Cynlluniau Hamdden Coedwig Clocaenog

Ar gau 16 Awst 2024

Wedi'i agor 1 Gorff 2024

Trosolwg

Coedwig Clocaenog: Gwella Profiad Ymwelwyr 

English page can be found here.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn cyllid gan brosiect Fferm Wynt Coedwig Clocaenog RWE i’w ddefnyddio ar gyfer gwelliannau hamdden ar draws ardaloedd o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a reolir gan CNC yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Rydym wrthi'n drafftio cynlluniau i wella'r hamdden sy’n cael ei gynnig yng Nghoedwig Clocaenog. Megis dechrau y mae’r prosiect ar hyn o bryd.

Helpwch ni i ddathlu ein bywyd gwyllt, ein cynefinoedd a’n treftadaeth

Mae CNC wedi sicrhau cyllid gan brosiect Fferm Wynt Clocaenog RWE i'w ddefnyddio ar gyfer gwelliannau hamdden ym mhob rhan o Goedwig Clocaenog.

Helpwch ni i wella gwybodaeth, ymwybyddiaeth a mynediad i nodweddion naturiol, hanesyddol ac amgylcheddol Clocaenog.

Y bywyd gwyllt a’r cynefinoedd sydd yma:

  • Gwiwer goch
  • Grugiar ddu
  • Pathew
  • Coetir Hynafol Lled-Naturiol

Nodweddion treftadaeth:

  • Clytwaith o bentrefi cynhanesyddol, cylchoedd
  • cerrig a thirurfiau
  • Olion canoloesol anheddau domestig a chrefyddol

Helpwch ni i wella profiad ymwelwyr

Calon y goedwig yw'r ffocws ar gyfer gwelliannau. A allai gwell cyfleusterau i
ymwelwyr wella eich profiad chi o'r goedwig a'i bywyd gwyllt?

Helpwch ni i gynnal a gwella profiad ymwelwyr trwy ddarparu amgylchedd diogel, pleserus ac amrywiol.

Gadewch inni wybod:

  • Pa lwybrau ydych chi'n eu defnyddio?
  • Pa lwybrau hoffech chi ddefnyddio mwy arnynt?
  • Beth sy'n eich atal neu'n eich cyfyngu chi rhag
  • defnyddio'r rhain?
  • Beth yw eich hoff ffordd o grwydro o gwmpas y
  • goedwig? Er enghraifft: car, beic mynydd beicio,
  • marchogaeth, cerdded, rhedeg ac ati

Helpwch ni i wella cysylltiadau a llwybrau at y llynnoedd/cronfeydd dwr

Ar hyn o bryd mae nifer o lwybrau wedi’u harwyddo yn y goedwig. A fyddai cael mwy o lwybrau cysylltu â Llyn Alwen a Llyn Brenig yn gwella eich profiad? A oes angen gwell cysylltiadau ar unrhyw safleoedd hamdden allweddol eraill?

Helpwch ni i greu gwell cysylltiadau rhwng lleoliadau hamdden allweddol ym mhob rhan o’r goedwig ac at brofiadau ac atyniadau i ymwelwyr
yn y cynlluniau.

Gadewch inni wybod:

  • I ble’r ydych chi'n mynd yn bennaf yn y goedwig?
  • Ym mha weithgareddau ydych chi'n cymryd rhan?
  • Ym mhle’r hoffech chi weld gwell cysylltiadau â llwybr
  • arall, maes parcio, atyniad neu bwynt o ddiddordeb

Helpwch ni i wella cysylltiadau o Ruthun

Mae nifer o safleoedd ymwelwyr CNC ar hyd ymyl ddwyreiniol y goedwig, sy'n arwain at dref Rhuthun. A allai gwell system i ddynodi llwybrau neu lwybrau amgen eich helpu i gael y gorau o'r goedwig?

Helpwch ni i greu gwell cysylltiadau o fewn ac at y goedwig yn ogystal ag at brofiadau ac atyniadau ymwelwyr yn y cyffuniau.

Gadewch inni wybod:

  • Sut ydych chi'n teithio i'r goedwig fel arfer?
  • A ellid newid unrhyw beth i'ch helpu i gerdded,
  • beicio neu redeg i'r goedwig?
  • Beth sy'n eich denu i Goedwig Clocaenog?

Gwelwch yr atodiadau ar gyfer y mapiau a rhagor o wybodaeth.

Beth yw'r camau nesaf?

Byddwn yn cynnal sesiwn galw heibio yn Neuadd Bentref Canolfan Cae Cymro, Clawddnewydd, LL15 2ND ar ddydd Llun, 8 Gorffennaf 2024 rhwng hanner dydd ac 8pm i roi cyfle i chi gael golwg ar syniadau drafft a dweud eich dweud.

Ar ôl i ni dderbyn a chrynhoi’r adborth o’r ymgynghoriad hwn, rydym am gadarnhau’r opsiynau sy’n cael eu ffafrio yn nhymor yr hydref 2024 a dechrau gweithio ar ddyluniadau manylach. Nod y rhain fydd gwella cyfleusterau a nodweddion presennol yng Nghoedwig Clocaenog ac o'i chwmpas.

A fydd mwy o gyfleoedd i ddweud fy marn?

Byddwn yn trefnu sesiynau galw heibio yn y dyfodol a gwybodaeth ar-lein wrth i ni ddatblygu’r cynlluniau, gan gynnig mwy o gyfleoedd i chi ddweud eich dweud.

Gallwch e-bostio’r tîm yn uniongyrchol yn: landmanagementne@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ffonio Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000 a gofyn am gael siarad â Glenn Williams.

Ardaloedd

  • Ruthin

Cynulleidfaoedd

  • Management
  • Woodland Opportunity Map users
  • Citizens

Diddordebau

  • National Access Forum
  • Community Engagement