11 Ebrill 2022 rydym wedi tynnu'n ôl ac archifo trwyddedau rheolau safonol R2010 Rhif 3 – gollwng i ddŵr wyneb: carthion domestig eilaidd wedi eu trin gyda chyfanswm dyddiol rhwng 5 a 20 metr ciwbig
Cawsom 0 ymateb i'r ymgynghoriad.
Rydym yn ymgynghori â chi ynghylch ein cynlluniau i dynnu’n ôl ac archifo Trwydded rheolau safonol SR2010 Rhif 3 - gollwng i ddŵr wyneb: carthion domestig eilaidd wedi eu trin gyda chyfanswm dyddiol rhwng 5 a 20 metr ciwbig y dydd.
Mae’r term ‘tynnu’n ôl ac archifo’ yn golygu na fydd ar gael mwyach i ymgeiswyr newydd wneud cais ar ei chyfer.
Argymhellodd y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) y dylai sefydliadau cadwraeth natur y DU fabwysiadu targedau llymach ar ôl ystyried tystiolaeth newydd am effeithiau amgylcheddol ffosffad.
Yn dilyn mesurau newydd, rydym wedi cyhoeddi adolygiad o dystiolaeth sy’n dangos bod presenoldeb ffosffadau yn gyffredin o fewn afonydd ACA Cymru gyda thros 60% o gyrff dŵr yn methu yn erbyn y targedau heriol a osodwyd.
Mae hyn yn golygu nad yw ein rheolau safonol presennol yn briodol mwyach ac nad ydynt yn gwarchod yr amgylchedd dŵr yn ddigonol oherwydd y canlynol:
Ar ôl archifo a thynnu’r drwydded rheolau safonol hon yn ôl, bydd angen i unrhyw gwsmer sydd am ollwng mwy na 5 metr ciwbig y dydd (5000 litr y dydd) o garthion domestig wedi eu trin i ddŵr wyneb wneud cais am Drwydded Amgylcheddol bwrpasol.
Ar hyn o bryd, dim ond 8 trwydded rheolau safonol sy’n bodoli ar gyfer y gweithgaredd hwn yng Nghymru. Mewn cyferbyniad, mae dros 5000 o drwyddedau amgylcheddol pwrpasol ar gyfer gollyngiadau dŵr.
Ni fydd y broses o archifo a thynnu’r drwydded rheolau safonol yn ôl yn effeithio ar allu deiliaid trwyddedau presennol i barhau i ollwng yn unol â’u trwydded bresennol.
Mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni adolygu pob Trwydded Amgylcheddol o dro i dro. Yn ystod y broses adolygu hon, os byddwn yn darganfod nad yw’r gollyngiad yn cydymffurfio ag amodau’r drwydded rheolau safonol neu nad yw’n bodloni gofynion deddfwriaethol eraill, byddwn yn gweithio gyda deiliad y drwydded i sicrhau bod ei weithgaredd yn cydymffurfio a symud y gollyngiadau hyn i drwydded bwrpasol ar gyfer gweithgaredd gollwng dŵr.
Mae Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (RhTA) yn caniatáu i ni lunio trwyddedau amgylcheddol â rheolau safonol i leihau’r baich gweinyddol ar fusnes gan hefyd gynnal safonau amgylcheddol.
Mae trwyddedau safonol yn cynnwys un amod sy’n cyfeirio at gyfres sefydlog o reolau safonol y mae’n rhaid i weithredwr gydymffurfio â hwy. Mae’r rheolau’n diffinio’r gweithgareddau y gall gweithredwr eu cynnal ac yn pennu cyfyngiadau angenrheidiol ar y gweithgareddau hynny, fel terfynau allyriadau, neu ymhle y gall y gweithgaredd ddigwydd.
Gall unrhyw weithredwr sydd am gynnal gweithgaredd penodol mewn safle neu safleoedd penodol edrych ar y rheolau safonol ac, os gall gydymffurfio â hwy, gall wneud cais am drwydded safonol.
Share
Share on Twitter Share on Facebook