Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli'r coetiroedd a'r coedwigoedd yng Nghymru sy'n eiddo i'r cyhoedd yn gynaliadwy. Fe’u rheolir er budd a llesiant y bobl sy'n ymweld â hwy a'r rheiny sy'n dibynnu arnynt er mwyn gwneud bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau’r buddion a ddarperir ganddynt. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crybwyll mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.
Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Hirnant yn cynnwys prif flociau coedwig Cwmwr a Chwm Gwnen sydd, gyda'i gilydd, â chyfanswm ardal o 257.21 hectar (Cwmwr 128.88 hectar a Chwm Gwnen 128.33 hectar). Cyfeirir at y ddau floc coedwig hyn fel ‘Hirnant’ a enwir ar ôl pentref bach Hirnant neu nant/cwm Hirnant a leolir tua’r de o Gwmwr. Mae’r enw Cwmwr neu ‘bont droed’, wedi’i gymryd o enwau’r ffermydd cyfagos a oedd efallai’n cyfeirio at bont droed hanesyddol dros nant Hirnant.
Mae dau floc coedwig Hirnant wedi'u lleoli o fewn ffiniau Cyngor Sir Powys. Mae Cwmwr wedi'i leoli ar ochr bryn serth (Carnedd Das Eithin) a chrib Bwlch y Main tua'r gogledd o'r B439, y ffordd o Abertridwr i Benybontfawr. Ceir mynediad at Gwm Gwnen ar ffordd gyhoeddus fach o bentref Penygarnedd, B4391, i'r gogledd o Lanfyllin.
Mae cynefin cyfagos blociau Cynllun Adnoddau Coedwig Hirnant yn cynnwys tir ffermio pori caeedig, blociau coedwigoedd conwydd masnachol, sy'n dominyddu'r golygon uwch a choetiroedd llydanddail cymysg ar y llethrau isaf ac ar lannau'r afon. Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol y Berwyn, (Ardal Cadwraeth Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) wedi'i lleoli 1.2 km tua'r gorllewin a'r gogledd o Gynllun Adnoddau Coedwig Hirnant, sy'n cynnwys bron i 8,000 hectar o rostir agored o fewn ardal Mynydd y Berwyn.
Mae mynediad cyhoeddus i'r ddau goetir yn cynnwys cymysgedd o fynediad agored ar droed gyda rhwydwaith da o lwybrau troed cyhoeddus a llwybrau ceffylau sy'n cysylltu'r blociau coetir â'r dirwedd ehangach.
Isod, ceir dolen i'r crynodeb o amcanion ar gyfer y cynllun, ynghyd â mapiau dangosol ar gyfer y cynllun adnoddau coedwig:
Crynodeb o Amcanion Cynllun Adnoddau Coedwig Hirnant
Mae'r ddogfen ganlynol yn helpu i esbonio rhai o'r categorïau a ddangosir ar y mapiau:
Crynodeb o'r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:
Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Hirnant er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.
Share
Share on Twitter Share on Facebook