Pysgodfa Cocos Aber Afon Dyfrdwy: Gorchymyn Rheoleiddio Newydd

Yn cau 27 Hyd 2025

Wedi agor 15 Medi 2025

Trosolwg

English version

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Awdurdod Pysgodfeydd a Chadwraeth Glannau Gogledd-orllewin Lloegr (NWIFCA) yn gweithio mewn partneriaeth i wneud cais am Orchymyn Rheoleiddio newydd ar gyfer pysgodfa cocos aber afon Dyfrdwy. Bydd hyn yn disodli’r Gorchymyn presennol a gyflwynwyd yn 2008, sydd wedi helpu i drawsnewid y bysgodfa yn un o’r rhai mwyaf cynaliadwy yn y DU.

Nod y Gorchymyn newydd arfaethedig yw adeiladu ar y llwyddiant hwn — gan sicrhau y bydd y bysgodfa’n parhau i gael ei rheoli’n dda, i fod yn amgylcheddol gyfrifol ac yn wydn, gan gyflawni manteision hirdymor i’r rhai sy’n casglu cocos, i gymunedau lleol ac i’r amgylchedd naturiol ehangach.

Pam Mae Angen Gorchymyn Rheoleiddio Newydd

  • Bydd y Gorchymyn Rheoleiddio presennol yn dod i ben ym mis Mehefin 2028.
  • Heb Orchymyn newydd, gallai’r bysgodfa wynebu heriau, er enghraifft gor-gynaeafu, difrod i gynefinoedd, a cholli’r cynnydd a wnaed dros y 17 mlynedd diwethaf.
  • Bydd Gorchymyn newydd yn darparu fframwaith cyfreithiol clir i gefnogi cynaeafu cynaliadwy, diogelu cynefinoedd a mynediad teg i’r bysgodfa.

Model Profedig o Reoli Pysgodfeydd yn Gynaliadwy

Ers 2008, mae pysgodfa cocos aber afon Dyfrdwy yn gweithredu o dan Orchymyn Rheoleiddio sydd wedi helpu i:

  • Ddod â chylchoedd cynaeafu “chwim dwf a chwalfa” anghynaladwy i ben.
  • Cefnogi 54 o gasglwyr trwyddedig a chreu manteision economaidd hirdymor.
  • Adfer a gwarchod cynefinoedd aberol a phoblogaethau adar.
  • Cyflawni ardystiad MSC yn ogystal ag ennill Gwobr Arweinyddiaeth Môr y DU yr MSC 2023 am arferion cynaliadwy rhagorol ac ymroddiad i ddiogelu adar a hyrwyddo cynaeafu effaith isel ym mhysgodfeydd cocos aber afon Dyfrdwy a Chilfach Tywyn.

Bydd y Gorchymyn newydd arfaethedig yn adeiladu ar y sylfaen lwyddiannus hon.

Diogelu Dyfodol y Bysgodfa

Bydd y Gorchymyn Rheoleiddio newydd yn:

  • Helpu i ddiogelu stociau cocos a chynefinoedd sensitif yr aber.
  • Sicrhau mynediad teg a chynaliadwy parhaus i gasglwyr trwyddedig.
  • Cyflawni manteision hirdymor i fyd natur, bywoliaeth yn lleol, a’r gymuned ehangach.
  • Atal gwaith rheoli’r bysgodfa rhag cael ei rannu rhwng y cyfundrefnau cenedlaethol ar y naill ochr a’r llall i’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, sy’n rhedeg trwy ganol aber afon Dyfrdwy, a fyddai’n golygu bod perygl i’r dulliau gweithredu wahaniaethu ac o bosib y byddai polisïau a gweithdrefnau gwahanol yn cael eu datblygu gan ddwy weinyddiaeth wahanol y pysgodfeydd.

Bydd y Gorchymyn newydd arfaethedig yn ategu trwyddedu cenedlaethol drwy gynnig amddiffyniadau seiliedig ar le wedi’u teilwra i anghenion unigryw aber afon Dyfrdwy.

Yn Gryfach Gyda’n Gilydd – Dull Cydweithredol

Mae CNC a NWIFCA yn cyfuno eu profiad a’u harbenigedd i:

  • Gynnig profiad ymarferol o reoleiddio a gorfodi pysgodfeydd pysgod cregyn.
  • Darparu ymrwymiad ar y cyd i gynaliadwyedd a diogelu cynefinoedd.
  • Sicrhau rolau cyflenwol — mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn canolbwyntio ar oruchwyliaeth ecolegol gan gynnwys cynnal Amcanion Cadwraeth yr Ardal Forol Warchodedig ac alinio â blaenoriaethau cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru, tra bod NWIFCA yn dod ag arbenigedd ehangach o ran rheoli a rheoleiddio pysgodfeydd y glannau.

Gyda’n gilydd, ein nod yw cyflawni fframwaith rheoli cydlynol a chynhwysol sy’n adlewyrchu gwybodaeth leol a blaenoriaethau cenedlaethol.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Ar hyn o bryd, rydym yn gwneud y canlynol:

  • Paratoi’r cais ar gyfer y Gorchymyn Rheoleiddio newydd.
  • Cwblhau’r deunyddiau ymgysylltu, gan gynnwys arolwg i randdeiliaid ar-lein, wedi’i gynllunio ar gyfer mis Medi 2025.
  • Gweithio gyda phartneriaid a chymunedau i siapio dyfodol cynaliadwy ar gyfer pysgodfa aber afon Dyfrdwy.

Cymerwch Ran

Rydym wedi ymroi i gynnal deialog agored a chynhwysol. Os ydych yn un o’r canlynol:

  • Casglwr cocos trwyddedig neu ddarpar gasglwr cocos
  • Aelod o’r gymuned leol
  • Rhanddeiliad morol neu amgylcheddol
  • Cynrychiolydd o’r diwydiant pysgodfeydd

...mae eich barn yn bwysig i ni a bydd yn helpu i lywio’r Gorchymyn Rheoleiddio newydd.

Rhowch eich barn.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Awdurdod Pysgodfeydd a Chadwraeth Glannau Gogledd-orllewin Lloegr (NWIFCA) yn gweithio mewn partneriaeth i wneud cais am Orchymyn Rheoleiddio newydd ar gyfer pysgodfa cocos aber afon Dyfrdwy. Bydd hyn yn disodli’r Gorchymyn presennol a gyflwynwyd yn 2008, sydd wedi helpu i drawsnewid y bysgodfa yn un o’r rhai mwyaf cynaliadwy yn y DU.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Adfer afonydd
  • Anglers
  • Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
  • Citizens
  • citizens
  • Coal Authority
  • Coastal Group Members
  • Cockles
  • Community Volunteers
  • DCWW
  • Designated Landscapes
  • Educators
  • EPR and COMAH facilities
  • Equality, Diversity and Inclusion
  • Flooding
  • Fly-fishing
  • Forest Management
  • Gwent
  • Gwirfoddolwyr Cymunedol
  • IMPEL Network
  • Llifogydd
  • marine developers
  • marine planners
  • Metal mines
  • Mine recovery specialists
  • Mwyngloddiau metel
  • National Access Forum
  • Natur am Byth!
  • Network Completion Project Task and Finish Group
  • Newport Green and Safe Spaces
  • NFU
  • Rheoli coedwigoedd
  • River restoration
  • Rivers
  • SoNaRR2020
  • South West Stakeholder group
  • Tirweddau dynonedig
  • Wales Biodiversity Partnership
  • water companies
  • Water Resources
  • Woodland Opportunity Map users

Diddordebau

  • Abstraction Licences
  • Acorn Antics / Miri Mes
  • Adfer afonydd
  • Adfer mwyngloddiau
  • Adnoddau Dwr
  • Bioamrywiaeth
  • Biodiversity
  • Climate change adaptation measures
  • Community Engagement
  • Community Voulnteering
  • Consultation
  • Customer Experience
  • Customer Journey Mapping
  • Cynllunio dwr
  • Datganiad Ardal De Orllewin
  • Datganiad Ardal Morol
  • Datglygiad
  • Dee
  • Development
  • Dysgu proffesiynnol
  • EIA
  • Engagement
  • Equality, Diversity and Inclusion
  • Fforwm Mynediad Cenedlaethol
  • Fishing
  • Flooding
  • Forest Management
  • Fruitful Orchard Project
  • Gwastraff
  • Gwent
  • Gwerthu Pren
  • Gwirfoddoli Cymunedol
  • IMPEL Network
  • Landscapes
  • Llais Rheoleiddio
  • Llifogydd
  • Marine Area Statement
  • Marine Area Statement
  • Marine Protected Areas Network Completion Project
  • Metal mines
  • Mine recovery
  • Mwyngloddiau metel
  • National Access Forum
  • Newport Green and Safe Spaces
  • Permits
  • Professional learning
  • Pysgota
  • Regulatory Voice
  • resources
  • Rheoli Coedwig
  • river basin planning
  • River restoration
  • SoNaRR2020
  • South West Area Statement
  • Species Licence
  • Stakeholder Management
  • Strategic review of charging
  • Terrestrial ecosystems and species
  • The Hub
  • Timber sales
  • Tirweddau
  • Trwydded Rhywogaeth
  • Trwyddedau
  • Waste
  • water framework directive
  • water planning
  • Water Resources
  • WFD
  • Woodland Opportunity Map
  • Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr
  • Ymgysylltu cymunedol