Gorsaf Bŵer Glannau Dyfrdwy - Penderfyniad Drafft

Trosolwg

Mae Deeside Power (DU) Cyfyngedig wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i newid ei drwydded amgylcheddol ar gyfer Gorsaf Bŵer Glannau Dyfrdwy (rhif y drwydded/XP3131VK).

Mae’r newid hwn, a elwir yn ‘amrywiad’, yn ofyniad cyfreithiol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Rydym wedi asesu'r newidiadau arfaethedig ac yn bwriadu caniatáu'r amrywiad i’r drwydded.

Manylion y Cais

Cyfeirnod y Cais: PAN-028461

Gweithredwr: Deeside Power (DU) Cyfyngedig

Math o gais: Amrywiad Sylweddol

Cyfeiriad: Gorsaf Bŵer Glannau Dyfrdwy, Ffordd Weighbridge, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, CH5 2UL

Gweithgaredd Arfaethedig : A5.4(1)(b)(i) Gwaredu gwastraff amheryglus gyda chynhwysedd sy'n fwy na 50 tunnell y dydd (neu 100 tunnell y dydd os treulio anaerobig yw'r unig weithgaredd trin gwastraff) sy'n cynnwys (i) triniaeth fiolegol

Bydd yr amrywiad yn tynnu'r gweithgaredd gorsaf bŵer Tyrbin Nwy Cylch Cyfun â mewnbwn thermol net o 927MW o'r drwydded, ac yn ychwanegu gweithgaredd gorsaf bŵer injan nwy naturiol â mewnbwn thermol net o 109MW.

Ein penderfyniad drafft

Rydym yn bwriadu caniatáu’r amrywiad i’r drwydded. Dim ond os credwn na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi a bod gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau'r drwydded y byddwn yn caniatáu amrywio trwydded.

Mae'r drwydded yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd pobl a'r amgylchedd. 

Pam y mae eich barn chi yn bwysig  

Dyma'ch cyfle i edrych ar ein penderfyniad drafft a chyflwyno eich sylwadau. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion perthnasol cyn i ni wneud ein penderfyniad terfynol ar y cais am drwydded. 

Gweler Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfranogiad y cyhoedd: sut y gallwch gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ar drwyddedau am ragor o wybodaeth am sut rydym yn ymgynghori a pha faterion sydd o fewn ein cylch gwaith rheoleiddio.  

Gallwch weld y dogfennau drafft canlynol gan ddefnyddio'r dolenni ar waelod y dudalen hon:

Mae'r dogfennau hyn ar gael ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein hefyd

Gallwch gyflwyno eich sylwadau gan ddefnyddio'r ddolen ymgynghori ar-lein isod. Os oes gennych unrhyw broblemau wrth gyflwyno eich sylwadau, gallwch anfon eich sylwadau atom drwy e-bost i permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk.

 

Ymgynghori Ar-lein

Yn cau 9 Gorff 2026

Wedi agor 11 Meh 2026

Ardaloedd

  • Connah's Quay Central

Cynulleidfaoedd

  • EPR and COMAH facilities

Diddordebau

  • Permits