Canolfan Trin Slwtsh Afan Penderfyniad Drafft
Overview
Mae Dŵr Cymru Cyfyngedig wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i newid ei drwydded amgylcheddol ar gyfer Safle Trin Slwtsh Afan (rhif y drwydded/ZP3032KQ).
Mae’r newid hwn, a elwir yn ‘amrywiad’, yn ofyniad cyfreithiol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.
Rydym wedi asesu'r newidiadau arfaethedig ac yn bwriadu caniatáu'r amrywiad i’r drwydded.
Manylion y Cais
Cyfeirnod y Cais: PAN-027050
Gweithredwr: Dŵr Cymru Cyfyngedig
Math o Gais: Amrywiad Sylweddol
Cyfeiriad: Canolfan Trin Dŵr Gwastraff Afan, Heol yr Harbwr, Rhodfa'r Ffenics, Gwaith Dur Port Talbot, SA13 1RA
Gweithgaredd Arfaethedig: A5.4(1)(b)(i) Gwaredu gwastraff amheryglus gyda chynhwysedd sy'n fwy na 50 tunnell y dydd (neu 100 tunnell y dydd os treulio anaerobig yw'r unig weithgaredd trin gwastraff) sy'n cynnwys (i) triniaeth fiolegol
Bydd yr amrywiad yn ychwanegu Gweithfa Treulio Anaerobig at drwydded amgylcheddol bresennol y Gweithredwr.
Ein penderfyniad drafft
Rydym yn bwriadu caniatáu’r amrywiad i’r drwydded. Dim ond os credwn na fydd llygredd sylweddol yn cael ei achosi a bod gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau'r drwydded y byddwn yn caniatáu amrywio trwydded.
Mae'r drwydded yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd pobl a'r amgylchedd.
Pam y mae eich barn chi yn bwysig
Dyma'ch cyfle i edrych ar ein penderfyniad drafft a chyflwyno eich sylwadau. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion perthnasol cyn i ni wneud ein penderfyniad terfynol ar y cais am drwydded.
Gweler Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfranogiad y cyhoedd: sut y gallwch gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ar drwyddedau am ragor o wybodaeth am sut rydym yn ymgynghori a pha faterion sydd o fewn ein cylch gwaith rheoleiddio.
Gallwch weld y dogfennau drafft canlynol gan ddefnyddio'r dolenni ar waelod y dudalen hon:
Mae'r dogfennau hyn ar gael ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein hefyd.
Gallwch gyflwyno eich sylwadau gan ddefnyddio'r ddolen ymgynghori ar-lein isod. Os oes gennych unrhyw broblemau wrth gyflwyno eich sylwadau, gallwch anfon eich sylwadau atom drwy e-bost i permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk.
Ymgynghori Ar-lein
This activity will open on 29 May 2026. Please come back on or after this date to give us your views.Areas
- Port Talbot
Audiences
- EPR and COMAH facilities
Interests
- Waste
Share
Share on Twitter Share on Facebook