Cynnig Parc Cenedlaethol Newydd Cymru

Yn agor 7 Hyd 2024

Yn cau 16 Rhag 2024

Trosolwg

Wedi'i ddiweddaru ddiwethaf ar Dydd Iau 11 Gorffennaf 2024.

I weld y dudalen yn Saesneg, os gwelwch yn dda, cliciwch yma.

Yn ei Rhaglen Lywodraethu (2021-2026), mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei bwriad i ddynodi Parc Cenedlaethol newydd yng Nghymru yn seiliedig ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) - a elwir bellach yn 'Dirwedd Genedlaethol' - presennol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Pe bai'n cael ei sefydlu, hwn fyddai'r pedwerydd Parc Cenedlaethol yng Nghymru, a'r cyntaf ers 1957.

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw cynghorydd statudol Llywodraeth Cymru ar dirwedd a harddwch naturiol a'r awdurdod dynodi ar gyfer unrhyw Barciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol newydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu CNC i werthuso’r achos dros Barc Cenedlaethol newydd.

Mae CNC yn annibynnol a bydd yn gwneud argymhelliad sy'n seiliedig ar dystiolaeth er budd pobl Cymru, gan weithredu’n unol â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol. Rydym wedi paratoi canllawiau gweithdrefnol sy’n nodi’r broses statudol y mae’n rhaid ei dilyn. Caiff y broses ei harwain gan dystiolaeth ac mae'n caniatáu ymgysylltu â'r holl randdeiliaid.

Bydd y broses yn adlewyrchu fframwaith deddfwriaethol a pholisi Cymru drwy gymhwyso egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a chanolbwyntio ar adfer natur ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd, a’i liniaru. 

Bydd y weithdrefn asesu yn penderfynu a yw'r dystiolaeth yn dangos bod y meini prawf statudol sy'n ymwneud â harddwch naturiol a chyfleoedd ar gyfer hamdden awyr agored yn cael eu bodloni, ac os yw'r ardal o arwyddocâd cenedlaethol digonol y dylai dibenion Parc Cenedlaethol fod yn berthnasol iddi. Bydd y weithdrefn hefyd yn caniatáu ymgynghori ac yn sicrhau cyfle i addasu'r cynigion fel bod y buddion mwyaf posibl yn deillio ohonynt, a bod modd osgoi unrhyw anfanteision posibl.

Ar ôl cwblhau'r drefn asesu, os bydd CNC o'r farn bod Dynodiad yn ddymunol i bobl Cymru - cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol - yna bydd gorchymyn Dynodi yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried hyn ac yn penderfynu naill ai cadarnhau, gwrthod neu amrywio'r Gorchymyn Dynodi. Os caiff ei gadarnhau, bydd Parc Cenedlaethol newydd yn cael ei greu.

Bydd yr asesiad yn cael ei gynnal o fewn tymor presennol y Senedd (2021-2026). 

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn yr ffeithlun isod.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Dyma ddywedoch chi wrthym ni:

Ym mis Hydref a mis Tachwedd 2023, cynhaliom gyfnod ymgysylltu cynnar i rannu'r maes astudio a gwrando ar eich barn. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd i’r cyfnod ymgysylltu drwy ein tudalen we, ein cyfryngau cymdeithasol, newyddion print lleol, a darllediadau newyddion lleol a chenedlaethol ar raglenni newyddion ITV a’r BBC gyda’r nos.

Roeddem yn falch iawn o siarad â dros 700 o bobl (619 yn bersonol a 105 ar-lein). Cawsom 966 o ymatebion i'r holiadur hefyd. Rydym wedi mynd drwy'r ymatebion yn ofalus ac mae adroddiad cryno ar gael isod.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

 

Beth arall ydyn ni wedi bod yn ei wneud?

Ochr yn ochr â'r adborth a gawsom - sef yr hyn sy’n ein llywio - mae'r drefn asesu statudol wedi parhau. Mae dau grŵp cynghori bellach wedi'u sefydlu ac yn cyfarfod yn rheolaidd. Rydym yn falch bod pob un o'r pump Awdurdod Lleol yr effeithir arnynt yn cymryd rhan yn y grwpiau cynghori.

  • Grŵp Cynghori Technegol – sy’n cyfarfod bob dau fis i drafod tystiolaeth a materion ymarferol gyda swyddogion perthnasol.
  • Grŵp Cynghori Rheolaeth – sy’n cyfarfod yn chwarterol am ddiweddariadau ac i drafod ystyriaethau strategol gydag uwch gynrychiolwyr.

Rydym wedi cwblhau cyfres o astudiaethau gyda chymorth ymgynghorwyr tirwedd arbenigol. Yn gyntaf, aeth cwmni Craggattak Consulting ati i werthuso gan nodi'r rhinweddau arbennig yn ardal yr astudiaeth y byddai gan Barc Cenedlaethol newydd gyfrifoldeb i'w gwarchod, eu hamddiffyn a'u gwella.

Yna, asesodd Land Use Consultants (LUC) Limited y 'Grymoedd dros Newid' (hynny yw, y dylanwadau deinamig presennol sy'n effeithio ar y nodweddion arbennig). Yna, fe wnaeth LUC hefyd gwblhau asesiad o'r Opsiynau Rheoli, a oedd yn cymharu sut y gallai gwahanol opsiynau reoli'r grymoedd hyn a chyflawni'r canlyniadau gorau.

Roedd yr opsiynau a ystyriwyd yn cynnwys:

  • Dim newid.
  • Bwrdd cadwraeth Tirwedd Genedlaethol (AHNE gynt) dros ardal fwy o faint.
  • Modelau amgen megis Parciau Rhanbarthol y Cymoedd a’r South Pennines
  • Parc Cenedlaethol

Yn olaf, comisiynwyd yr ymgynghorydd tirwedd, Gillespie's LLP, i gwblhau gwerthusiad diduedd a manwl o dirwedd ardal yr astudiaeth. Bydd y gwaith hwn yn egluro a yw ardal addas o dir yn bodloni'r profion statudol ar gyfer dynodiad Parc Cenedlaethol neu Dirwedd Genedlaethol. Bydd hefyd yn cynnig ffin arfaethedig. Rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatrys materion a chwestiynau a godwyd gan randdeiliaid, ac i gael eglurder ynghylch y trefniadau cyllido a fyddai'n berthnasol i ddynodiad.

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd yr asesiad manwl o'r dirwedd a map ffin arfaethedig yn cael eu cwblhau yr haf hwn. Yna bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ac yn aros ar agor drwy gydol hydref 2024.

Byddwch yn gallu gweld ein map, astudiaethau a thystiolaeth, siarad â'r tîm a rhannu eich barn drwy ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad.

Rydym am wrando eto a gwneud unrhyw newidiadau pellach sydd eu hangen yn 2025.

Yn hydref 2025, bydd trydydd cyfle - a'r olaf - i ddweud eich dweud ar y cynnyrch gorffenedig cyn iddo gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru am benderfyniad.

 

Ymgynghoriad 2024:

Rydym yn cadarnhau dyddiadau a lleoliadau ar hyn o bryd. Bydd cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol yr Hydref yn cael eu cyhoeddi yma yn ddiweddarach yn yr haf:

Felly, os gwelwch yn dda, gwyliwch y gofod hwn...

 

Cwestiynau Cyffredin

I ddarllen y Cwestiynau Cyffredin, cliciwch yma

Ychwanegir at y Cwestiynau Cyffredin wrth i'r rhaglen fynd yn ei blaen ac wrth inni dderbyn cwestiynau pellach.

 

Cysylltu â Ni

Byddwn yn postio gwybodaeth newydd yma ac o bryd i'w gilydd byddwn yn anfon hysbysiadau e-bost am ddiweddariadau. Os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio, neu os oes angen i chi gysylltu ag un o'r tîm, yna anfonwch e-bost atom:

rhaglen.tirweddau.dynodedig@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

 

Bydd y gweithgarwch hwn yn agor ar 7 Hyd 2024. Dychwelwch ar y dyddiad hwn, neu ar ôl hynny, i roi eich barn.

Ardaloedd

  • Clwydian Range and Dee Valley

Cynulleidfaoedd

  • Citizens

Diddordebau

  • Community Engagement