Ffatri Bwrdd Gronynnau’r Waun – Ymgynghoriad ar Benderfyniad Drafft
Trosolwg
Mae Kronospan Cyfyngedig wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i newid ei drwydded amgylcheddol ar gyfer Ffatri Bwrdd Gronynnau’r Waun (rhif trwydded EPR/BW9999IG).
Mae'r newid hwn, a elwir yn 'amrywiad', yn ofyniad cyfreithiol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (EPR).
Rydym wedi asesu'r newidiadau arfaethedig ac yn bwriadu caniatáu'r amrywiad i’r drwydded. Rydym yn ceisio eich sylwadau ar y drwydded ddrafft.
Manylion y Cais
Cyfeirnod y Cais: EPR/BW9999IG/V012
Math o Gais: Amrywiad sylweddol i drwydded amgylcheddol.
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Ffatri Bwrdd Gronynnau'r Waun, Ffordd Caergybi, Y Waun, Wrecsam, LL14 5NT
Gweithredwr: Kronospan Cyfyngedig
Gweithgaredd Arfaethedig: Atodlen 1 EPR Rhan 2 Pennod 6, Adran 6.1 A(2) (a) – Cynhyrchu mewn ffatri ddiwydiannol, un neu fwy o'r paneli pren canlynol gyda chynhwysedd cynhyrchu sy'n fwy na 600m3 y dydd: pren fflawiau cyfeiriedig, bwrdd gronynnau neu fwrdd ffibr.
Gwnaeth y gweithredwr gais i amrywio'r drwydded bresennol i gynnwys llinell weithgynhyrchu pren fflawiau cyfeiriedig (OSB) yn y weithfa. Mae'r amrywiad yn cynnwys defnyddio cemegau ar gyfer cynhyrchu OSB, a storio cysylltiedig, ac ychwanegu dau god gwastraff ar gyfer deunyddiau a ddefnyddir wrth gynhyrchu OSB a bwrdd gronynnau.
Newidiadau eraill a gyflwynir gan yr amrywiad hwn yw:
- storio a defnyddio hydrogen perocsid ar gyfer dosio yn y gwaddodwyr electrostatig gwlyb, ar gyfer ocsideiddio cyfanswm y carbon organig anweddol, os oes angen i leihau arogleuon.
- ailsefydlu ac uwchraddio dau sychwr uniongyrchol presennol ar gyfer y broses OSB.
- cynnwys tir ychwanegol o fewn ffin y weithfa ar gyfer ffordd fynediad newydd i'r safle gogleddol, parc lorïau a dau wlyptir dŵr wyneb;
- pwynt rhyddhau newydd ar gyfer dŵr ffo wyneb heb ei halogi o'r tir ychwanegol sydd wedi'i ymgorffori yn ffin y weithfa i'r gogledd o'r safle presennol;
- newidiadau i'r trefniadau dadlwytho rheilffordd, a thrin a storio biomas;
- mannau ychwanegol i storio deunyddiau crai a llawr caled o fewn yr iard foncyffion; a
- chynnwys dau bwynt allyriadau presennol o'r seiclonau bwrdd Ffibr Dwysedd Canolig (MDF) o'r bin gwrthod MDF ac ailgylchredeg ffibr.
Ein penderfyniad drafft
Rydym yn bwriadu caniatáu'r amrywiad i’r drwydded. Dim ond os credwn na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi a bod gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau'r drwydded y byddwn yn caniatáu amrywio trwydded.
Mae'r drwydded yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd pobl a'r amgylchedd.
Pam y mae eich barn chi yn bwysig
Dyma'ch cyfle i adolygu ein penderfyniad drafft a chyflwyno eich sylwadau. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion perthnasol cyn i ni wneud ein penderfyniad terfynol ar y cais am drwydded.
Gweler Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfranogiad y cyhoedd: sut y gallwch chi gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ar drwyddedau am ragor o wybodaeth am sut rydym yn ymgynghori a pha faterion sydd o fewn ein cylch gwaith rheoleiddio.
Gallwch weld y dogfennau drafft canlynol gan ddefnyddio'r dolenni isod:
Mae'r dogfennau hyn ar gael ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein hefyd
Gallwch gyflwyno eich sylwadau gan ddefnyddio'r ddolen ymgynghori ar-lein isod. Os cewch unrhyw broblemau wrth gyflwyno eich sylwadau, gallwch anfon eich sylwadau atom drwy e-bostio permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Ymgynghori Ar-lein
Ardaloedd
- Chirk South
Cynulleidfaoedd
- EPR and COMAH facilities
Diddordebau
- Permits
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook