Coed Nercwys - gweithrediadau coedwig
Trosolwg
Cliciwch i ddarllen y dudalen hon yn Saesneg / Click to read this page in English
Pa waith fydd yn digwydd?
Mae gwaith teneuo coed conwydd yn digwydd yng Nghoed Nercwys, ger yr Wyddgrug, a bydd yn cymryd tua tri mis i'w gwblhau.
Bydd y gwaith yn helpu i barhau i gynhyrchu pren lleol o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru heb yr angen am glirio coed.
Bydd teneuo'r goedwig yn:
- hyrwyddo twf, sefydlogrwydd a gwytnwch hirdymor y coed sy'n weddill.
- annog mwy o amrywiaeth a gwella iechyd cyffredinol y goedwig.
- lleihau'r angen am weithrediadau aml trwy gynnal teneuo ar draws rhan fawr o'r goedwig mewn un rhaglen waith.
Bydd y gweithrediadau hefyd yn cynnwys mân waith cynnal a chadw i gael gwared ar lystyfiant o arwynebau ffyrdd coedwig, gan wneud yn siwr fod y cynefinoedd ar hyd ymylon y ffordd yn cael eu diogelu. Mae'r gwelliannau hyn yn angenrheidiol i ganiatáu i lorïau pren gael mynediad i'r goedwig yn ddiogel a chludo pren i felinau llifio lleol.
Diogelwch
Yn ystod y gwaith, dilynwch yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau diogelwch a byddwch yn ymwybodol o symudiadau lorïau pren ar ffyrdd y goedwig.
Dysgwch fwy am ymweld â’n coedwigoedd yn ddiogel
Map yn dangos yr ardal waith
Amseroedd cludo pren a chyfyngiadau mynediad i feysydd parcio
Byddwch yn ymwybodol o symudiadau lorïau pren ar ffyrdd coedwig yn ystod y cyfnod gweithredol.
Bydd lorïau pren yn cyrraedd ac yn gadael y safle ar ddyddiau gwaith rhwng 4:00am a 6:30am, a 9:30am a 4:30pm.
Er mwyn caniatáu symud y lorïau pren yn ddiogel, bydd mynediad i'r meysydd parcio yng Nghoed Nercwys yn gyfyngedig yn ystod yr amseroedd hyn.
Mynediad a Chau Llwybrau
Bydd y gwaith yn gofyn am rai cau a dargyfeirio llwybrau. Bydd y rhain yn cael eu rheoli gan ddefnyddio arwyddion clir i helpu i sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Map i ddangos cau llwybr - Gorllewin
Map i ddangos cau llwybr - Dwyrain
Pam rydyn ni'n teneuo coed?
Unwaith y bydd ardal o goed wedi aeddfedu i faint penodol, maent yn dechrau cystadlu â'i gilydd am faethynnau, dŵr a golau.
Mae teneuo’r coed yn helpu i leihau’r gystadleuaeth hon ac yn ein galluogi i gael gwared ar goed afiach a’r rhai nad ydynt yn tyfu’n dda. Mae hefyd yn annog adfywio naturiol rhywogaethau brodorol ac yn helpu i adfer ein coetiroedd hynafol.
Dyma un o’r gweithgareddau mwyaf buddiol y gellir ei wneud ar gyfer coedwig sy’n tyfu ac mae’n rhan hanfodol o gylchred y goedwig.
Dysgwch fwy am sut rydym yn gofalu am ein coedwigoedd: Cylch bywyd ein coedwigoedd a'n coetiroedd
Cysylltwch รข ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
Ardaloedd
- Gwernaffield
Cynulleidfaoedd
- Forest Management
Diddordebau
- Forest Management
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook