Gwaith Plwm a Sinc Abbey Consols
Overview
Mae mwynglawdd Abbey Consols (sy’n cael ei adnabod hefyd fel Bronberllan, Florida neu Cwm Mawr Rhif 2) tua 1km i’r dwyrain o bentref Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion.
Mae’n edrych draw tua mynachlog Abbey Ystrad Fflur ar lan Afon Teifi gyferbyn.
Mae’r mwynglawdd yn un o dri y gwyddom iddyn nhw gael effaith andwyol ar ansawdd dŵr Afon Teifi gan achosi i’r afon fethu â chyrraedd safonau dŵr o dan Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr Ewrop (WFD) ar gyfer sinc.
Esgair Mwyn a Chwm Mawr yw’r ddau fwynglawdd arall o bwys yn y cyffiniau.
Sefydlwyd Abbey Ystrad Fflur yn 1164, ac o wybod am ddiddordeb mynachod Sistersaidd mewn mwyngloddio plwm a’r ffaith fod yr Abbey mor agos, y mae’n debygol felly fod mwyngloddio wedi cymryd lle yma ers y cyfnod hwnnw o leiaf. Cofnodwyd i 1,236 tunnell o blwm a 1,765 tunnell o sinc gael eu cloddio yma rhwng 1848 -1909, ac felly gwaith bychan oedd Abbey Consols o’i gymharu â’i gymdogion mwy amlwg fel Frongoch a Chwmystwyth.
Yn ôl cofnodion, fe gloddiwyd am fwyn am y tro olaf yma yn 1913.
Mae gwaith adfer ar draws y blynyddoedd wedi newid llawer o nodweddion y mwynglawdd. Erbyn heddiw mae’r tomennydd gwastraff sy’n cynnwys cymaint â 32,000 tunnell fetrig o wastraff i’w gweld yn amlwg.
Mae nifer o siafftiau yn ogystal ag olion hen olwyn ddŵr, lloriau trin a thrafod y mwyn a gwlâu hidlo i’w gweld.
Mae dwy rywogaeth o dyfiant cen (lichen) sy’n brin iawn yn genedlaethol hefyd i’w gweld yma.
Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig
Areas
- All Areas
Audiences
- Mwyngloddiau metel
Interests
- Mwyngloddiau metel
Share
Share on Twitter Share on Facebook