Ar 15 Gorffennaf 2026, derbyniodd CNC gais am drwydded forol gan Gyngor Gwynedd ar gyfer gwaith cysylltiedig â gwelliannau i amddiffynfeydd arfordirol yn y Bermo, Gogledd Cymru. Mae'r gwaith yn cynnwys adnewyddu polion dalen presennol, gosod amddiffynfa gerrig ar lefel y traeth, adnewyddu allfa â chwlfer ac ailosod falf atal gwrthlif, a chael gwared ar y grwynau pren sydd yno ar hyn o bryd.
Y tu allan i gwmpas y cais hwn am Drwydded Forol mae gwaith pellach sy'n gysylltiedig â'r cynllun ar ochr y tir o Linell Benllanw Cymedrig y Gorllanw, ond nid yn yr ardal Drwyddedadwy Forol. Cofiwch, yn ogystal â'r cais am drwydded forol, fod Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan Awdurdod Cynllunio Lleol Cyngor Gwynedd. Mae rhagor o wybodaeth am y cais am ganiatâd cynllunio ar gael ar wefan yr Awdurdod Lleol.
Bydd y penderfyniad ar y cais am Drwydded Forol ar gyfer elfennau ar ochr y môr yn rhedeg ochr yn ochr â'r penderfyniad ar y caniatâd cynllunio. Er bod gan y ddau gais agweddau sy’n gorgyffwrdd mae ganddynt brosesau gwahanol. Byddem yn eich cyfeirio at y Ffurflen Gais am Drwydded Forol sy'n amlygu’r gwaith o fewn y cais hwn.
Isod mae'r ffurflen gais am drwydded forol, rhestr dogfennau a nodyn technegol. Mae'r holl ddogfennau a gyflwynwyd fel rhan o'r gais ar gael ar ein rhestr gyhoeddus.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook