Mwynglawdd Parc
Trosolwg
Mae Mwynglawdd Parc yng Nghoedwig Gwydyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri, tua 1.6km i'r de-orllewin o Lanrwst a thua 5km i'r gogledd o Fetws-y-Coed.
Cefndir
Bu gwaith achlysurol ym Mwynglawdd Parc rhwng 1855 a 1963 a chloddiwyd dros 10,000 tunnell o blwm a 4,000 tunnell o sinc.
Trwy ei weithfeydd tanddaearol, mae’r mwynglawdd yn cysylltu ag un ar ddeg o fwyngloddiau eraill, ac mae'n agos iawn at nifer o fwyngloddiau annibynnol eraill fel Mwynglawdd Hafna a Mwynglawdd Pandora.
Pan gaeodd y mwynglawdd ym 1963, safai tomen sborion fawr, sef pentwr o wastraff yn sgil gwaith cloddio, i lawr yr afon o’r brif fynedfa a’r allanfa ar gyfer cludo mwynau (Ceuffordd Lefel 3). Achosodd fflachlifogydd dros nifer o flynyddoedd erydiad sylweddol ar y domen sborion, gan arwain at ollwng gwaddodion metelaidd ar dir fferm dros 1km i lawr yr afon.
Ym 1977 cynhaliwyd cynllun adfer er mwyn ailbroffilio a chapio’r domen sborion i greu tirffurf sefydlog â draeniad da ac adeiladu sianel wedi ei leinio ar gyfer Nant Gwydyr.
Yn 2011, dymchwelodd Lefel 3 yn agos at y fynedfa, gan achosi i ddŵr lifo allan o’r mwynglawdd o'r Ceuffordd is ar Lefel 4, trwy Kneebones Cutting, sef poncen neu wagle agored.
Cynhaliwyd adolygiad o fwyngloddio a hydroleg dŵr mwyngloddio yn 2020, a nododd risg isel y byddai dŵr mwyngloddio’n gollwng yn sydyn o Geuffordd 3 a 4.
Fel llawer o hen fwyngloddiau metel, mae gan Fwynglawdd Parc nifer o ddynodiadau ecolegol. Mae'r Ceuffyrdd dan sylw a'r nodweddion cysylltiedig wedi'u lleoli mewn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ar gyfer glaswelltiroedd metelaidd a'r ystlum pedol lleiaf ac mae hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd y nodweddion daearegol, casgliadau o blanhigion a safleoedd gaeafgysgu ystlumod.
Cynnydd y Prosiect
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’r Yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yn cydweithio ar y Rhaglen Mwyngloddiau Metel i fynd i’r afael â’r etifeddiaeth lygru hon. Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn casglu gwybodaeth i ddeall ffynonellau llygredd y Parc yn well, ac i nodi opsiynau adfer posibl.
Yn 2020, ymgymerwyd ag adolygiad o hydroleg dŵr mwyngloddiau a ddangosodd risg isel o ollwng dŵr mwynglawdd yn sydyn o geuffyrdd 3 a 4 y Parc. Argymhellodd yr adolygiad hwn waith ychwanegol i wella ein dealltwriaeth o system y mwynglawdd.
Yn dilyn hynny, gosodwyd adeileddau monitro llif ar ollyngiadau pedair ceuffordd, tri all-lif o domen a adferwyd, a gollyngfa Cronfa Ddŵr y Fuches Las.
Rydym yn parhau i fonitro ansawdd a llif y dŵr mewn lleoliadau allweddol o amgylch y mwynglawdd. Rydym wedi cwblhau asesiadau archeolegol ac ecolegol ac wedi comisiynu astudiaeth gwmpasu i nodi rhestr hir o opsiynau lliniaru posibl i wella ansawdd dŵr yn Nant Gwydir ac Afon Conwy.
Mae’n debygol y bydd angen cyfuniad o’r opsiynau lliniaru lefel uchel a gyflwynir isod i reoli’r ystod o ffynonellau llygredd ym Parc yn llwyddiannus.
Rydym yn croesawu eich mewnbwn wrth i ni barhau i ddatblygu ein hopsiynau, a cheisio canfod cyfleoedd ar gyfer gwelliannau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.
Opsiynau Lliniaru Posibl
Opsiynau Lliniaru Posibl:
- Trin dŵr mwynglawdd
- Rheolaethau erydiad
- Rheoli llygredd gwasgaredig arall
- Rheoli dŵr daear
- Rheoli dŵr wyneb
Y Camau Nesaf
Byddwn nawr yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb i asesu addasrwydd technegol, amgylcheddol ac economaidd yr opsiynau lliniaru posibl.
Bydd hyn yn arwain at restr fer o opsiynau dichonadwy y bydd strategaeth adfer a ffefrir yn cael ei dewis ohoni ar gyfer y safle.
Mae’n debygol y bydd hon yn strategaeth fesul cam, yn targedu ffynonellau llygredd penodol dros nifer o flynyddoedd, gan ganiatáu dylunio, adeiladu ac yna asesu pob ymyriad.
Hoffem i’r gymuned leol a rhanddeiliaid eraill chwarae rhan allweddol yn y broses hon.
Byddwn yn cynnal digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus yn ddiweddarach yn y prosiect, ac yn cyhoeddi cylchlythyrau pellach i gyfleu cynnydd.
Cyflwynir amserlen ddangosol isod, sy’n amodol ar sicrhau’r cyllid angenrheidiol.
Llinell Amser Gyfredol
Hyd yma
Diffinio’r broblem: Arolygon sylfaenol a monitro ansawdd dŵr i lywio astudiaeth gwmpasu a rhestr hir o opsiynau lliniaru.
2025
Rhestr fer o opsiynau: Astudiaeth ddichonoldeb i asesu opsiynau rhestr hir a nodi rhestr fer addas o opsiynau lliniaru posibl.
O 2026 Ymlaen
Strategaeth adfer a ffefrir: Datblygu’r strategaeth adfer a ffefrir ar gyfer y safle gydag opsiynau lliniaru wedi’u sgorio ar gyfer ymgynghoriad pellach.
Adeiladu ac asesu: Dylunio ac adeiladu’r opsiwn lliniaru sydd â’r sgôr uchaf, ac yna asesu ei effaith ar ansawdd dŵr.
Cylchlythyrau
Adroddiadau / Gwybodaeth
Cadw mewn Cysylltiad a Sut i Gymryd Rhan
Rydym am glywed gennych wrth i ni symud ymlaen â Phrosiect Mwynglawdd y Parc ac archwilio’r cyfleoedd amgylcheddol a chymdeithasol ehangach y gellir eu datblygu fel rhan o’r strategaeth a ffefrir ar gyfer y safle hwn.
Os hoffech chi rannu eich barn neu gael eich ychwanegu at ein rhestr e-bost, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar y manylion isod:
Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Mwyngloddiau metel
Diddordebau
- Mwyngloddiau metel
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook