Gwaith Adfer Draeniau Llifogydd Sandycroft a Phentre

Yn cau 31 Hyd 2025

Wedi'i agor 23 Hyd 2024

Trosolwg

English page available here.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd camau pendant i wella perfformiad y prif rwydwaith afonydd yn Sandycroft a Phentre. Mae’r ymdrechion hyn yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i reoli’r perygl o lifogydd yn y gymuned leol ac yn cael eu hariannu gan gymorth grant Rheoli Perygl Llifogydd Llywodraeth Cymru.

Mae'r gwaith hwn yn rhan o bartneriaeth ehangach gyda chydweithwyr o Gyngor Sir y Fflint, ac mae'n rhan o brosiect hirdymor i wella sut mae’r perygl o lifogydd yn cael ei reoli yn Sandycroft a Phentre.

Fodd bynnag, wrth i’n hinsawdd newid, byddwn yn profi stormydd amlach a bydd lefel y môr yn codi. Bydd hyn yn rhoi pwysau cynyddol ar amddiffynfeydd llifogydd a gallai effeithio ar eu perfformiad. Mae cynnal y lefel bresennol o amddiffyniad rhag llifogydd ar gyfer pobl a chartrefi yn dasg heriol, ac ni fydd modd inni atal yr holl lifogydd.

Pa waith sy'n cael ei wneud?

Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau mewn dau gam:

Mae'r cam cyntaf yn canolbwyntio ar wella'r llif o fewn y systemau hyn trwy glirio rhwystrau a gwaddod sydd wedi cronni ac unrhyw rwystrau eraill i’r llif nad ydynt yn adeileddol.

Yn achos draen Sandycroft (y cwrs dŵr agored sy'n llifo o The Bridge Inn i afon Dyfrdwy), bydd malurion, gwaddod sydd wedi cronni a llystyfiant yn cael eu clirio o tua 400 metr o'r sianel agored.

Yn achos draen gogledd Pentre (cwrs dŵr wedi’i bibellu sy'n llifo ger ochr ogleddol Heol Caer), bydd hyn yn golygu defnyddio tanciau sugno arbenigol a pheiriannau cysylltiol.

Mae'r ail gam yn amodol ar ganfyddiadau'r gwaith cychwynnol a bydd yn golygu gwneud atgyweiriadau adeileddol i geuffos draen gogledd Pentre. Gall hyn olygu ailosod rhannau o bibellau mawr a/neu atgyweiriadau lleol neu ail-leinio.

Lle nodir bod angen gwaith o'r fath, byddwn yn siarad â'r tirfeddianwyr unigol a fydd yn cael eu heffeithio ymlaen llaw i drafod cynigion manwl.

Pryd bydd y gwaith yn dechrau ac yn gorffen?

Bydd cam cyntaf y gwaith yn dechrau ym mis Hydref 2024 a disgwylir iddo gael ei gwblhau cyn diwedd Ionawr 2025. Mae natur y gwaith (megis gweithio mewn cyrsiau dŵr) a’r cyfyngiadau y gall tywydd eu gosod ar gynnydd yn golygu na allwn fod yn fwy manwl gywir o ran ein rhaglen ar hyn o bryd.

Bydd Cam 2 yn dilyn y cam cyntaf yn y flwyddyn newydd. Ar hyn o bryd, ni wyddom yn sicr beth fydd maint na natur yr atgyweiriadau sydd eu hangen. Bydd hyn yn cael ei ddylanwadu gan yr hyn sy’n cael ei nodi yn ystod Cam 1. Bydd y prosiect ac amserlenni’r rhaglen yn cael eu diweddaru unwaith y daw graddfa unrhyw waith yn glir.

Ble bydd y gwaith yn digwydd?

Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar ddwy ran hollbwysig o brif gyrsiau dŵr afonydd, lle disgwylir y bydd ymyriadau’n darparu’r budd mwyaf ac yn helpu i wella’r system ddraenio leol ehangach, gan helpu i reoli’r perygl o lifogydd. Mae’r rhain fel a ganlyn:

  • Draen Sandycroft: Dyma'r cwrs dŵr agored sy'n llifo o The Bridge Inn ger Heol yr Orsaf tuag at afon Dyfrdwy. Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â materion cynhwysedd sianel ar hyd 400 metr cyntaf y cwrs dŵr hwn, o The Bridge Inn i'r groesfan yn Stryd Phoenix (gogledd).
  • Draen gogledd Pentre: Y rhan o’r cwlfer (cwrs dŵr sydd wedi’i bibellu) sy'n llifo ger ochr ogleddol Heol Caer o Glendale Avenue i'r man lle mae'n cysylltu â draen Sandycroft (uchod) ger The Bridge Inn.

Bydd Cam 1 yn cynnwys gweithio o fewn y ddau gwrs dŵr. Mae Cam 2 y gwaith yn debygol o gael ei gyfyngu i rannau penodol o ddraen gogledd Pentre yn unig. Lle nodir bod angen gwaith o'r fath, byddwn yn siarad â'r tirfeddianwyr unigol a fydd yn cael eu heffeithio ymlaen llaw i drafod cynigion manwl.

Yn ystod y ddau gam, bydd ein contractwyr yn gweithio o ardal benodedig ar dir ger maes parcio The Bridge Inn oddi ar Heol yr Orsaf.

Pwy sy'n gwneud y gwaith?

Y contractwr a fydd yn gwneud y gwaith yw William Hughes (Civil Engineering) Ltd.

Sut gallaf ddod o hyd i ragor o wybodaeth?

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu ar y dudalen we hon wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Gellir cysylltu â thîm y prosiect yn uniongyrchol gydag ymholiadau trwy anfon neges e-bost i:

LlifogyddSandycroft@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Fel arall, gallwch ffonio Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000 a gadael manylion fel y gall aelod o dîm y prosiect gysylltu â chi dros y ffôn.

Mae tîm y prosiect eisoes wedi cysylltu â'r trigolion a busnesau hynny yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan y gwaith. Ochr yn ochr â'n contractwyr, byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r tirfeddianwyr hyn yn unigol i gynllunio'r gwaith ac i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl. 

  • Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud ag afonydd nad ydynt yn brif afonydd, draeniau priffyrdd a gylïau ffyrdd at Gyngor Sir y Fflint drwy FloodRiskManagement@flintshire.gov.uk
  • Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â rhwystrau mewn carthffosydd a llifogydd sy’n gysylltiedig â hyn at Dŵr Cymru. Cyfeiriwch at Sewer blockages and flooding | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)
  • Os nad ydych yn sicr pwy y dylech gysylltu â nhw ynghylch pryder, cysylltwch â thîm prosiect CNC, fel uchod, a bydd aelod yn gallu rhoi cyngor pellach.

Pwy sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r cyrsiau dŵr a pham nad yw'r holl ffosydd ar hyd Heol Caer wedi'u clirio?

Mae’r llyfryn yn y ddolen isod yn esbonio’r hawliau a’r cyfrifoldebau mewn perthynas â chyrsiau dŵr. Yn y pen draw, perchennog glannau'r afon sy'n gyfrifol am reoli a chynnal unrhyw gwrs dŵr.

Canllaw i’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau wrth berchen ar lannau afon yng Nghymru (https://cyfoethnaturiol.cymru/?lang=cy)

Mae gan awdurdodau rheoli risg bwerau caniataol i fynd ar dir a gwneud gwaith penodol er budd ehangach rheoli perygl llifogydd.

Yn achos Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’r pwerau hyn yn ymestyn i ‘brif afonydd’ ac, yn achos Cyngor Sir y Fflint, i ‘gyrsiau dŵr cyffredin’. Mae gweithgareddau cynnal a chadw diweddar a wnaed gan CNC yn cynnwys drain de Pentre, sef y ‘brif afon’ (ger Heol Caer).

Nid yw pwerau CNC yn caniatáu inni wneud gwaith ar gyrsiau dŵr lleol eraill. Mae'r ddau awdurdod yn cydweithio i gydlynu a chyfathrebu ein cynlluniau a'n hamserlenni cynnal a chadw lleol yn y dyfodol. 

A fydd y gwaith hwn yn atal llifogydd yn y dyfodol, ac a oes unrhyw gynlluniau mwy hirdymor ar gyfer cynllun lliniaru llifogydd ehangach?

Ni allwn byth atal y llifogydd i gyd. Mae llifogydd yn ddigwyddiadau naturiol sy'n digwydd yn ystod glawio cyson ac yn ei sgil. Mae’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn hyrwyddo dull cyfannol o reoli llifogydd. Mae’r strategaeth yn mabwysiadu amrywiaeth o fesurau i leihau’r perygl o lifogydd ac i gynyddu gwytnwch os bydd llifogydd. Mae hyn yn cynnwys adeiladu amddiffynfeydd artiffisial rhag llifogydd a gweithredu dulliau naturiol i reoli llifogydd, lle bo’n briodol. Mae hefyd yn golygu sicrhau bod cymunedau wedi'u paratoi'n well, darogan a rhybuddion llifogydd cywir, ymateb brys i argyfyngau, a chynllunio datblygiadau newydd i ffwrdd o ardaloedd sydd mewn perygl.

Amcan tymor hwy CNC fyddai cwblhau asesiad o berygl llifogydd hanesyddol, presennol ac yn y dyfodol i’r dalgylch ehangach, adolygu arferion presennol, a nodi lle y gellid gwneud gwelliannau. Mae hyn y tu allan i gwmpas y prosiect, ond byddai gwybodaeth sy’n cael ei chasglu yn ystod y gwaith hwn yn cyfrannu at adolygiad ehangach o'r fath. Mae hyn wedi’i gynnwys yng nghynllun tymor canolig CNC, ond ni allwn roi dyddiad penodol ar gyfer cynnal yr asesiad hwn.

A fyddai’r cyrsiau dŵr yn elwa ar waith cynnal a chadw amlach, megis gwaith gwaredu gwaddod neu garthu, i helpu i leihau’r perygl o lifogydd?

Mae CNC yn gwneud penderfyniadau ar y ffordd orau o fynd i’r afael ag unrhyw berygl uwch o lifogydd ar sail safle-benodol, gan ddefnyddio tystiolaeth o sut y gallai pob afon ymateb i waredu gwaddodion.

Mae'r prif sianeli afonydd yn cael eu cynnal a'u cadw'n flynyddol ar ffurf torri chwyn a rheoli llystyfiant. Mae gwaith i waredu unrhyw rwystrau yn sianeli'r afon hefyd yn cael ei wneud yn ôl yr angen. Gall gwaredu gwaddodion fod yn fwy effeithiol mewn rhai lleoliadau nag eraill.

Mae gwaredu gwaddodion yn cael ei ystyried ochr yn ochr ag opsiynau eraill gan CNC wrth asesu sut i reoli’r perygl o lifogydd. Mewn llawer o amgylchiadau, nid yw gwaredu gwaddodion yn ateb cynaliadwy hirdymor nac economaidd.

Beth yw cynlluniau tymor hwy CNC i gynnal a chadw’r cwrs dŵr a’r cwlfer er mwyn sicrhau nad oes problemau’n ymddangos eto ar ôl cwblhau’r gwaith?

Mae natur y cyrsiau dŵr hyn o fewn yr ardal adeiledig yn golygu bod cynnal a chadw rheolaidd effeithiol yn dechnegol heriol o gymharu â sianeli agored sy’n fwy hygyrch.

Mae timau ‘peirianneg integredig’ a ‘gweithlu integredig’ lleol CNC yn ymwneud â thîm y prosiect a’n contractwyr i nodi, a gweithredu, mesurau a fydd yn hwyluso gwaith arolygu a chynnal a chadw yn y dyfodol. Bydd adolygiad o'r drefn cynnal a chadw bresennol yn cael ei gynnal unwaith y bydd gennym ragor o fanylion am y systemau.

Bydd cydweithrediad a chydweithio parhaus ag awdurdodau rheoli risg partner, Cyngor Sir y Fflint a Dŵr Cymru, yn ogystal â gweithio gyda chynrychiolwyr cymunedol, yn helpu i lunio a chefnogi cynlluniau cynnal a chadw yn y dyfodol.

Pam mae llifogydd yn digwydd ar ddistyll y trai a pham mae lefelau dŵr mewn ffosydd yn parhau i fod yn uchel am gyfnodau hir?

Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar safle lleol o fewn cyd-destun ehangach dalgylch Nant Brychdyn. Nodwedd o'r dalgylch yw datblygiad hanesyddol ar y tir isel mwy gwastad (moryd llanw a adferwyd) sy'n ffinio ag afon Dyfrdwy lanwol i'r gogledd, gyda thir uwch yn union i'r de. Mae natur isel yr ardal, y diffyg graddiant cysylltiedig a dylanwad lefelau’r llanw yn afon Dyfrdwy i gyd yn ffactorau a all gyfrannu at lefelau dŵr uchel mewn systemau draenio lleol. Mae'r systemau hyn wedi'u haddasu'n sylweddol dros amser i geisio gwella draeniad, ond oherwydd eu bod yn wastad, gall waddod cronni oherwydd nid yw’r dŵr yn llifo llawer. Felly, o bryd i'w gilydd, mae angen ymyrryd i osgoi colli trawsgludiad (llif) dros amser.

Fel rhan o’r gwaith adfer, bydd CNC a Chyngor Sir y Fflint yn ymchwilio i’r system ceuffosydd i nodi lleoliad a chyflwr unrhyw gysylltiadau o dan Heol Caer. Mae'r cysylltiadau hyn yn cysylltu draen gogledd Sandycroft a draen de Sandycroft, yn ogystal â draen gogledd Pentre a draen de Pentre.

Lle mae angen gwaith adfer neu glirio, byddwn yn trafod ac yn datblygu opsiynau ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint. 

Sut mae drws llanw draen Sandycroft yn gweithio?

Mae'r drws llanw lle mae arllwysfa draen Sandycroft i afon Dyfrdwy yn adeiledd goddefol, gan weithredu'n awtomatig yn seiliedig ar wahaniaeth mewn gwasgedd dŵr y naill ochr a’r llall i'r drws.

Ar adegau pan fo’r llanw’n uchel, mae’r gwasgedd ar y drws yn fwy na’r hyn sy’n dod o’r dŵr i fyny’r afon, felly mae’r drws ar gau o hyd, ac ni all unrhyw ddŵr i fyny’r afon ollwng. Caiff hon ei galw’n sefyllfa ‘cloi’r llanw’. Wrth i'r llanw dreio, mae'r gwasgedd ar ochr i fyny'r afon o'r drws yn fwy. Mae hyn yn golygu y bydd y drws yn agor i ganiatáu i ddŵr yn sianel yr afon arllwys i afon Dyfrdwy. 

 phwy y gallaf gysylltu i gael bagiau tywod?

Defnyddir bagiau tywod yn bennaf i amddiffyn grwpiau o drigolion, er enghraifft trwy ddargyfeirio llwybr dŵr sy'n llifo, a'i gyfeirio tuag at ylïau a thyllau archwilio.

Yn anffodus, nid yw CNC yn darparu bagiau tywod. Os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae perygl o lifogydd a hoffech gael ambell i fag tywod gartref i'w defnyddio pe bai llifogydd, gallwch brynu bagiau tywod o siopau nwyddau metel neu siopau DIY. Mae systemau pwrpasol eraill ar gael hefyd i ddiogelu drysau a brics aer.

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Blue Pages (Blue Pages).

Pam fod llifogydd yn dal i ddigwydd fisoedd ar ôl y llifogydd diwethaf?

Cadarnhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith adfer ar hyd draen gogledd Pentre a draen Sandycroft ym mis Mawrth 2024. Wrth aros i'r prif waith ddechrau, mae contractwr wedi'i benodi, mae’r arolygon amgylcheddol perthnasol wedi'u gwneud, ac mae'r trwyddedau angenrheidiol eisoes yn barod fel y gall cam un y gwaith ddechrau ym mis Hydref.

Unwaith y bydd y gwaith hwn wedi'i gwblhau, disgwylir iddo ddarparu gwelliannau sylweddol i effeithlonrwydd y rhwydweithiau draenio yn yr ardal, gan helpu i reoli llifogydd.

Sut allaf i gymryd rhan mewn helpu gyda llifogydd?

Mae Cyngor Cymuned Queensferry yn chwilio am wardeniaid llifogydd. Mae’r rôl wirfoddol hon yn cynnwys gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint ac CNC i sicrhau bod eu cymuned yn barod ar gyfer llifogydd.

Mae’r rôl yn cynnwys:

  • Sicrhau bod aelodau’r gymuned wedi cael rhybuddion llifogydd uniongyrchol ac yn deall beth maen nhw’n eu golygu a ble i gael rhagor o wybodaeth.
  • Helpu i nodi pobl fregus yn y gymuned a allai fod angen cymorth ychwanegol.
  • Rhoi gwybod i'r awdurdod perthnasol am ddraeniau, ffosydd ac ati sydd wedi’u rhwystro.

Dylai unrhyw un sydd am fod yn warden llifogydd yn eu hardal gysylltu â:

dee@queensferrycommunitycouncil.gov.uk neu clerk@queensferrycommunitycouncil.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd camau pendant i wella perfformiad y prif rwydwaith afonydd yn Sandycroft a Phentre. Mae’r ymdrechion hyn yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i reoli’r perygl o lifogydd yn y gymuned leol ac yn cael eu hariannu gan gymorth grant Rheoli Perygl Llifogydd Llywodraeth Cymru.

Ardaloedd

  • Pentre

Cynulleidfaoedd

  • Llifogydd

Diddordebau

  • Llifogydd