Melin Bapur Pen-y-bont ar Ogwr - Ymgynghoriad Cais Cychwynnol

Trosolwg

Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan WEPA UK Ltd. 

Amrywiad sylweddol i drwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Rhif y cais: PAN-030973

Math o gyfleuster rheoledig Prif Weithgaredd: Gosod - Gweithgaredd Atodlen 1   Adran 6.1, Rhan A (1)(b) – cynhyrchu, mewn ffatri ddiwydiannol, bapur a bwrdd lle mae gan y ffatri gapasiti cynhyrchu o fwy nag 20 tunnell y dydd.

Gweithgareddau Gosod Eraill dan Atodlen 1: S5.4 A(1)(a)(i) - Triniaeth fiolegol o fwy na 50 tunnell y dydd o elifion proses a chynnyrch clirio boeleri

Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Melin Bapur Pen-y-bont ar Ogwr, Llangynwyd, Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr, Morgannwg Ganol, CF34 9RS.

Mae WEPA UK Limited wedi gwneud cais i amrywio eu trwydded amgylcheddol ar gyfer Bridgend Paper Mill (EPR/EP3738NG) i adlewyrchu newid un peiriant papur am beiriant papur newydd. Bydd hyn yn arwain at y newidiadau canlynol i’r safle;

  • Tynnu ac ail-bwrpasu adeilad Jupiter ar gyfer storio riliau.
  • Adeiladu adeilad newydd i letya’r peiriant papur newydd.
  • Cymhwyso’r technegau gorau sydd ar gael ar gyfer y gweithgareddau a gynhelir ar y safle.
  • 3 o allyriadau tarddle penodol newydd i’r aer o’r peiriant papur a’r peiriant sychu.

Mae'r cais yn cynnwys disgrifiad llawn o'r gosodiad arfaethedig.

Gallwch weld y set lawn o ddogfennau cais ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein. Fel arall, gallwch drefnu i weld y dogfennau drwy ffonio ein Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid ar 0300 065 3000 neu drwy anfon e-bost at permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk .

Pam y mae eich barn chi yn bwysig

Rydym eisiau gwneud y penderfyniad gorau wrth drwyddedu. Mae gwrando ar farn pobl eraill yn ein helpu i ystyried pryderon, neu ffactorau amgylcheddol lleol, nad ydym efallai yn ymwybodol ohonynt fel arall.

Rydym yn gofyn am eich sylwadau ar y cais ac rydym wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus pedair wythnos. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion perthnasol cyn i ni wneud ein penderfyniad ar y cais am drwydded. 

Gallwch gynnig sylwadau ar y cais trwy gymryd rhan yn ein hymgynghoriad. Mae dolen i’r ymgynghoriad ar waelod y dudalen hon. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth gyflwyno eich sylwadau, gallwch anfon eich sylwadau atom drwy e-bost i permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk

Gweler Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfranogiad y cyhoedd: sut y gallwch chi gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ar drwyddedau am ragor o wybodaeth am sut rydym yn ymgynghori a pha faterion sydd o fewn ein cylch gwaith rheoleiddio.  

Ymgynghori Ar-lein

Yn cau 8 Medi 2026

Wedi agor 11 Awst 2026

Ardaloedd

  • Llangynwyd

Cynulleidfaoedd

  • EPR and COMAH facilities

Diddordebau

  • Permits