Hysbysiad o Gais am atgyweiriadau i rwydwaith carthffos disgyrchiant sydd eisoes yn bodoli ym Mhorthaethwy, Ynys Môn

Trosolwg

Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 Hysbysiad o Gais am atgyweiriadau i rwydwaith carthffos disgyrchiant sydd eisoes yn bodoli ym Mhorthaethwy, Ynys Môn.

Hysbysir drwy hyn fod Alun Griffiths Contractors Cyfyngedig wedi gwneud cais i Cyfoeth Naturiol Cymru ("CNC") am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Mae'r cais ar gyfer atgyweiriadau i rwydwaith carthffos disgyrchiant sydd eisoes yn bodoli ym Mhorthaethwy, Ynys Môn. Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar atgyweirio rhannau o garthffos rhwng sawl twll archwilio trwy osod leinin mewnol o fewn y pibellau sydd eisoes yn bodoli, gan adfer cyfanrwydd strwythurol heb ailosod pibellau llawn.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, yn https://cofrestrgyhoeddus.cyfoethnaturiol.cymru/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio’r cyfeirnod cais CML2614.

Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Tîm Trwyddedu Morol
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa'r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ

neu yrru e-bost at: marinelicensing@naturalresourceswales.gov.uk gan y XX/XX/XXXX, gan ddyfynnu cyfeirnod: CML2614

Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y gellir anfon gohebiaeth iddo.

Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Yn cau 29 Meh 2026

Wedi agor 1 Meh 2026

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Coastal Group Members
  • marine developers
  • marine planners
  • Network Completion Project Task and Finish Group

Diddordebau

  • Datganiad Ardal Morol
  • Datglygiad
  • Development
  • EIA
  • Marine Area Statement
  • Marine Area Statement
  • Marine Protected Areas Network Completion Project