Coed Nercwys - gweithrediadau coedwig

Trosolwg

Cliciwch i ddarllen y dudalen hon yn Saesneg / Click to read this page in English

Pa waith fydd yn digwydd?

Mae gwaith teneuo coed conwydd yn digwydd yng Nghoed Nercwys, ger yr Wyddgrug, a bydd yn cymryd tua tri mis i'w gwblhau.

Bydd y gwaith yn helpu i barhau i gynhyrchu pren lleol o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru heb yr angen am glirio coed.

Bydd teneuo'r goedwig yn:

  • hyrwyddo twf, sefydlogrwydd a gwytnwch hirdymor y coed sy'n weddill.
  • annog mwy o amrywiaeth a gwella iechyd cyffredinol y goedwig.
  • lleihau'r angen am weithrediadau aml trwy gynnal teneuo ar draws rhan fawr o'r goedwig mewn un rhaglen waith.

Bydd y gweithrediadau hefyd yn cynnwys mân waith cynnal a chadw i gael gwared ar lystyfiant o arwynebau ffyrdd coedwig, gan wneud yn siwr fod y cynefinoedd ar hyd ymylon y ffordd yn cael eu diogelu. Mae'r gwelliannau hyn yn angenrheidiol i ganiatáu i lorïau pren gael mynediad i'r goedwig yn ddiogel a chludo pren i felinau llifio lleol.

Diogelwch

Yn ystod y gwaith, dilynwch yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau diogelwch a byddwch yn ymwybodol o symudiadau lorïau pren ar ffyrdd y goedwig.

Dysgwch fwy am ymweld â’n coedwigoedd yn ddiogel

Map yn dangos yr ardal waith

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Amseroedd cludo pren a chyfyngiadau mynediad i feysydd parcio

Byddwch yn ymwybodol o symudiadau lorïau pren ar ffyrdd coedwig yn ystod y cyfnod gweithredol.

Bydd lorïau pren yn cyrraedd ac yn gadael y safle ar ddyddiau gwaith rhwng 4:00am a 6:30am, a 9:30am a 4:30pm.

Er mwyn caniatáu symud y lorïau pren yn ddiogel, bydd mynediad i'r meysydd parcio yng Nghoed Nercwys yn gyfyngedig yn ystod yr amseroedd hyn.

Mynediad a Chau Llwybrau

Bydd y gwaith yn gofyn am rai cau a dargyfeirio llwybrau. Bydd y rhain yn cael eu rheoli gan ddefnyddio arwyddion clir i helpu i sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Map i ddangos cau llwybr - Gorllewin

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map i ddangos cau llwybr - Dwyrain

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Pam rydyn ni'n teneuo coed?

Unwaith y bydd ardal o goed wedi aeddfedu i faint penodol, maent yn dechrau cystadlu â'i gilydd am faethynnau, dŵr a golau.

Mae teneuo’r coed yn helpu i leihau’r gystadleuaeth hon ac yn ein galluogi i gael gwared ar goed afiach a’r rhai nad ydynt yn tyfu’n dda. Mae hefyd yn annog adfywio naturiol rhywogaethau brodorol ac yn helpu i adfer ein coetiroedd hynafol.

Dyma un o’r gweithgareddau mwyaf buddiol y gellir ei wneud ar gyfer coedwig sy’n tyfu ac mae’n rhan hanfodol o gylchred y goedwig.

Dysgwch fwy am sut rydym yn gofalu am ein coedwigoedd: Cylch bywyd ein coedwigoedd a'n coetiroedd

Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin

Cysylltwch รข ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: 

GweithrediadauCoedwigaethGDd@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Yn cau 9 Ebr 2027

Wedi agor 9 Hyd 2026

Ardaloedd

  • Gwernaffield

Cynulleidfaoedd

  • Forest Management

Diddordebau

  • Forest Management