Pysgodfa Cocos Aber Afon Dyfrdwy: Gorchymyn Rheoleiddio Newydd
Trosolwg
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Awdurdod Pysgodfeydd a Chadwraeth Glannau Gogledd-orllewin Lloegr (NWIFCA) yn gweithio mewn partneriaeth i wneud cais am Orchymyn Rheoleiddio newydd ar gyfer pysgodfa cocos aber afon Dyfrdwy. Bydd hyn yn disodli’r Gorchymyn presennol a gyflwynwyd yn 2008, sydd wedi helpu i drawsnewid y bysgodfa yn un o’r rhai mwyaf cynaliadwy yn y DU.
Nod y Gorchymyn newydd arfaethedig yw adeiladu ar y llwyddiant hwn — gan sicrhau y bydd y bysgodfa’n parhau i gael ei rheoli’n dda, i fod yn amgylcheddol gyfrifol ac yn wydn, gan gyflawni manteision hirdymor i’r rhai sy’n casglu cocos, i gymunedau lleol ac i’r amgylchedd naturiol ehangach.
Pam Mae Angen Gorchymyn Rheoleiddio Newydd
- Bydd y Gorchymyn Rheoleiddio presennol yn dod i ben ym mis Mehefin 2028.
- Heb Orchymyn newydd, gallai’r bysgodfa wynebu heriau, er enghraifft gor-gynaeafu, difrod i gynefinoedd, a cholli’r cynnydd a wnaed dros y 17 mlynedd diwethaf.
- Bydd Gorchymyn newydd yn darparu fframwaith cyfreithiol clir i gefnogi cynaeafu cynaliadwy, diogelu cynefinoedd a mynediad teg i’r bysgodfa.
Model Profedig o Reoli Pysgodfeydd yn Gynaliadwy
Ers 2008, mae pysgodfa cocos aber afon Dyfrdwy yn gweithredu o dan Orchymyn Rheoleiddio sydd wedi helpu i:
- Ddod â chylchoedd cynaeafu “chwim dwf a chwalfa” anghynaladwy i ben.
- Cefnogi 54 o gasglwyr trwyddedig a chreu manteision economaidd hirdymor.
- Adfer a gwarchod cynefinoedd aberol a phoblogaethau adar.
- Cyflawni ardystiad MSC yn ogystal ag ennill Gwobr Arweinyddiaeth Môr y DU yr MSC 2023 am arferion cynaliadwy rhagorol ac ymroddiad i ddiogelu adar a hyrwyddo cynaeafu effaith isel ym mhysgodfeydd cocos aber afon Dyfrdwy a Chilfach Tywyn.
Bydd y Gorchymyn newydd arfaethedig yn adeiladu ar y sylfaen lwyddiannus hon.
Diogelu Dyfodol y Bysgodfa
Bydd y Gorchymyn Rheoleiddio newydd yn:
- Helpu i ddiogelu stociau cocos a chynefinoedd sensitif yr aber.
- Sicrhau mynediad teg a chynaliadwy parhaus i gasglwyr trwyddedig.
- Cyflawni manteision hirdymor i fyd natur, bywoliaeth yn lleol, a’r gymuned ehangach.
- Atal gwaith rheoli’r bysgodfa rhag cael ei rannu rhwng y cyfundrefnau cenedlaethol ar y naill ochr a’r llall i’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, sy’n rhedeg trwy ganol aber afon Dyfrdwy, a fyddai’n golygu bod perygl i’r dulliau gweithredu wahaniaethu ac o bosib y byddai polisïau a gweithdrefnau gwahanol yn cael eu datblygu gan ddwy weinyddiaeth wahanol y pysgodfeydd.
Bydd y Gorchymyn newydd arfaethedig yn ategu trwyddedu cenedlaethol drwy gynnig amddiffyniadau seiliedig ar le wedi’u teilwra i anghenion unigryw aber afon Dyfrdwy.
Yn Gryfach Gyda’n Gilydd – Dull Cydweithredol
Mae CNC a NWIFCA yn cyfuno eu profiad a’u harbenigedd i:
- Gynnig profiad ymarferol o reoleiddio a gorfodi pysgodfeydd pysgod cregyn.
- Darparu ymrwymiad ar y cyd i gynaliadwyedd a diogelu cynefinoedd.
- Sicrhau rolau cyflenwol — mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn canolbwyntio ar oruchwyliaeth ecolegol gan gynnwys cynnal Amcanion Cadwraeth yr Ardal Forol Warchodedig ac alinio â blaenoriaethau cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru, tra bod NWIFCA yn dod ag arbenigedd ehangach o ran rheoli a rheoleiddio pysgodfeydd y glannau.
Gyda’n gilydd, ein nod yw cyflawni fframwaith rheoli cydlynol a chynhwysol sy’n adlewyrchu gwybodaeth leol a blaenoriaethau cenedlaethol.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Ar hyn o bryd, rydym yn gwneud y canlynol:
- Paratoi’r cais ar gyfer y Gorchymyn Rheoleiddio newydd.
- Cwblhau’r deunyddiau ymgysylltu, gan gynnwys arolwg i randdeiliaid ar-lein, wedi’i gynllunio ar gyfer mis Medi 2025.
- Gweithio gyda phartneriaid a chymunedau i siapio dyfodol cynaliadwy ar gyfer pysgodfa aber afon Dyfrdwy.
Cymerwch Ran
Rydym wedi ymroi i gynnal deialog agored a chynhwysol. Os ydych yn un o’r canlynol:
- Casglwr cocos trwyddedig neu ddarpar gasglwr cocos
- Aelod o’r gymuned leol
- Rhanddeiliad morol neu amgylcheddol
- Cynrychiolydd o’r diwydiant pysgodfeydd
...mae eich barn yn bwysig i ni a bydd yn helpu i lywio’r Gorchymyn Rheoleiddio newydd.
Rhowch eich barn.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Awdurdod Pysgodfeydd a Chadwraeth Glannau Gogledd-orllewin Lloegr (NWIFCA) yn gweithio mewn partneriaeth i wneud cais am Orchymyn Rheoleiddio newydd ar gyfer pysgodfa cocos aber afon Dyfrdwy. Bydd hyn yn disodli’r Gorchymyn presennol a gyflwynwyd yn 2008, sydd wedi helpu i drawsnewid y bysgodfa yn un o’r rhai mwyaf cynaliadwy yn y DU.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Adfer afonydd
- Anglers
- Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
- Citizens
- citizens
- Coal Authority
- Coastal Group Members
- Cockles
- Community Volunteers
- DCWW
- Designated Landscapes
- Educators
- EPR and COMAH facilities
- Equality, Diversity and Inclusion
- Flooding
- Fly-fishing
- Forest Management
- Gwent
- Gwirfoddolwyr Cymunedol
- IMPEL Network
- Llifogydd
- marine developers
- marine planners
- Metal mines
- Mine recovery specialists
- Mwyngloddiau metel
- National Access Forum
- Natur am Byth!
- Network Completion Project Task and Finish Group
- Newport Green and Safe Spaces
- NFU
- Rheoli coedwigoedd
- River restoration
- Rivers
- SoNaRR2020
- South West Stakeholder group
- Tirweddau dynonedig
- Wales Biodiversity Partnership
- water companies
- Water Resources
- Woodland Opportunity Map users
Diddordebau
- Abstraction Licences
- Acorn Antics / Miri Mes
- Adfer afonydd
- Adfer mwyngloddiau
- Adnoddau Dwr
- Bioamrywiaeth
- Biodiversity
- Climate change adaptation measures
- Community Engagement
- Community Voulnteering
- Consultation
- Customer Experience
- Customer Journey Mapping
- Cynllunio dwr
- Datganiad Ardal De Orllewin
- Datganiad Ardal Morol
- Datglygiad
- Dee
- Development
- Dysgu proffesiynnol
- EIA
- Engagement
- Equality, Diversity and Inclusion
- Fforwm Mynediad Cenedlaethol
- Fishing
- Flooding
- Forest Management
- Fruitful Orchard Project
- Gwastraff
- Gwent
- Gwerthu Pren
- Gwirfoddoli Cymunedol
- IMPEL Network
- Landscapes
- Llais Rheoleiddio
- Llifogydd
- Marine Area Statement
- Marine Area Statement
- Marine Protected Areas Network Completion Project
- Metal mines
- Mine recovery
- Mwyngloddiau metel
- National Access Forum
- Newport Green and Safe Spaces
- Permits
- Professional learning
- Pysgota
- Regulatory Voice
- resources
- Rheoli Coedwig
- river basin planning
- River restoration
- SoNaRR2020
- South West Area Statement
- Species Licence
- Stakeholder Management
- Strategic review of charging
- Terrestrial ecosystems and species
- The Hub
- Timber sales
- Tirweddau
- Trwydded Rhywogaeth
- Trwyddedau
- Waste
- water framework directive
- water planning
- Water Resources
- WFD
- Woodland Opportunity Map
- Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dwr
- Ymgysylltu cymunedol
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook