Melin Bapur Shotton – Ymgynghoriad Penderfyniad Drafft

Trosolwg

Mae Shotton Mill Limited wedi cyflwyno cais i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i newid ei drwydded amgylcheddol ar gyfer Melin Bapur Shotton (rhif y drwydded EPR/BT4885IT).

Mae'r newid hwn, a elwir yn 'amrywiad', yn ofyniad cyfreithiol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016. 

Rydym wedi asesu'r newidiadau arfaethedig ac yn bwriadu caniatáu'r amrywiad i’r drwydded. Rydym yn ceisio eich sylwadau ar y drwydded ddrafft.

Manylion y Cais

Cyfeirnod y Cais: PAN-029803 (EPR/BT4885IT/V015)

Math o gyfleuster rheoledig:

  • Prif Weithgaredd : Gweithfa - Gweithgaredd Atodlen 1   Adran 6.1, Rhan A (1)(b) – cynhyrchu papur a bwrdd mewn ffatri ddiwydiannol lle mae gan y ffatri gapasiti cynhyrchu o fwy nag 20 tunnell y dydd.
  • Adran 1.1, Rhan A (1) (a) — llosgi unrhyw danwydd mewn dyfais sydd â mewnbwn thermol â sgôr o 50MW neu fwy.
  • Adran 5.1, Rhan A (1) (b) — llosgi gwastraff amheryglus mewn gwaith llosgi neu gyd-losgi mewn cyfleuster sydd â chapasiti sy'n fwy na 3 tunnell yr awr.
  • Adran 5.4, Rhan A (1) (a) (i) — gwaredu gwastraff amheryglus mewn cyfleuster sy'n fwy na 50 tunnell y dydd drwy driniaeth fiolegol.

Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Melin Bapur Shotton, Weighbridge Road, Shotton, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, CH5 2LW.

Bydd yr amrywiad yn newid y drwydded i adlewyrchu'r newid yn y safle o gynhyrchu papur papurau newydd i gynhyrchu bwrdd cynwysyddion o ffibr wedi'i ailgylchu (750,000 tunnell y flwyddyn) a phapur meddal o gymysgedd o ffibr wedi'i ailgylchu a ffibr crai (70,000 tunnell y flwyddyn).

Bydd y newidiadau mewn cynhyrchu yn arwain at y newidiadau canlynol i'r drwydded;

  • Cynnwys peiriant papur newydd (PM3) ar gyfer cynhyrchu cardfwrdd a'r felin papur meddal ar gyfer cynhyrchu papur meddal. Mae hyn yn cynnwys prosesau cysylltiedig fel y sychwyr, derbyn a thrin papur gwastraff a byrnau crai
  • Newidiadau i'r gwaith trin elifion (ETP) gan gynnwys ychwanegu gwaith treulio anaerobig ar gyfer trin elifion sy’n deillio o brosesu papur. Defnyddir y nwy a gynhyrchir o'r treuliad anaerobig fel tanwydd ar gyfer dau beiriant bionwy (5.8 MWth yr un).
  • Ychwanegu cyfarpar gwres a phŵer cyfun newydd sy'n cynnwys 2 dyrbin nwy 64MWth (pob un â simnai 75 metr o uchder) a boeler wrth gefn (sy'n cynnwys 2 foeler 68 MWth drwy un simnai allyriadau). Mae’r tyrbinau nwy a’r boeler wrth gefn yn destun Pennod III y gyfarwyddeb allyriadau diwydiannol.
  • Tynnu'r offer presennol o'r drwydded sy'n gysylltiedig â’r hen waith cynhyrchu papur papurau newydd gan gynnwys peiriannau papur (PM1 a PM2) y gwaith dad-incio a'r hen foeleri (boeleri 3 a 6 (38 MWth a 45 MWth)).

Ein penderfyniad drafft

Rydym yn bwriadu caniatáu'r amrywiad i’r drwydded. Dim ond os byddwn yn credu na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi, a bod gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau'r drwydded, y byddwn yn caniatáu amrywiad i drwydded.

Mae'r drwydded yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd pobl a'r amgylchedd. 

Pam mae eich barn yn bwysig  

Dyma eich cyfle i adolygu ein penderfyniad drafft a chyflwyno eich sylwadau. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion perthnasol cyn i ni wneud ein penderfyniad terfynol ar y cais am drwydded. 

Gweler Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfranogiad y cyhoedd: sut y gallwch gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ar drwyddedau am ragor o wybodaeth am sut rydym yn ymgynghori a pha faterion sydd o fewn ein cylch gwaith rheoleiddio.  

 

Gallwch weld y dogfennau drafft canlynol gan ddefnyddio'r dolenni isod:

Mae'r dogfennau hyn ar gael ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein hefyd.

Gallwch gyflwyno eich sylwadau gan ddefnyddio'r ddolen ymgynghori ar-lein isod. Os cewch unrhyw broblemau wrth gyflwyno eich sylwadau, gallwch anfon eich sylwadau atom drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Ymgynghori Ar-lein

Yn cau 18 Tach 2026

Wedi agor 21 Hyd 2026

Ardaloedd

  • Connah's Quay Central

Cynulleidfaoedd

  • EPR and COMAH facilities

Diddordebau

  • Permits