Hysbysiad o Gais am groesfan heb ffos (Dull HDD) yn Westfield Pill, Aberdaugleddau
Trosolwg
Deddf Y Môr a Mynediad I’r Arfordir 2009 Hysbysiad o Gais am groesfan heb ffos (Dull HDD) yn Westfield Pill, Aberdaugleddau
Hysbysir drwy hyn fod National Grid Electricity Distribution plc wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded forol i gynnal gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009. Mae'r cais ar gyfer croesfan heb ffos (Dull HDD) yn Westfield Pill, Aberdaugleddau, ar ddyfnder o 15–20m o dan wely'r môr. Bydd y twll turio yn creu lle i gyswllt cebl tanddaearol 132kV newydd rhwng is-orsaf Golden Hill ac Is-orsaf Aberdaugleddau.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim yn https://publicregister.naturalresources.wales/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais CML2625.
Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tîm Trwyddedu Morol
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NQ
neu drwy e-bostio marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk erbyn 09/09/2026, gan ddyfynnu’r cyfeirnod: CML2625
Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y gellir anfon gohebiaeth iddo
Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Coastal Group Members
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
Diddordebau
- Datganiad Ardal Morol
- Datglygiad
- Development
- EIA
- Marine Area Statement
- Marine Area Statement
- Marine Protected Areas Network Completion Project
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook