Cynnig Parc Cenedlaethol Newydd Cymru - Ymgynghori Cyhoeddus 2024
Trosolwg
Ewch i dudalen Wales's New National Park Proposal - Public Consultation 2024 i weld y dudalen hon yn Saesneg.
Bydd y cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn rhedeg o ddydd Llun 7 Hydref tan 23:59 ddydd Llun 16 Rhagfyr 2024. I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau galw heibio neu ymgynghoriad cyhoeddus ar-lein, ewch i dudalen wybodaeth Cynnig Parc Cenedlaethol Newydd Cymru.
Rydym eisiau clywed eich adborth ar y map ffiniau drafft y cyfeirir ato fel y map Ardal Ymgeisiol, ac yn eich annog i gwblhau ein holiadur, unwaith y byddwch wedi cael cyfle i ddod i un o'n digwyddiadau ac wedi gweld y deunyddiau ymgynghori y cyfeirir atynt isod.
Mae’r map Ardal Ymgeisiol yn nodi ardaloedd y canfyddir, ar ôl gwerthusiad manwl gan ymgynghorydd tirwedd annibynnol a phrofiadol, eu bod yn bodloni’r meini prawf statudol ar gyfer Parc Cenedlaethol. Lawrlwytho y map Ardal Ymgeisiol mewn cydraniad uchel (200 mb).
I gael rhagor o fanylion, gweler yr Adroddiad Gwerthuso a Atodiad A: Ffigyrau Ardal Gwethuso sy'n llywio'r map Ardal Ymgeisiol.
Lawrlwytho y mapiau manwl o ffiniau'r Ardal Ymgeisiol, a gweld y mapiau dilyniant yn dangos sut mae’r ardal sy’n cael ei hasesu wedi esblygu o’r Ardal Chwilio i’r Ardal Ymgeisiol isod. Mae’r mapiau hyn yn cynnwys:
Lawrlwytho y map Ardal Ymchwilio mewn cydraniad uchel (110 mb).
Lawrlwytho y map Ardaloedd Ychwanegiad mewn cydraniad uchel (109 mb).
Lawrlwytho y map wedi'u Gwethuso mewn cydraniad uchel (110 mb).
Lawrlwytho y map wedi'u Dileu mewn cydraniad uchel (108 mb).
Ceir crynodeb byr o'r holl dystiolaeth hyd yma yn yr Adroddiad Cryno o Dystiolaeth. Fel y soniwyd uchod, rydym yn eich annog i weld y ddogfen hon cyn llenwi'r holiadur.
Os oes gennych ddiddordeb yn y manylion manylach, mae’r adroddiadau llawn isod yn ddogfennau cefndir a baratowyd fel rhan o’r broses ddynodi i helpu i lywio’r penderfyniad terfynol ar ddynodiad Parc Cenedlaethol newydd arfaethedig:
Gweler cyfres o luniau o'r Ardal Ymgeisiol i roi blas i chi o'r tirwedd.
Gweler Adroddiad Cyfnod Ymgysylltu 2023 i weld cryodeb o'r holl adborth, themâu a phwyntiau allweddol a gasglwyd yn dilyn ein hymgysylltiad â chi yn hydref a gaeaf y llynedd.
Hoffem eich annog yn awr i gyflwyno eich adborth drwy gwblhau'r holiadur isod. Mae eich barn a'ch adborth yn bwysig a byddant yn helpu i lunio'r broses asesu. Diolch.
Give us your views
Ardaloedd
- Clwydian Range and Dee Valley
Cynulleidfaoedd
- Designated Landscapes
Diddordebau
- Consultation
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook