Cynnig Parc Cenedlaethol Newydd Cymru

Trosolwg

Wedi'i ddiweddaru ddiwethaf ym mis Hydref 2026.

Ewch i Wales’s New National Park Proposal i weld y dudalen hon yn Saesneg.

Y newyddion diweddaraf: Hydref 2026

  • Mae Llywodraeth Cymru o blaid peidio â chadarnhau Gorchymyn Parc Cenedlaethol Glyndŵr (Dynodi) 2026 ac mae wedi lansio cyfnod ymgysylltu pedair wythnos o hyd cyn gwneud penderfyniad terfynol (Dolen i'r Datganiad Llafar).
  • Ddydd Llun 12 Ionawr 2026, yn dilyn adolygiad o dystiolaeth ac ymgynghoriadau, penderfynodd Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru wneud y Gorchymyn Dynodi. Gallwch ddarllen papurau'r Bwrdd yma: Cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru/CNC 12 Ionawr 2026 Cynhaliwyd cyfnod hysbysu: Cyfnod Hysbysu 2026 - Cyfoeth Naturiol Cymru Citizen Space - Citizen Space Pasiwyd yr holl wybodaeth i Lywodraeth Cymru i’w helpu i wneud penderfyniad.

Gweler isod am wybodaeth cyn 2026. 

Cefndir y Cynnig

Yn ei Rhaglen Lywodraethu (2021- 2026), nododd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i ddynodi Parc Cenedlaethol newydd i Gymru. CNC yw cynghorydd statudol Llywodraeth Cymru ar dirwedd a’r awdurdod dynodi ar gyfer unrhyw Barciau Cenedlaethol neu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol newydd.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru CNC i werthuso’r achos dros Barc Cenedlaethol newydd yn seiliedig ar Dirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gynt).

Mae CNC yn sefydliad annibynnol a bydd yn gwneud argymhelliad annibynnol yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd a’r goblygiadau i ddinasyddion Cymru. Bydd y broses a’r profion statudol yn cael eu cymhwyso.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae CNC wedi bod yn gwerthuso’r achos dros Barc Cenedlaethol newydd yng Nghymru. Mae’r gwaith wedi cynnwys casglu data a thystiolaeth, ymgynghori ac ymgysylltu â chymunedau lleol a rhanddeiliaid eraill.

Mae canllawiau gweithdrefnol CNC: GN010 wedi llywio’r weithdrefn asesu.

Gweler y ddogfen Canllawiau Gweithdrefnol am fanylion llawn.

 

 

Cyfnod Ymgysylltu a’r Cyhoedd 2023

Fe wnaethon ni gynnal cyfnod ymgysylltu cyhoeddus am 7 wythnos yn 2023 a oedd yn cynnwys digwyddiadau ar-lein a galw heibio ar gyfer y cyhoedd a rhanddeiliaid targedig. Bwriad hyn oedd meithrin dealltwriaeth o faterion lleol, ac roedd yn cynnwys rhannu Map Ardal Chwilio cychwynnol. Cafwyd 966 o ymatebion i’r holiadur, ac roedd mwyafrif bach o’r ymatebwyr o blaid Parc Cenedlaethol newydd. Y themâu a grybwyllwyd amlaf a nodwyd o’r dadansoddiad oedd:

  1. Cadwraeth tirwedd, Cydnabyddiaeth i’r ardal, Tawelwch.
  2. Bywyd Gwyllt, Amaethyddiaeth a rheoli tir, Amgylchedd a Chynaliadwyedd.
  3. Twristiaeth, Gwasanaethau cyhoeddus, a Seilwaith.
  4. Angenrheidrwydd am newid, Rheoli a Rheolaethau, Costau, Cyllid, Biwrocratiaeth.
  5. Pobl leol a chymunedau, Economi Leol.
  6. Materion mynediad a Hamdden awyr agored.
  7. Tai.
  8. Diwylliant a Threftadaeth.
  9. Goblygiadau cynllunio.
  10. Ymholiadau ynghylch ffiniau.
  11. Angen am fwy o wybodaeth.

O ganlyniad i adborth gan randdeiliaid, ychwanegwyd nifer o feysydd i’w hasesu ymhellach i lywio’r Ardal Ymgeisio ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn 2024.

Gweler y dudalen Cyfnod Ymgysylltu â’r cyhoedd rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2023 a'r Adroddiad Cyfnod Ymgysylltu a'r Cyhoedd 2023 am fanylion llawn.

 

 

Ymgynghoriad Cyhoeddus 2024

Fe wnaethon ni gynnal ymgynghoriad cyhoeddus am 10 wythnos yn 2024, ar yr Ardal Ymgeisio derbyniwyd 1,960 o ymatebion. Roedd cydnabyddiaeth gref o’r meini prawf cymhwyso ar gyfer Parc Cenedlaethol er nad oedd hyn bob amser yn trosi’n gefnogaeth i’r dynodiad. Roedd mwyafrif o tua 10% o’r ymatebwyr o blaid Parc Cenedlaethol newydd. Roedd y materion allweddol yn fras yn debyg i’r rhai a nodwyd yn 2023. Llywiodd adborth lawer o’r asesiadau canlynol ac fe ysgogodd adolygiad o’r dystiolaeth yn ymwneud â’r ffin.

Gweler tudalen ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2024 a'r Adroddiad Ymgynghoriad Cyhoeddus 2024 am fanylion llawn.

 

Ymgynghoriad Statudol 2025

Cynhaliwyd Ymgynghoriad Statudol gennym yn 2025. Gofynnwyd am farn gan gymunedau, rhanddeiliaid ac awdurdodau lleol ar y ffin arfaethedig a'r dystiolaeth ategol, gan ddefnyddio ymatebion ar-lein, cyflwyniadau ysgrifenedig ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Tynnodd yr adborth sylw at gyfleoedd ar gyfer buddion cadwraeth a diwylliannol, ochr yn ochr â phryderon am effeithiau twristiaeth, tai, cymunedau lleol, ffermio a chynllunio.

Mae Adroddiad Ymgynghori Statudol llawn 2025 ar gael, neu gallwch ddarllen y ddogfen gryno dadansoddi ym mhapurau'r Bwrdd: Cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru/CNC 12 Ionawr 2026

I weld ein tudalennau Ymgynghori Statudol o 2025, ewch i Ymgynghoriad Statudol Parc Cenedlaethol Arfaethedig Glyndŵr Gorchymyn (Dynodi) 2025.

Ar gau 16 Rhag 2024

Wedi agor 7 Hyd 2024

Ardaloedd

  • Clwydian Range and Dee Valley

Cynulleidfaoedd

  • Citizens

Diddordebau

  • Community Engagement