Gwaith Plwm a Sinc Cwm Rheidol

Yn cau 30 Medi 2026

Wedi agor 16 Medi 2024

Trosolwg

Cwm Rheidol

Lleolir mwyngloddiau Cwm Rheidol 15km i’r dwyrain o Aberystwyth yng Ngheredigion.

Mae’r mwyngloddiau hyn yn cynnwys mwynglawdd Ystumtuen, Penrhiw, Bwlchgwyn a Llwynteifi.

Mae’r dystiolaeth ddiffiniol gynharaf am fwyngloddio yn yr ardal hon yn dyddio’n ôl i 1698 yn Ystumtuen.

Yn ystod y canrifoedd dilynol fe ddatblygwyd mwyngloddio ymhellach yn yr ardal a bu gweithwyr yn gweithio yn y mwyngloddiau dan reolaeth sawl perchennog neu berchnogion.

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y mwyngloddiau hyn i gyd wedi’u cysylltu o dan y ddaear, gan alluogi i ddŵr o’r gweithfeydd i lifo i’r Afon Rheidol trwy geuffyrdd Rhif 6 a Rhif 9 ar lethrau serth dyffryn cul Cwm Rheidol.

Yma, roedd melin yn prosesu’r mwyn er mwyn cael gwared ar unrhyw wastraff cyn iddo gael ei gludo gyda rhaffordd awyr i Reilffordd Cwm Rheidol ar ochr arall y dyffryn, ac yna ymlaen i Aberystwyth.

Heddiw mae dŵr o’r gweithfeydd tanddaearol yn parhau i lifo o geuffyrdd Rhif 6 a Rhif 9.

Mae’r dŵr hwn yn asidig iawn ac yn cynnwys crynodiadau sylweddol uchel o fetelau gan gynnwys sinc, plwm, a chadmiwm.

O ganlyniad i’r arllwysiadau hyn nid yw’r Afon Rheidol yn bodloni safonau Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr Ewropeaidd (WFD) ar gyfer sinc a chadmiwm am 18km o’r mwynglawdd hyd at y lefel llanw yn y môr.

Mae dalgylch Afon Rheidol yn cynnwys nifer o fwyngloddiau metel eraill nad yw’n bodloni safonau’r WFD ar gyfer sinc a chadmiwm i fyny’r afon o Gwm Rheidol.

Yn 2007, fe wnaethom ni newid cwrs nant er mwyn ei hatal rhag llifo i mewn i siafft, gan leihau’r arllwysiad o lygredd.

Dilynwyd hyn yn 2008 drwy ddraenio ceuffordd Rhif 9 er mwyn lleihau’r risg o ffrwydrad catastroffig o ddŵr sydd wedi digwydd o bryd i’w gilydd yn y gorffennol.

Yn 2009, fe aethom ati i gasglu’r arllwysiadau o’r ddwy geuffordd i mewn i bibellau, gan atal llif y dŵr rhag erydu’r tomennydd a chludo mwy o fetelau.

Yn dilyn cwympiadau pellach yng ngheuffordd Rhif 9, rydym yn gwneud gwaith ar y mwynglawdd i sicrhau llif parhaus o ddŵr mwynglawdd ac atal rhwystr a chwythiad dŵr mwynglawdd dilynol.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Mwyngloddiau metel

Diddordebau

  • Mwyngloddiau metel