Cynnig Parc Cenedlaethol Newydd Cymru

Ar gau 16 Rhag 2024

Wedi'i agor 7 Hyd 2024

Trosolwg

Wedi'i ddiweddaru ddiwethaf ar Dydd Llun 7 Hydref 2024.

Mae’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus o 10 wythnos ar y cynnig am Barc Cenedlaethol newydd yng Nghymru rhwng 7 Hydref a 16 Rhagfyr 2024 wedi dechrau. Ewch draw i dudalen Cynnig Parc Cenedlaethol Newydd Cymru - Ymgynghoriad Cyhoeddus 2024 i ddarganfod mwy. 

I weld y dudalen yn Saesneg, os gwelwch yn dda, cliciwch yma.

Yn ei Rhaglen Lywodraethu (2021-2026), mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei bwriad i ddynodi Parc Cenedlaethol newydd yng Nghymru yn seiliedig ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) - a elwir bellach yn 'Dirwedd Genedlaethol' - presennol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Pe bai'n cael ei sefydlu, hwn fyddai'r pedwerydd Parc Cenedlaethol yng Nghymru, a'r cyntaf ers 1957.

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw cynghorydd statudol Llywodraeth Cymru ar dirwedd a harddwch naturiol a'r awdurdod dynodi ar gyfer unrhyw Barciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol newydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu CNC i werthuso’r achos dros Barc Cenedlaethol newydd.

Mae CNC yn annibynnol a bydd yn gwneud argymhelliad sy'n seiliedig ar dystiolaeth er budd pobl Cymru, gan weithredu’n unol â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol. Rydym wedi paratoi canllawiau gweithdrefnol sy’n nodi’r broses statudol y mae’n rhaid ei dilyn. Caiff y broses ei harwain gan dystiolaeth ac mae'n caniatáu ymgysylltu â'r holl randdeiliaid.

Bydd y broses yn adlewyrchu fframwaith deddfwriaethol a pholisi Cymru drwy gymhwyso egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a chanolbwyntio ar adfer natur ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd, a’i liniaru. 

Bydd y weithdrefn asesu yn penderfynu a yw'r dystiolaeth yn dangos bod y meini prawf statudol sy'n ymwneud â harddwch naturiol a chyfleoedd ar gyfer hamdden awyr agored yn cael eu bodloni, ac os yw'r ardal o arwyddocâd cenedlaethol digonol y dylai dibenion Parc Cenedlaethol fod yn berthnasol iddi. Bydd y weithdrefn hefyd yn caniatáu ymgynghori ac yn sicrhau cyfle i addasu'r cynigion fel bod y buddion mwyaf posibl yn deillio ohonynt, a bod modd osgoi unrhyw anfanteision posibl.

Ar ôl cwblhau'r drefn asesu, os bydd CNC o'r farn bod Dynodiad yn ddymunol i bobl Cymru - cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol - yna bydd gorchymyn Dynodi yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried hyn ac yn penderfynu naill ai cadarnhau, gwrthod neu amrywio'r Gorchymyn Dynodi. Os caiff ei gadarnhau, bydd Parc Cenedlaethol newydd yn cael ei greu.

Bydd yr asesiad yn cael ei gynnal o fewn tymor presennol y Senedd (2021-2026). 

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn yr ffeithlun isod.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

 

Cymerwch ran

Byddwn yn cynnal cyfnod ymgynghori cyhoeddus o ddydd Llun 7 Hydref tan 23:59 ddydd Llun 16 Rhagfyr 2024.

Cafodd ardal astudiaeth (y cyfeirir ati fel yr Ardal Chwilio), sy’n seiliedig ar ‘Dirwedd Genedlaethol’ Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ei nodi a’i rhannu yn ystod cyfnod ymgysylltu â’r cyhoedd ar ddiwedd 2023. Yn dilyn hyn, a chyfnod o gasglu tystiolaeth, bydd CNC nawr yn ymgynghori â’r cyhoedd ar y cynnig sy’n dod i’r amlwg drwy gydol misoedd yr hydref a’r gaeaf.

Bydd y digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus yn gyfle i ddysgu mwy am y prosiect a’r dystiolaeth a gasglwyd hyd yma, i ofyn cwestiynau i’r tîm a rhannu adborth ar y map ffiniau drafft y cyfeirir ato fel Map yr Ardal Ymgeisiol.

Meddai Ash Pearce, Rheolwr Rhaglen:

“Er bod gennym weithdrefn statudol i’w dilyn, rydym eisiau sicrhau fod hon yn broses gynhwysol a bod pobl yn cael cyfle i rannu eu barn ar y cynigion.

“Mae ymgysylltu cynnar wedi rhoi darlun llawer cliriach i ni o broblemau, gobeithion a phryderon y bobl leol a rhanddeiliaid. Rydym wedi nodi un ar ddeg o themâu sy'n tanlinellu risgiau a chyfleoedd i'r ardal. Mae'r rhain yn adlewyrchu pryderon am dwristiaeth a'r effaith ar dai, ond hefyd y gobeithion am well rheolaeth, mynediad cyfrifol, cadwraeth ac adferiad byd natur.

“Os caiff Parc Cenedlaethol newydd ei sefydlu, yna mae’n rhaid iddo allu rheoli’r risgiau a manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael, er mwyn gwella byd natur, pobl a chymunedau.”

“Rydym wedi diwygio ardal yr astudiaeth mewn ymateb i adborth lleol ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi penodi tri ymgynghorydd annibynnol ar wahân i’n helpu i ddatblygu’r dystiolaeth a fydd yn llywio ein hargymhelliad. O ganlyniad i'r gwaith hwn, mae gennym bellach fap Ardal Ymgeisiol yr hoffem ei rannu â'r cyhoedd. Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i fynychu un o’r digwyddiadau a restrir isod a chwblhau ein holiadur ar ôl gweld y crynodeb o’r dystiolaeth.”

Mae pobl yn cael eu hannog i alw heibio i ddigwyddiad wyneb yn wyneb neu anfon e-bost at dîm y prosiect yn rhaglen.tirweddau.dynodedig@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk er mwyn cofrestru ar gyfer digwyddiad ar-lein. Dim ond un digwyddiad fydd angen i bobl fynd iddo gan y bydd yr wybodaeth a rennir yr un fath ar gyfer pob digwyddiad.

Mae dyddiadau, amseroedd a lleoliad y digwyddiadau hyn i’w gweld yn y tabl isod.

 

Digwyddiadau Ymgynghori Cyhoeddus 2024:

Digwyddiadau galw heibio cyhoeddus

Dyddiad

Amser

Lleoliad

Dydd Iau, 10 Hydref

3yh – 7yh

Canolfan Gymunedol Parkfields, Llwyn Onn, Yr Wyddgrug CH7 1TB

Dydd Mercher, 16 Hydref

1yh – 7yh

Canolfan Ceiriog, Ffordd Newydd, Glyn Ceiriog, Llangollen LL20 7HE

Dydd Llun, 21 Hydref

3yh – 7yh

Neuadd Bentref Llanrhaeadr, Back Chapel Street, Llanrhaeadr ym Mochnant SY10 0JY

Dydd Sadwrn, 26 Hydref

10.30yb – 4.30yh

Parc Gwledig Loggerheads, Ffordd Rhuthun, Yr Wyddgrug CH7 5LH

Dydd Gwener, 8 Tachwedd

3yh – 7yh

Neuadd Goffa Wrecsam, Bodhyfryd, Wrecsam LL12 7AG 

Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

10yb – 4yh

Pwyllgor Sefydliad Cyhoeddus, Park View/Stryd Fawr, Llanfyllin SY22 5AA 

Dydd Sadwrn, 30 Tachwedd

10yb – 4yh

Canolfan Gymunedol Neuadd y Brenin, Rhodfa’r Brenin, Prestatyn LL19 9AA

Dydd Mawrth, 3 Rhagfyr

3yh – 7yh

Canolfan Cowshacc (1af Clives Own Welshpool Scout Headquarters & Community Centre), Stryd Berriew, Y Trallwng SY21 7TE

Dydd Mercher, 4 Rhagfyr

3yh – 7yh

Canolfan Ni, Ffordd Llundain, Corwen, Sir Ddinbych LL21 0DP

Dydd Mawrth, 10 Rhagfyr

3yh – 7yh

Neuadd y Dref Llangollen, Stryd y Castell, Llangollen LL20 8NU 

Digwyddiadau cyhoeddus ar-lein

Dyddiad

Amser

Lleoliad

Dydd Llun, 14 Hydref

6yh – 7:30yh

 

Microsoft Teams

Dydd Mawrth, 12 Tachwedd

6yh – 7:30yh

Dydd Iau, 12 Rhagfyr

6yh – 7:30yh

Digwyddiadau grŵp wedi'u targedu

Dyddiad

Amser

Cynulleidfa darged

Lleoliad

Dydd Llun, 7 Hydref

6yh – 7.30yh

Aelodau Etholedig

 

 

Microsoft Teams

Dydd Iau, 24 Hydref

6yh – 7.30yh

Grwpiau Hamdden a Mynediad

Dydd Mercher, 6 Tachwedd

2yh – 3.30yh

Grwpiau Amgylchedd a Threftadaeth

Dydd Llun, 18 Tachwedd

2yh – 3.30yh

Sector Ynni Adnewyddadwy

Dydd Mercher, 20 Tachwedd

3yh – 7yh

Sector Amaethyddol a Thirfeddianwyr

Coleg Llysfasi, Ffordd Rhuthun, Llysfasi, Rhuthun LL15 2LB 

Dydd Llun, 25 Tachwedd

2yh – 3.30yh

Cyfleustodau

 

Microsoft Teams

Dydd Mercher, 27 Tachwedd

6yh – 7.30yh

Busnesau a Thwristiaeth

 

 

Dyma ddywedoch chi wrthym ni yn ystod y cyfnod ymgysylltu 2023:

Ym mis Hydref a mis Tachwedd 2023, cynhaliom gyfnod ymgysylltu cynnar i rannu'r maes astudio a gwrando ar eich barn. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd i’r cyfnod ymgysylltu drwy ein tudalen we, ein cyfryngau cymdeithasol, newyddion print lleol, a darllediadau newyddion lleol a chenedlaethol ar raglenni newyddion ITV a’r BBC gyda’r nos.

Roeddem yn falch iawn o siarad â dros 700 o bobl (619 yn bersonol a 105 ar-lein). Cawsom 966 o ymatebion i'r holiadur hefyd. Rydym wedi mynd drwy'r ymatebion yn ofalus ac mae adroddiad cryno ar gael isod.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

 

Beth arall ydyn ni wedi bod yn ei wneud?

Ochr yn ochr â'r adborth a gawsom - sef yr hyn sy’n ein llywio - mae'r drefn asesu statudol wedi parhau. Mae dau grŵp cynghori bellach wedi'u sefydlu ac yn cyfarfod yn rheolaidd. Rydym yn falch bod pob un o'r pump Awdurdod Lleol yr effeithir arnynt yn cymryd rhan yn y grwpiau cynghori.

  • Grŵp Cynghori Technegol – sy’n cyfarfod bob dau fis i drafod tystiolaeth a materion ymarferol gyda swyddogion perthnasol.
  • Grŵp Cynghori Rheolaeth – sy’n cyfarfod yn chwarterol am ddiweddariadau ac i drafod ystyriaethau strategol gydag uwch gynrychiolwyr.

Rydym wedi cwblhau cyfres o astudiaethau gyda chymorth ymgynghorwyr tirwedd arbenigol. Yn gyntaf, aeth cwmni Craggattak Consulting ati i werthuso gan nodi'r rhinweddau arbennig yn ardal yr astudiaeth y byddai gan Barc Cenedlaethol newydd gyfrifoldeb i'w gwarchod, eu hamddiffyn a'u gwella.

Yna, asesodd Land Use Consultants (LUC) Limited y 'Grymoedd dros Newid' (hynny yw, y dylanwadau deinamig presennol sy'n effeithio ar y nodweddion arbennig). Yna, fe wnaeth LUC hefyd gwblhau asesiad o'r Opsiynau Rheoli, a oedd yn cymharu sut y gallai gwahanol opsiynau reoli'r grymoedd hyn a chyflawni'r canlyniadau gorau.

Roedd yr opsiynau a ystyriwyd yn cynnwys:

  • Dim newid.
  • Bwrdd cadwraeth Tirwedd Genedlaethol (AHNE gynt) dros ardal fwy o faint.
  • Modelau amgen megis Parciau Rhanbarthol y Cymoedd a’r South Pennines
  • Parc Cenedlaethol

Yn olaf, comisiynwyd yr ymgynghorydd tirwedd, Gillespie's LLP, i gwblhau gwerthusiad diduedd a manwl o dirwedd ardal yr astudiaeth. Bydd y gwaith hwn yn egluro a yw ardal addas o dir yn bodloni'r profion statudol ar gyfer dynodiad Parc Cenedlaethol neu Dirwedd Genedlaethol. Bydd hefyd yn cynnig ffin arfaethedig. Rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatrys materion a chwestiynau a godwyd gan randdeiliaid, ac i gael eglurder ynghylch y trefniadau cyllido a fyddai'n berthnasol i ddynodiad.

 

Cysylltu â Ni

Byddwn yn postio gwybodaeth newydd yma ac o bryd i'w gilydd byddwn yn anfon hysbysiadau e-bost am ddiweddariadau. Os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio, neu os oes angen i chi gysylltu ag un o'r tîm, yna anfonwch e-bost atom:

rhaglen.tirweddau.dynodedig@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

 

Ardaloedd

  • Clwydian Range and Dee Valley

Cynulleidfaoedd

  • Citizens

Diddordebau

  • Community Engagement