Croeso i'r dudalen gofrestru ar gyfer Miri Mes 2023!
Rydym yn gofyn i grwpiau addysg a dysgu fynd allan i’r awyr agored i gasglu mes.
Gall pob math o grwpiau addysg a dysgu drefnu casglu hadau, er enghraifft ysgolion, Brownis, Sgowtiaid neu Ffermwyr Ifanc. Mae’n rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu am, a chysylltu â’r amgylchedd naturiol yng Nghymru.
Gall pobl hefyd ddod yn rhan o’r prosiect trwy gyfrannu mes i’w grwpiau lleol, neu eu gwahodd i gasglu mes ar eu tir.
Eleni, rydyn ni’n chwilio am Fes Derw Digoes a choesynnog.
Mae angen i unrhyw sefydliad sydd â diddordeb mewn cymryd rhan ym Miri Mes cofrestru eu diddordeb cyn trefnu’r casglu.
Byddwn yn talu hyd at £4.40 y cilogram, yn ddibynnol ar ansawdd y mes.
Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'r mes rydych chi'n eu casglu?
Byddant yn cael eu hanfon i blanhigfa Maelor ger Y Waun, lle byddant yn tyfu’n goed ifanc cyn i CNC eu hailblannu yng nghoetiroedd a choedwigoedd Cymru.
Mae prosiect Miri Mes, a gynhelir bob blwyddyn, yn cynorthwyo i ni blannu mwy o goed sydd wedi’u tyfu o hadau lleol.
Sut ddylech chi baratoi?
Cyn i chi gofrestru, darllenwch y ddogfennau hyn a fydd yn eich helpu i baratoi at gasglu.
Ar ôl cofrestru byddwn yn anfon y bagiau casglu mes a labeli atoch i chi ddechrau eu casglu.
Ar ôl ei gasglu gallwch drefnu apwyntiad ar gyfer gollwng eich mes cofrestredig yn un o'n swyddfeydd neu Ganolfannau Ymwelwyr.
Rhannwch eich lluniau
Cofiwch dynnu digon o luniau wrth gasglu'r mes a'u rhannu ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #MiriMes. A pheidiwch ag anghofio sôn amdanom!
X @NatResWales.
Facebook @NatResWales
Share
Share on Twitter Share on Facebook