Gwaith Plwm a Sinc Abbey Consols

Overview

Abbey ConsolsMae mwynglawdd Abbey Consols (sy’n cael ei adnabod hefyd fel Bronberllan, Florida neu Cwm Mawr Rhif 2) tua 1km i’r dwyrain o bentref Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion.

Mae’n edrych draw tua mynachlog Abbey Ystrad Fflur ar lan Afon Teifi gyferbyn.

Mae’r mwynglawdd yn un o dri y gwyddom iddyn nhw gael effaith andwyol ar ansawdd dŵr Afon Teifi gan achosi i’r afon fethu â chyrraedd safonau dŵr o dan Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr Ewrop (WFD) ar gyfer sinc.

Esgair Mwyn a Chwm Mawr yw’r ddau fwynglawdd arall o bwys yn y cyffiniau.

Sefydlwyd Abbey Ystrad Fflur yn 1164, ac o wybod am ddiddordeb mynachod Sistersaidd mewn mwyngloddio plwm a’r ffaith fod yr Abbey mor agos, y mae’n debygol felly fod mwyngloddio wedi cymryd lle yma ers y cyfnod hwnnw o leiaf. Cofnodwyd i 1,236 tunnell o blwm a 1,765 tunnell o sinc gael eu cloddio yma rhwng 1848 -1909, ac felly gwaith bychan oedd Abbey Consols o’i gymharu â’i gymdogion mwy amlwg fel Frongoch a Chwmystwyth.

Yn ôl cofnodion, fe gloddiwyd am fwyn am y tro olaf yma yn 1913.

Mae gwaith adfer ar draws y blynyddoedd wedi newid llawer o nodweddion y mwynglawdd. Erbyn heddiw mae’r tomennydd gwastraff sy’n cynnwys cymaint â 32,000 tunnell fetrig o wastraff i’w gweld yn amlwg.

Mae nifer o siafftiau yn ogystal ag olion hen olwyn ddŵr, lloriau trin a thrafod y mwyn a gwlâu hidlo i’w gweld.

Mae dwy rywogaeth o dyfiant cen (lichen) sy’n brin iawn yn genedlaethol hefyd i’w gweld yma.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Closes 28 Feb 2030

Opened 7 Feb 2025

Areas

  • All Areas

Audiences

  • Mwyngloddiau metel

Interests

  • Mwyngloddiau metel