Safle Mwyngloddio Minera

Overview

Cefndir

Mae cyfadeilad mwynglawdd y Mwynglawdd yn cael ei gydnabod fel un o’r pwysicaf yn y Gogledd-ddwyrain, ac yn ystod y blynyddoedd cynhyrchu brig rhwng 1860 ac 1880, roedd yn un o’r cynhyrchwyr mwyn plwm a sinc mwyaf yn Ynysoedd Prydain. Cynhyrchodd y mwynglawdd gyfanswm o dros 135,000 tunnell o grynodiadau plwm a 180,000 tunnell o grynodiadau sinc.

Roedd y seilwaith mwyngloddio yn helaeth, yn cynnwys rhwydwaith o siafftiau, ceuffyrdd a thwneli a oedd hefyd yn defnyddio ogofâu calchfaen naturiol. Mae’r rhan fwyaf o’r rhwydwaith hwn bellach wedi’i foddi oherwydd llifogydd ar ôl cau’r mwynglawdd. Yn ystod y gwaith mwyngloddio, roedd dŵr yn llifo i mewn drwy geudodau calchfaen naturiol yn her gyson a chafodd y gwaith o adeiladu twnnel draenio o’r enw Deep Day Level ei gwblhau yn y 1850au lle roedd y dŵr yn mynd i mewn i afon Clywedog ger Melin y Nant. Yn 1965, cwympodd rhan o Deep Day Level, ac arweiniodd hyn at y rhan fwyaf o ddŵr y ceuffyrdd yn llifo i mewn i geunant Stryt y Scweiar.

Mae’r Mwynglawdd yn rhan o Raglen Mwyngloddiau Metel Cymru, a gyflwynir mewn partneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar leihau llygredd o fwyngloddiau metel segur ledled Cymru.

Prosiect Stryt y Scweiar

Mae dŵr mwynglawdd yn arllwys i sianel Stryt y Scweiar cyn llifo i afon Clywedog.

Drwy ein hymchwiliad, rydym wedi sefydlu bod y cwlfert presennol ar y sianel hon yn rhy fach, sy’n cyfyngu llif y dŵr ac yn cyfrannu at broblemau lleol. Bydd y prosiect yn gosod cwlfert newydd i reoli’r llifoedd hyn yn well a hwyluso mesuriadau llif o ddŵr y mwynglawdd.

Bydd mesur y llif yn ein galluogi i asesu effaith dŵr y mwynglawdd ar afon Clywedog, a bydd hyn hefyd yn darparu gwybodaeth hanfodol os bydd unrhyw fesurau adfer/ymyrryd yn cael eu cynllunio yn y dyfodol.

Cwlfert yn Stryt y Scweiar

  

Cynnydd y prosiect

  • Mae gwaith ymchwilio ac arolygu ar y safle, gan gynnwys arolygon topograffig, wedi’i gwblhau
  • Mae ystyriaethau amgylcheddol wedi cael eu hasesu, gan gynnwys ecoleg, hydroleg a threftadaeth
  • Mae cynllun gweithredu amgylcheddol wedi’i ddatblygu
  • Mae gofynion cynllunio wedi cael eu hadolygu ac, er nad oes disgwyl y bydd angen caniatâd cynllunio llawn, disgwylir y bydd angen cydsyniad ar gyfer gwaith mewn cwrs dŵr cyffredin

Manteision y gwaith

  • Rheoli llif dŵr yn well – bydd y cwlfert newydd yn darparu ar gyfer dŵr mwynglawdd a llifoedd wyneb yn well, gan leihau’r pwysau ar y system bresennol
  • Mwy o wydnwch – bydd seilwaith wedi’i uwchraddio yn helpu i atal rhwystrau a phroblemau llifogydd lleol
  • Diffiniad o’r broblem – bydd monitro’r llif yn galluogi casglu data hanfodol i asesu halogiad dŵr y mwynglawdd
  • Diogelu’r amgylchedd – yn cefnogi amcan ehangach Rhaglen Mwyngloddiau Metel Cymru o wella ansawdd dŵr ar draws ardaloedd mwyngloddio hanesyddol
  • Seilwaith mwy diogel a dibynadwy – mae ailosod cwlfert sy’n rhy fach yn lleihau’r risg y bydd yn methu a phroblemau cynnal a chadw parhaus

Y camau nesaf

  • Cwblhau’r dull dylunio ac adeiladu ar gyfer ailosod y cwlfert
  • Sicrhau’r cydsyniadau angenrheidiol, gan gynnwys cydsyniad cwrs dŵr cyffredin
  • Cadarnhau cyfrifoldebau contractwyr, gan gynnwys rheoli’r safle, rheolaethau amgylcheddol a chydlynu cyfleustodau
  • Cyhoeddi’r cynllun gweithredu amgylcheddol terfynol unwaith y cytunir ar ddulliau adeiladu
  • Bwrw ymlaen i baratoi’r safle a’r gwaith adeiladu

Amserlen gyfredol

  • 2024 – Arolwg topograffig wedi’i gwblhau
  • Dechrau 2026 – Gwybodaeth am y safle a dogfennau tendro wedi’u paratoi
  • 2026 (wedi’i gynllunio) – Disgwylir i’r gwaith i ailosod y cwlfert ddigwydd, yn amodol ar gydsyniadau terfynol a pharodrwydd contractwyr
 

 

Gwaith cwlfert sydd ar ddod – Stryt y Scweiar

Yn fuan, byddwn yn cynnal gwaith gwella hanfodol i’r cwlfert yn Stryt y Scweiar fel rhan o Raglen Mwyngloddiau Metel Cymru.

Pam mae angen y gwaith hwn

Mae system fwynglawdd y Mwynglawdd wedi’i nodi fel ardal flaenoriaeth oherwydd bod dŵr mwynglawdd hanesyddol yn effeithio ar nentydd ac afonydd lleol. Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i ddeall a rheoli llifoedd dŵr yn yr ardal yn well, gan gefnogi ymdrechion yn y dyfodol i leihau llygredd a gwella’r amgylchedd.

I gefnogi hyn, mae angen i ni ailosod cwlfert dŵr wyneb presennol a gosod adeiledd monitro llif. Bydd hyn yn:

  • Galluogi monitro llifoedd dŵr yn fwy cywir
  • Cefnogi datblygiad atebion lleihau llygredd yn y dyfodol
  • Helpu i amddiffyn y sianel rhag difrod parhaus a achosir gan orlifoedd ac erydu

Beth mae’r gwaith yn ei gynnwys

Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan Evans Construction a bydd yn cynnwys ailosod y cwlfert presennol a gosod offer i fesur llif y dŵr.

  • Dyddiad dechrau: 24/08/2026 (I’w gadarnhau)
  • Hyd: Tua thair wythnos
  • Oriau gwaith: 8am–5pm, dydd Llun i ddydd Gwener

Mynediad ffordd

Er mwyn ymgymryd â’r gwaith yn ddiogel, bydd ffordd yn cael ei chau dros dro ar y lôn i’r gorllewin o’r rhyd yn Stryt y Scweiar. Bydd gorchymyn rheoleiddio traffig dros dro yn cael ei roi ar waith ar gyfer hyn.

Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r contractwr i leihau’r aflonyddwch ac yn gwerthfawrogi eich amynedd tra bod y gwaith hwn yn digwydd.

Beth i’w ddisgwyl

Yn ystod y gwaith, efallai y byddwch yn sylwi ar y canlynol:

  • Gweithgarwch adeiladu, gan gynnwys peiriannau a pheirianwaith
  • Rhywfaint o gynnydd dros dro mewn sŵn
  • Symudiadau cerbydau ychwanegol yn yr ardal

Bydd yr holl waith yn cael ei wneud gyda gofal ac ystyriaeth i’r gymuned leol a’r amgylchedd.

(diweddarwyd ddiwethaf 15/07/2026)

Cadw mewn Cysylltiad a Sut i Gymryd Rhan

Os hoffech chi rannu eich barn neu gael eich ychwanegu at ein rhestr e-bost, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar y manylion isod:
enquiries@metalmineswales.co.uk

NRW, MRA Logo

Closes 28 Feb 2030

Opened 15 Jul 2026

Areas

  • All Areas

Audiences

  • Metal mines

Interests

  • Metal mines