Ar 31 Mai 2024 derbyniodd CNC gais am drwydded forol gan Mona Offshore Wind Limited ar gyfer gwaith cysylltiedig ag adeiladu a chynnal asedau trosglwyddo Prosiect Fferm Wynt Ar y Môr Mona sydd yn Nwyrain Môr Iwerddon.

Mae'r Asedau trosglwyddo yn cynnwys ceblau allforio, ceblau rhyng-gysylltydd a llwyfannau is-orsaf. Mae'r ceblau allforio arfaethedig yn cyrraedd y tir yn Llanddulas, Gogledd Cymru.

Y tu allan i gwmpas y cais hwn am Drwydded Forol mae'r Asedau Cynhyrchu (sy'n cynnwys y tyrbinau gwynt) a'r coridor cebl allforio ar y tir sy'n ymestyn o'r man glanio i'r is-orsaf ar y tir.

Dylech fod yn ymwybodol bod Mona Offshore Wind Limited, yn ogystal â'r cais am drwydded forol, wedi cyflwyno cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu (DCO) sy'n cael ei ystyried gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar hyn o bryd, mae'r DCO arfaethedig yn cynnwys Trwydded Forol dybiedig ar gyfer yr Asedau Cynhyrchu.

Mae rhagor o wybodaeth am y cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio. 

Bydd y cais am drwydded forol ar gyfer penderfyniad Asedau Trosglwyddo yn rhedeg yn gyfochrog â chais y DCO. Er bod meysydd sy’n gorgyffwrdd mae gan y ddau broses ar wahân.

Gwnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar yr wybodaeth a gyflwynwyd yn y cais gwreiddiol. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad am 28 diwrnod a daeth i ben ar 19 Awst 2024.

Ar 13 Tachwedd 2024, 13 Rhagfyr 2024 a 22 Ionawr 2025 derbyniwyd rhagor o wybodaeth gan yr ymgeisydd. Isod mae rhestrau o'r dogfennau a gyflwynwyd fel rhan o'r cyflwyniad gwybodaeth bellach. Mae’r holl ddogfennau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais i’w gweld ar ein rhestr gyhoeddus.