Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Porthmadog
Trosolwg
Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg / Read this page in English
Rydym yn parhau â'n gwaith i ddod o hyd i ffyrdd hirdymor o leihau'r Perygl o lifogydd yng nghymunedau Porthmadog a Thremadog.
Fel pob cymuned arfordirol, mae'r ardal yn wynebu dyfodol o chynnydd yn lefelau'r môr, stormydd amlach a mwy o law trwm, oherwydd newid yn yr hinsawdd.
Bydd hyn yn rhoi mwy o bwysau ar amddiffynfeydd rhag llifogydd ac yn cynyddu'r perygl o lifogydd os na fyddwn yn cymryd camau.
Mae rheoli'r risg o lifogydd i bobl a chartrefi yn y dyfodol mewn hinsawdd sy'n newid yn her sylweddol o ystyried tir isel ac oedran yr amddiffynfeydd presennol.
Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon gyda gwybodaeth newydd wrth i'r prosiect symud ymlaen a gallwch weld deunyddiau blaenorol ar waelod y dudalen hon.
Ein gwaith
Mae'r prosiect yn adeiladu ar brosiectau ac astudiaethau blaenorol a bydd yn cynnwys asesu amrywiaeth o opsiynau hirdymor i leihau'r perygl o lifogydd o afonydd ac o’r môr i'r gymuned leol.
Byddwn yn ystyried ystod o ffactorau ar gyfer yr opsiynau dan sylw, megis cynaliadwyedd, hyfywedd, a fforddiadwyedd.
Mae hefyd yn adeiladu ar farn y gymuned ar opsiynau posibl i leihau'r perygl o lifogydd. Mae'r safbwyntiau hynny, naill ai o'r llythyr diweddariad prosiect yn 2021 neu yn ystod digwyddiadau galw heibio yn 2023, yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd fel rhan o'n tystiolaeth i ymchwilio rhestr hir o opsiynau a chynnig rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda byd natur ac i archwilio cyfleoedd i greu cynefinoedd newydd a gwella bioamrywiaeth yn yr ardal.
Efallai y bydd cyfleoedd i adfywio'r amddiffynfeydd presennol a'r mannau cyhoeddus cysylltiedig, gan ddarparu buddion ehangach i'r gymuned leol. Rydym eisiau cydweithio i ddod o hyd i atebion a all gynnig dyfodol cynaliadwy i Borthmadog.
Beth nesaf
Rydym yn disgwyl rhannu'r asesiad o'r rhestr hir o opsiynau a'r rhestr fer arfaethedig gyda'r gymuned yn Hydref 2025.
Byddwn yn cynhyrchu cyfres o ddeunyddiau ar ffurf digidol a phrint a bydd ffurflenni adborth hefyd fel y gallwch rannu eich barn.
Byddwn hefyd yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb fel y gallwch ddod i siarad ag aelodau o dîm y prosiect.
Beth rydyn ni'n ei wneud yn y cyfamser
Mae'r perygl o lifogydd yn gymhleth a chyda astudiaethau ac asesiad o'r rhestr hir yn parhau, mae'n bwysig ein bod yn cael hyn yn iawn. Dros yr haf, efallai y bydd angen i ni gynnal arolygon lleol ychwanegol i helpu yn ein harfarnu.
Diweddariadau Prosiect Blaenorol
5 Gorffennaf 2024
E-bostiwyd diweddariad o'r prosiect i'n rhestr bostio.
11 Hydref 2023
Rydym wedi cynhyrchu diweddariad prosiect (Rhifyn 2) ar gyfer y gymuned:
Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Porthmadog – Diweddariad Hydref 2023
15 Mai 2023
Gweler y ddogfen adborth ymgynghoriad sy'n crynhoi'r adborth gawsom gan y cyhoedd a rhanddeiliaid yn ystod digwyddiadau ymgynghori yn Ionawr 2023.
26 Ionawr 2023
Mae pob un o'r wyth bwrdd ymgynghori prosiect a gyflwynwyd yn Y Ganolfan ar 26 a 27 Ionawr ar gael isod.
17 Ionawr 2023
Rydym wedi cynhyrchu diweddariad prosiect (Rhifyn 1) ar gyfer y gymuned gan gynnwys cyhoeddi digwyddiadau ymgynghori sydd i ddod:
Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Porthmadog – Diweddariad Ionawr 2023
15 Tachwedd 2022
A project update has been presented at the Porthmadog Town Council monthly meeting. The slide pack presentation is available below.
Cyflwynwyd diweddariad ar y prosiect yng nghyfarfod misol Cyngor Tref Porthmadog. Mae'r cyflwyniad ar gael isod.
22 Gorffennaf 2022
Mae llythyr diweddariad prosiect wedi'i rannu gyda Chyngor Thref Porthmadog, Dŵr Cymru, Cyngor Gwynedd a grŵp cynghori Ardal Draenio Mewnol (IDD) Dwyfor Meirionnydd. Gellir gweld copi o'r llythyr a roddwyd i'r IDD isod. Mae'r llythyrau eraill sydd wedi'u geiriau tebyg ar gael ar gais.
8 Chwefror 2022
Cyflwynwyd diweddariad ar y prosiect yng nghyfarfod misol Cyngor Tref Porthmadog. Mae'r cyflwyniad ar gael isod.
10 Mawrth 2021
Anfonwyd llythyr at bob cyfeiriad eiddo yn ardal Porthmadog a Thremadog yn gofyn am adborth a phrofiadau o lifogydd. Mae'r llythyr isod a chafodd adborth ei gasglu trwy gydol 2021 i helpu i ddiffinio'r broblem ar gyfer y prosiect.
Cadw mewn cysylltiad
Cysylltwch â ni os hoffech mwy o wybodaeth neu i rannu eich barn gyda ni yn ogystal â chofrestru ar gyfer diweddariadau cynnydd yn y dyfodol:
Ebost: risgllifogydd.porthmadog@cyfoethnaturiol.cymru
Ffôn: Andrew Basford, Rheolwr Prosiect (Dysgwr Cymraeg) ar 03000 65 3846 neu Sharon Parry, Swyddog Cymorth y Prosiect (Siaradwr Cymraeg) ar 03000 65 5264.
Gallwch hefyd ysgrifennu atom:
Sharon Parry
Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfa Bangor
Maes y Ffynnon,
Gwynedd,
LL57 2DW
Cysylltwch รข ni
Ardaloedd
- Porthmadog East
- Porthmadog West
- Porthmadog-Tremadog
Cynulleidfaoedd
- Llifogydd
Diddordebau
- Llifogydd
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook