Cynlluniau Hamdden Coedwig Clocaenog
Overview
Coedwig Clocaenog: Gwella Profiad Ymwelwyr
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn cyllid gan brosiect Fferm Wynt Coedwig Clocaenog RWE i’w ddefnyddio ar gyfer gwelliannau hamdden ar draws ardaloedd o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a reolir gan CNC yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Rydym wrthi'n drafftio cynlluniau i wella'r hamdden sy’n cael ei gynnig yng Nghoedwig Clocaenog. Megis dechrau y mae’r prosiect ar hyn o bryd.
Helpwch ni i ddathlu ein bywyd gwyllt, ein cynefinoedd a’n treftadaeth
Mae CNC wedi sicrhau cyllid gan brosiect Fferm Wynt Clocaenog RWE i'w ddefnyddio ar gyfer gwelliannau hamdden ym mhob rhan o Goedwig Clocaenog.
Helpwch ni i wella gwybodaeth, ymwybyddiaeth a mynediad i nodweddion naturiol, hanesyddol ac amgylcheddol Clocaenog.
Y bywyd gwyllt a’r cynefinoedd sydd yma:
- Gwiwer goch
- Grugiar ddu
- Pathew
- Coetir Hynafol Lled-Naturiol
Nodweddion treftadaeth:
- Clytwaith o bentrefi cynhanesyddol, cylchoedd
- cerrig a thirurfiau
- Olion canoloesol anheddau domestig a chrefyddol
Helpwch ni i wella profiad ymwelwyr
Calon y goedwig yw'r ffocws ar gyfer gwelliannau. A allai gwell cyfleusterau i
ymwelwyr wella eich profiad chi o'r goedwig a'i bywyd gwyllt?
Helpwch ni i gynnal a gwella profiad ymwelwyr trwy ddarparu amgylchedd diogel, pleserus ac amrywiol.
Gadewch inni wybod:
- Pa lwybrau ydych chi'n eu defnyddio?
- Pa lwybrau hoffech chi ddefnyddio mwy arnynt?
- Beth sy'n eich atal neu'n eich cyfyngu chi rhag
- defnyddio'r rhain?
- Beth yw eich hoff ffordd o grwydro o gwmpas y
- goedwig? Er enghraifft: car, beic mynydd beicio,
- marchogaeth, cerdded, rhedeg ac ati
Helpwch ni i wella cysylltiadau a llwybrau at y llynnoedd/cronfeydd dwr
Ar hyn o bryd mae nifer o lwybrau wedi’u harwyddo yn y goedwig. A fyddai cael mwy o lwybrau cysylltu â Llyn Alwen a Llyn Brenig yn gwella eich profiad? A oes angen gwell cysylltiadau ar unrhyw safleoedd hamdden allweddol eraill?
Helpwch ni i greu gwell cysylltiadau rhwng lleoliadau hamdden allweddol ym mhob rhan o’r goedwig ac at brofiadau ac atyniadau i ymwelwyr
yn y cynlluniau.
Gadewch inni wybod:
- I ble’r ydych chi'n mynd yn bennaf yn y goedwig?
- Ym mha weithgareddau ydych chi'n cymryd rhan?
- Ym mhle’r hoffech chi weld gwell cysylltiadau â llwybr
- arall, maes parcio, atyniad neu bwynt o ddiddordeb
Helpwch ni i wella cysylltiadau o Ruthun
Mae nifer o safleoedd ymwelwyr CNC ar hyd ymyl ddwyreiniol y goedwig, sy'n arwain at dref Rhuthun. A allai gwell system i ddynodi llwybrau neu lwybrau amgen eich helpu i gael y gorau o'r goedwig?
Helpwch ni i greu gwell cysylltiadau o fewn ac at y goedwig yn ogystal ag at brofiadau ac atyniadau ymwelwyr yn y cyffuniau.
Gadewch inni wybod:
- Sut ydych chi'n teithio i'r goedwig fel arfer?
- A ellid newid unrhyw beth i'ch helpu i gerdded,
- beicio neu redeg i'r goedwig?
- Beth sy'n eich denu i Goedwig Clocaenog?
Gwelwch yr atodiadau ar gyfer y mapiau a rhagor o wybodaeth.
Beth yw'r camau nesaf?
Byddwn yn cynnal sesiwn galw heibio yn Neuadd Bentref Canolfan Cae Cymro, Clawddnewydd, LL15 2ND ar ddydd Llun, 8 Gorffennaf 2024 rhwng hanner dydd ac 8pm i roi cyfle i chi gael golwg ar syniadau drafft a dweud eich dweud.
Ar ôl i ni dderbyn a chrynhoi’r adborth o’r ymgynghoriad hwn, rydym am gadarnhau’r opsiynau sy’n cael eu ffafrio yn nhymor yr hydref 2024 a dechrau gweithio ar ddyluniadau manylach. Nod y rhain fydd gwella cyfleusterau a nodweddion presennol yng Nghoedwig Clocaenog ac o'i chwmpas.
A fydd mwy o gyfleoedd i ddweud fy marn?
Byddwn yn trefnu sesiynau galw heibio yn y dyfodol a gwybodaeth ar-lein wrth i ni ddatblygu’r cynlluniau, gan gynnig mwy o gyfleoedd i chi ddweud eich dweud.
Gallwch e-bostio’r tîm yn uniongyrchol yn: landmanagementne@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ffonio Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000 a gofyn am gael siarad â Glenn Williams.
Give us your views
Areas
- Ruthin
Audiences
- Management
- Woodland Opportunity Map users
- Citizens
Interests
- National Access Forum
- Community Engagement
Share
Share on Twitter Share on Facebook