Apêl yn erbyn penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i atodi amodau i drwydded forol a roddwyd i Gâr-y-Môr ar gyfer gweithgareddau morol trwyddedadwy (safle dyframaeth aml-droffig integredig gwymon a physgod cregyn) yn Swnt Dewi, Sir Benfro.

Closed 11 Aug 2023

Opened 21 Jul 2023

Overview

Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau yn erbyn Penderfyniadau Trwyddedu) (Cymru) 2011

Hysbysir drwy hyn y bydd arolygydd a benodir gan weinidogion cymru yn cynnal gwrandawiad rhithwir ar 15 Awst 2023 am 10:00.

Ynglŷn ag apêl yn erbyn penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i atodi amodau i drwydded forol a roddwyd i Gâr-y-Môr ar gyfer gweithgareddau morol trwyddedadwy (safle dyframaeth aml-droffig integredig gwymon a physgod cregyn) yn Swnt Dewi, Sir Benfro.

Diben y gwrandawiad rhithwir yw galluogi’r Arolygydd i glywed sylwadau gan y partïon i’r apêl ar faterion na ellir ymdrin â nhw’n ysgrifenedig. Caiff unrhyw unigolion eraill â diddordeb fynychu hefyd a chaniateir iddynt siarad yn ôl disgresiwn yr Arolygydd.

Gall unrhyw unigolion sy’n dymuno gweld y datganiadau achos a dogfennau eraill yn ymwneud â’r apêl gael atynt trwy ymweld â phorth ar-lein Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) a chwilio gan ddefnyddio cyfeirnod yr apêl: CAS-02246-C1H3Q3

- Isabel Nethell, awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru

Areas

  • All Areas

Audiences

  • Anyone from any background

Interests

  • Permits
  • Trwyddedau
  • EIA
  • development