Cynnig Parc Cenedlaethol Newydd Cymru - Ymgynghori Cyhoeddus 2024

Tudalen 1 o 9

Yn cau 16 Rhag 2024

Cyflwyniad

Cafodd ardal astudiaeth, y cyfeirir ati fel yr Ardal Chwilio, yn seiliedig ar ‘Dirwedd Genedlaethol’ Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol), ei nodi a’i rhannu yn ystod cyfnod ymgysylltu â’r cyhoedd ar ddiwedd 2023. Yn dilyn ymlaen o hyn, rydym nawr yn ymgynghori ar Ardal Ymgeisiol y Parc Cenedlaethol arfaethedig. Mae gennym ddiddordeb hefyd yn eich barn chi ar sut y gallai Parc Cenedlaethol reoli rhai o’r materion sy’n effeithio ar yr ardal er budd pobl, natur a chymunedau.

Rydym yn eich annog i ddarllen ein crynodeb byr o’r dystiolaeth neu’r adroddiadau llawn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y manylion cyn llenwi’r holiadur. Gellir dod o hyd i’r ddwy ddogfen ar wefan ein prosiect neu yn y digwyddiadau.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gam pwysig yn y cynnig ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd i Gymru. Mae adborth eich ymgynghoriad yn bwysig i ni. Mae’n rhan sylfaenol o’r broses asesu a bydd yn ein helpu i lunio ein cynigion wrth symud ymlaen.