu rhoi ar ein cofrestr gyhoeddus, gyda manylion personol wedi'u tynnu yn unol â gofynion GDPR.
Share
Share on Twitter Share on Facebook