Gwaith Dur Port Talbot - Cais Graddol am Drwydded

Trosolwg

Mae Tata Steel UK Ltd (TSUK) yn newid o gynhyrchu dur integredig (gan ddefnyddio ffwrneisi chwyth a thechnegau gwneud dur ocsigen sylfaenol) i ddefnyddio proses newydd yn seiliedig ar Ffwrnais Arc Drydan (neu 'EAF') yng Ngwaith Dur Port Talbot. Fel rhan o'r trawsnewid mawr hwn, mae'r cwmni'n gwneud cais i newid ei drwydded amgylcheddol EPR/BL7108IM, a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae’r newid hwn, a elwir yn ‘amrywiad’, yn ofyniad cyfreithiol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Mae trawsnewid safle arfaethedig TSUK yn broses helaeth a chymhleth. Felly, bydd CNC yn defnyddio dull graddol i ddiweddaru trwydded TSUK, sy'n cynnwys sawl hysbysiad amrywio a thrwydded gyfunol lawn ar ddiwedd y broses. Bydd pob cam yn cael ei adolygu ar wahân i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu ac i gynnal uniondeb y drwydded. Er mwyn sicrhau tryloywder ac effeithlonrwydd, rydym wedi neilltuo un Rhif Cais Trwydded (PAN) i bob elfen o gais amrywio TSUK.

Mae'r we-dudalen hon yn disgrifio'r dull rydyn ni'n ei gymryd ac yn esbonio sut y gallwch chi sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ac yn cael dweud eich dweud.

Manylion y Cais

Cyfeirnod y Cais: PAN-029148

Math o Gais: Amrywiad sylweddol i drwydded amgylcheddol

Rhif Trwydded Amgylcheddol: EPR/BL7108IM

Math o Gyfleuster Rheoledig: Gweithfa – Adran 2.1: Metelau Fferrus – Rhan A(1)(b) Cynhyrchu, toddi neu goethi haearn neu ddur neu unrhyw aloi fferrus, gan gynnwys bwrw parhaus.

Lleoliad y Cyfleuster Rheoledig: Gwaith Dur Port Talbot, Port Talbot, Castell-nedd Port Talbot SA13 2NG

Gweithredwr: Tata Steel UK Ltd

Beth sy'n cael ei gynnig

Mae TSUK yn bwriadu newid y gweithgareddau a restrir yn ei drwydded i adlewyrchu'r trawsnewid diwydiannol sy'n digwydd yng Ngwaith Dur Port Talbot. Mae hyn yn cynnwys:

  • cael gwared o weithgareddau gwneud haearn a dur sydd wedi dod i ben
  • cadw rhai gweithgareddau sydd eu hangen ar gyfer gwneud dur arc drydan (gydag unrhyw addasiadau neu uwchraddiadau angenrheidiol)
  • ychwanegu gweithgareddau newydd sy'n cefnogi gwneud dur arc drydan effeithlon
  • newid neu uwchraddio rhai gweithgareddau i'w halinio â'r trawsnewidiad

Mae'r cais yn cynnwys disgrifiad o sut y gallai'r newidiadau arfaethedig effeithio ar y weithfa; y deunyddiau, y sylweddau a'r ynni y bydd yn eu defnyddio ac yn eu cynhyrchu; amodau ei safle; ffynhonnell, natur a maint ei allyriadau rhagweladwy a'u heffaith bosibl, y technegau arfaethedig ar gyfer atal, lleihau a monitro ei allyriadau ac atal ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o'r prif ddewisiadau amgen, os o gwbl, a ystyriwyd.

Beth yw statws presennol y cais?

Mae cydrannau'r rhaglen gyfredol yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • cael gwared ar weithgareddau sydd wedi'u cau a'u dadgomisiynu gan TSUK e.e. ffwrneisi chwyth, ffyrnau golosg
  • cadw rhai hen weithgareddau na fydd yn gweithredu yn ystod y cam trawsnewid, ond y gellir eu hailgomisiynu yn y dyfodol
  • ychwanegu gweithgareddau newydd sydd eu hangen i hwyluso trawsnewid TSUK e.e. cynhyrchu ager dros dro a chyfleusterau trin metel sgrap dros dro

Mae hwn yn gam trwyddedu rhagarweiniol / galluogi ac nid yw'n cynnwys asesu cydrannau craidd cais TSUK, gan gynnwys y ffwrnais arc drydan newydd a gweithgareddau melin rolio oer.

Sut mae CNC yn gwneud penderfyniad ynglŷn â’r cais hwn?

Gan fod hwn yn achos trwyddedu cymhleth, rydym yn defnyddio dull graddol, gydag amrywiadau llai yn cael eu pennu yn ystod trawsnewid TSUK a'u cyfuno i drwydded derfynol y weithfa ar ddiwedd y broses. Byddwn yn:

  • ymdrin â cheisiadau i amrywio trwyddedau mewn camau neu 'gydrannau'
  • asesu pob cydran wrth iddi gyrraedd
  • cyhoeddi hysbysiadau amrywio wrth i ni benderfynu ar bob cydran
  • cyhoeddi dogfennau trwydded wedi'u diweddaru ar gofrestr gyhoeddus CNC o bryd i'w gilydd
  • ymgynghori gan ddefnyddio porth Citizen Space CNC, gan alluogi mewnbwn gan eraill drwy gydol y broses benderfynu raddol hon
  • cydgrynhoi trwydded y weithfa ar ôl penderfynu ar yr holl gydrannau amrywio, gan sicrhau bod TSUK wedi darparu'r holl wybodaeth dechnegol angenrheidiol sydd ei hangen ar gyfer y cais hwn

Mae'r dull hwn yn caniatáu inni fod mor ymatebol ag sydd bosibl yn ystod ein penderfyniad. Mae hefyd yn cynnig tryloywder ac yn caniatáu ymgysylltiad cynnar, rhagweithiol â phartïon â diddordeb.

Dim ond os credwn na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi a bod gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau'r drwydded y byddwn yn caniatáu amrywio trwydded. Mae'r drwydded yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd pobl a'r amgylchedd. 

Sut allaf i gymryd rhan?

Rydym yn croesawu sylwadau gan bartïon â diddordeb yn ystod yr ymgynghoriad cyffredinol hwn. O bryd i'w gilydd, byddwn yn cynnal ymgynghoriadau byrrach â ffocws ar gyfer gwahanol gydrannau o'r amrywiad trwydded hwn. Bydd ein llinell amser trwyddedu yn cael ei diweddaru pan fyddwn yn gwneud hyn, gyda dolenni i ymgynghoriadau â ffocws.

Gallwch wneud y canlynol:

  • Darllen y dogfennau cais ar ein cofrestr gyhoeddus (chwiliwch gan ddefnyddio 'PAN-029148')
  • Edrych ar ein llinell amser drwyddedu i olrhain cynnydd y cais cymhleth hwn
  • Gweld y ddogfen drwydded a phenderfyniad drafft ddiweddaraf (pan fydd ar gael)
  • Ymateb i ymgynghoriadau â ffocws trwy gydol y penderfyniad graddol hwn
  • Cyflwyno sylwadau a chwestiynau cyffredinol gan ddefnyddio'r ddolen ymgynghori ar-lein isod

Os oes gennych unrhyw broblemau wrth gyflwyno eich sylwadau, gallwch eu hanfon atom drwy e-bost yn permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Dyfynnwch rif y drwydded a/neu gyfeirnod y cais yn eich e-bost.

Gweler Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfranogiad y cyhoedd: sut y gallwch gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ar drwyddedau i gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn ymgynghori a pha faterion sydd o fewn ein cylch gwaith rheoleiddio.  

Beth sy'n digwydd nesaf?

Rydym yn disgwyl derbyn cydrannau amrywio pellach gan TSUK wrth i'w brosiect trawsnewid gwaith dur fynd rhagddo. Bydd y trosolwg hwn, ein hamserlen drwyddedu a chofrestr gyhoeddus CNC yn cael eu diweddaru wrth i wybodaeth newydd ddod ar gael.

Ymgynghori Ar-lein - Cyffredinol

Yn cau 31 Ion 2028

Wedi agor 6 Awst 2026

Ardaloedd

  • Aberavon
  • Baglan
  • Bryn and Cwmavon
  • Cornelly
  • Margam
  • Port Talbot
  • Pyle
  • Sandfields East
  • Sandfields West
  • Tai-bach

Cynulleidfaoedd

  • EPR and COMAH facilities

Diddordebau

  • Trwyddedau