Cynhadledd Y Gyfnewidfa Fwyngloddiau 2025
Trosolwg
Mae’n braf gallu eich gwahodd i Gynhadledd MineXChange, a gynhelir yng Ngwesty Leonardo, Caerdydd ddydd Mercher 12 Tachwedd 2025.
Gan adeiladu ar lwyddiant digwyddiad y llynedd a'r adborth rhagorol a gawsom, mae thema eleni yn canolbwyntio ar adfer mwyngloddiau metel, gyda phwyslais cryf ar ymchwil, datblygu ac arloesi wrth ddarparu atebion.
Bydd y gynhadledd hon yn dwyn ynghyd arbenigwyr blaenllaw o ddiwydiant, y byd academaidd, cyrff anllywodraethol ac asiantaethau'r llywodraeth i archwilio'r datblygiadau diweddaraf mewn adfer mwyngloddiau segur, ymchwil amgylcheddol, cadwraeth treftadaeth a gwella bioamrywiaeth.
Bydd yn cael ei gynnal gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio (yr Awdurdod Glo gynt), fel rhan o Raglen Mwyngloddiau Metel Cymru.
Agenda
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ac mae nifer gyfyngedig o leoedd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â chydlynwyr y digwyddiad ar ran Rhaglen Mwyngloddiau Metel Cymru:
Adam Bateman, Adam.Bateman@miningremediation.gov.uk
Carol Evans, Carol.Evans@miningremediation.gov.uk

Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Metal mines
Diddordebau
- Metal mines

Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook