Gorsaf Bŵer Penfro - Penderfyniad Drafft
Trosolwg
Mae RWE Generation UK Plc wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i newid ei drwydded amgylcheddol ar gyfer Gorsaf Bŵer Penfro (rhif trwydded EPR/DP3333TA).
Mae'r newid hwn, a elwir yn 'amrywiad', yn ofyniad cyfreithiol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
Rydym wedi asesu'r newidiadau arfaethedig ac yn bwriadu caniatáu'r amrywiad i’r drwydded. Rydym yn ceisio eich sylwadau ar y drwydded ddrafft.
Manylion y Cais
Cyfeirnod y Cais: PAN-027129
Math o gais: Amrywiad sylweddol i drwydded amgylcheddol
Math o gyfleuster rheoledig: Gweithfa – Adran 1.1: Hylosgi – Rhan A(1)(a) Llosgi unrhyw danwydd mewn dyfais sydd â mewnbwn thermol â sgôr o 50 megawat neu fwy.
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Gorsaf Bŵer Penfro, Gorllewin Pennar, Penfro SA71 5SS
Gweithredwr: RWE Generation UK Plc
Mae gan Orsaf Bŵer Penfro bum tyrbin nwy cylch cyfun (CCGTs) sy'n cynhyrchu trydan gan ddefnyddio tanwydd nwy naturiol.
Mae'r gweithredwr wedi gwneud cais i amrywio'r drwydded i ychwanegu cyfleuster cynhyrchu hydrogen electrolytig at y weithfa, wedi'i bweru gan drydan o ffynonellau ynni adnewyddadwy ac sy'n cyfateb i weithgaredd a restrir o dan Adran 4.2: Cemegau Anorganig – Rhan A(1)(a)(i) Cynhyrchu cemegau anorganig megis – nwyon (er enghraifft hydrogen).
Mae'r cais yn cynnwys disgrifiad o sut y gallai'r newidiadau arfaethedig effeithio ar y weithfa; y deunyddiau, y sylweddau a'r ynni y bydd yn eu defnyddio ac yn eu cynhyrchu; amodau ei safle; ffynhonnell, natur a maint ei allyriadau rhagweladwy a'u heffaith bosibl, y technegau arfaethedig ar gyfer atal, lleihau a monitro ei allyriadau ac atal ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o'r prif ddewisiadau amgen, os o gwbl, a ystyriwyd.
Ein penderfyniad drafft
Rydym yn bwriadu caniatáu'r amrywiad i’r drwydded. Dim ond os credwn na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi a bod gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau'r drwydded y byddwn yn caniatáu amrywio trwydded.
Mae'r drwydded yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd pobl a'r amgylchedd.
Pam y mae eich barn chi yn bwysig
Dyma eich cyfle i edrych ar ein penderfyniad drafft a chyflwyno eich sylwadau. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion perthnasol cyn i ni wneud ein penderfyniad terfynol ar y cais am drwydded.
Gweler Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfranogiad y cyhoedd: sut y gallwch chi gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ar drwyddedau am ragor o wybodaeth am sut rydym yn ymgynghori a pha faterion sydd o fewn ein cylch gwaith rheoleiddio.
Gallwch weld y dogfennau drafft canlynol gan ddefnyddio'r dolenni isod:
Mae'r dogfennau hyn ar gael hefyd ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein.
Gallwch gyflwyno eich sylwadau gan ddefnyddio'r ddolen ymgynghori ar-lein isod. Os oes gennych unrhyw broblemau wrth gyflwyno eich sylwadau, gallwch anfon eich sylwadau atom drwy e-bost i permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Ymgynghori Ar-lein
Ardaloedd
- Burton
- Hundleton
- Lamphey
- Milford: Central
- Milford: East
- Milford: Hakin
- Milford: Hubberston
- Milford: North
- Milford: West
- Neyland: East
- Neyland: West
- Pembroke Dock: Central
- Pembroke Dock: Llanion
- Pembroke Dock: Market
- Pembroke Dock: Pennar
- Pembroke: Monkton
- Pembroke: St. Mary North
- Pembroke: St. Mary South
- Pembroke: St. Michael
- St. Ishmael's
Cynulleidfaoedd
- Datgarboneiddio
- EPR and COMAH facilities
Diddordebau
- Datgarboneiddio
- Trwyddedau
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook