Ymgynghoriad Statudol Parc Cenedlaethol Arfaethedig Glyndŵr Gorchymyn (Dynodi) 2025

Yn cau 8 Rhag 2025

Wedi agor 15 Medi 2025

Trosolwg

I weld y dudalen hon yn Saesneg, ewch i Proposed Glyndŵr National Park (Designation) Order - Statutory Consultation 2025. 

Dychwelwch i dudalen wybodaeth Cynnig Parc Cenedlaethol Newydd Cymru.

 

Rydym bellach yn ymgynghori ar y Gorchymyn Drafft (Dynodi) a'r map arfaethedig ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd yng Nghymru.

Gellir lawrlwytho'r rhain yma:

Gorchymyn Dynodi Drafft

Map Sylfaenol Parc Cenedlaethol Arfaethedig Glyndŵr

Map Manwl Parc Cenedlaethol Arfaethedig Glyndŵr

*Ar ôl i chi lawrlwytho'r map manwl, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ei agor gydag Adobe Acrobat.

 

Dewch draw i ddigwyddiad!

Galwch heibio i ddigwyddiad wyneb yn wyneb, dewch i gyfarfod cyhoeddus, neu anfonwch e-bost atom yn rhaglen.tirweddau.dynodedig@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i gofrestru ar gyfer digwyddiad ar-lein.

Am wybodaeth am ddyddiadau ac amseroedd y digwyddiadau, ewch i Digwyddiadau Ymgynghori Statudol 2025

 

 

Felly beth sydd wedi newid ers i ni ymgynghori ddiwethaf yn 2024?

Mae'r ffin arfaethedig ar gyfer Parc Cenedlaethol Glyndŵr wedi'i diweddaru yn dilyn adolygiad yn 2025. Rydym o'r farn bod y diwygiadau hyn yn gwella cydlyniant y ffin arfaethedig ac yn gwella'r cydymffurfiaeth â gofynion dynodi statudol.

Gweler yr Adroddiad Asesiad Terfynol o Dir i'w Ddynodi am fanylion llawn.

 

Ond yn gryno:

  • Mae ardal Twyni Gronant a Thalacre wedi'i hadfer.
  • Mae'r Ffin wedi'i mireinio i ddal ardal gydlynol o harddwch naturiol yn well gan ganolbwyntio ar yr ucheldiroedd, y dyffrynnoedd sy'n croestorri a'r ymyl arfordirol.
  • Mae rhan fawr o fewn Powys wedi'i dileu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi egluro, os sefydlir Parc Cenedlaethol newydd, ei bod wedi ymrwymo i'w ariannu'n iawn heb roi'r Parciau Cenedlaethol presennol na'r Awdurdodau Lleol cyfansoddol dan anfantais ariannol.

Mae datblygiadau diweddar mewn cymorthdaliadau amaethyddol, Ffermio Bro er enghraifft, yn cyflwyno cyfleoedd newydd i ffermwyr o fewn tirweddau dynodedig.

 

Adroddiadau hanesyddol

Mae adroddiadau hanesyddol a allai fod o ddiddordeb yn cynnwys:

 

Tystiolaeth Gefnogol

Mae cyfres o asesiadau wedi'u cwblhau i lywio gwneud penderfyniadau ac i fynd i'r afael ag ymholiadau a godwyd gan randdeiliaid.

 

 

Enw ar gyfer y Dynodiad Arfaethedig

Yr enw Glyndŵr oedd yr opsiwn mwyaf poblogaidd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn 2024.

 

Beth yw Manteision ac Anfanteision posibl Parc Cenedlaethol newydd?

 

Cyngor ar ymateb i'r Ymgynghoriad Statudol

Rhaid derbyn pob ymateb erbyn dydd Llun 8 Rhagfyr 2025 fan bellaf neu ni fyddant yn cael eu hystyried.

 

I ddechrau eich ymateb, cliciwch ar y botwm isod.

Ymateb i Barc Cenedlaethol Glyndŵr arfaethedig

Ardaloedd

  • Clwydian Range and Dee Valley

Cynulleidfaoedd

  • Citizens

Diddordebau

  • Community Engagement