Cynllun Adnoddau Coedwig Ceri 2026

Trosolwg

View this page in English

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reolaeth gynaliadwy ar goetiroedd a choedwigoedd Cymru sy'n eiddo cyhoeddus. Fe'u rheolir er budd a lles y bobl sy'n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a'u gwytnwch tymor hir yn wyneb y newid yn yr hinsawdd fel y bydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn gallu mwynhau'r buddion y maen nhw’n eu darparu. Bob deng mlynedd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu'r cynlluniau rheoli tymor hir ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crynhoi mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.

Cyd-destun a lleoliad

Mae Coedwig Ceri yn cynnwys un prif floc (Bryniau Sarn) gyda nifer o goetiroedd llai yn yr ardal gyfagos. Mae’r goedwig wedi’i lleoli ar y ffin â Lloegr  ger pentref Ceri, gyda’r brif goedwig yn pontio cefnffordd Ceri. Mae’r cynllun coedwig hwn hefyd yn cynnwys Coed Gilfach (ger pentref Ceri), Fron Derw, Gyffeni, Masons Bank, Badger Moor, Planhigfa Betws, Cefn Fron, Blockwood a New Pool. Mae’r ardaloedd o goedwig ar ochr Lloegr o’r ffin o fewn Tirwedd Genedlaethol Bryniau Swydd Amwythig, sy’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.


Coed conwydd yw’r rhywogaethau o goed yn bennaf, ac mae rhai rhywogaethau llydanddail mewn mannau sydd wedi’u cwympo a’u hailblannu. Cyfanswm arwynebedd y cynllun yw 1009 hectar.


Roedd Ystâd Brynllywarch  wedi plannu coed conwydd estron mewn mannau ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cyn i’r Comisiwn Coedwigaeth ei gaffael yng nghanol yr ugeinfed ganrif; torrwyd y rhan fwyaf o’r clystyrau cynharach o blanhigfa yn ystod y ddau ryfel byd. Ar wahân i’r safleoedd Coetir Hynafol, sy’n ymestyn dros 129 hectar, byddai’r rhan fwyaf o’r ardal wedi bod yn weundir a rhostir gyda thir pori garw cyn sefydlu’r planhigfeydd conwydd.


Nod y Cynllun Adnoddau Coedwig hwn yw parhau i adfer yr ardaloedd sy’n Blanhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol i fod yn goetir brodorol yn bennaf, ac ym mhob rhan o’r goedwig cynyddu’r elfen lydanddail drwy ganolbwyntio ar wella parthau glannau afon, clustogi ardaloedd coetir hynafol a chyflwyno cysylltiadau rhwng cynefinoedd. Bydd y gwaith cynhyrchu pren yn canolbwyntio ar y planhigfeydd mwy ble mae llai o gynefinoedd pwysig. Bydd Systemau Coedwriaeth Effaith Isel yn cael eu rhoi ar waith mewn ardaloedd priodol, ble gellir eu defnyddio i gyflawni ein hamcanion rheoli. Manteisir ar gyfleoedd i gynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau o goed, gan wneud y coetir yn fwy gwydn yn wyneb effeithiau newid hinsawdd.

  • Map trosolwg

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Amcanion

Mae rhai yn cael eu cymhwyso i ardaloedd penodol, ond lle na nodir yn wahanol, mae amcanion yn berthnasol i’r holl goedwigoedd.

Ymarfer coedwigaeth cyffredinol

  • Bydd yr holl weithrediadau coedwigaeth yn dilyn Safon Coedwigaeth y DU, canllawiau diwydiant ac arferion gorau.
  • Byddwn yn gweithio i sicrhau bod Coedwig Ceri yn parhau i gynhyrchu cyfaint cynaliadwy o bren, gan ddefnyddio pren o waith teneuo, Systemau Coedwriaeth Effaith Isel a llwyrgwympo / ailstocio.
  • Bydd aildyfiant naturiol ac ailstocio yn cael eu rheoli i sicrhau bod y stoc goed yn cael ei hadfer, gan fanteisio ar gyfleoedd i ehangu’r amrywiaeth o ran rhywogaethau a strwythur.
  • Dylid cynnal potensial cynhyrchiol y goedwig, a’i wella lle bo modd, gan nodi bod y term hwn yn cynnwys darparu gwasanaethau ecosystem eraill yn ogystal â chynhyrchu pren.
  • Bydd gweithrediadau coedwigaeth yn cael eu defnyddio i gyflawni gwelliannau amgylcheddol ehangach yn y goedwig.

Coedwigoedd a bioamrywiaeth

  • Gwella rhwydweithiau cynefinoedd drwy gysylltu ardaloedd o goetir hynafol / brodorol, a rhoi ystyriaeth i elfennau cynefin (e.e. coetiroedd, gwrychoedd, afonydd) y tu allan i’r coetir.
  • Cymryd camau lle bo angen i ddelio â bygythiadau i weithrediad ecolegol coetiroedd, a gwella ansawdd ardaloedd o goetiroedd brodorol.
  • Caniatáu datblygiad coetir olynol, gan leihau ymyriadau lle bo’n briodol er mwyn cyflawni nodau cadwraeth.
  • Dylai gwaith rheoli’r goedwig fod yn ystyriol o safleoedd cadwraeth gwerthfawr y tu hwnt i ffin y goedwig. Lle bo modd, gwella ansawdd cynefinoedd a chysylltedd i rywogaethau o flaenoriaeth.
  • Bydd CNC yn parhau i weithio'n gadarnhaol gyda'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt leol i gefnogi gwella cynefinoedd, yn enwedig mewn perthynas â Masons Bank ac Upper Shortditch.
  • Parhau i nodi ac adfer nodweddion coetiroedd hynafol ac ardaloedd o ddiddordeb cadwraeth, gan gynyddu gorchudd dail llydan mewn ardaloedd Coetiroedd Hynafol ac i atgyfnerthu rhwydweithiau cynefinoedd. Ystyrir bod rhannau o’r ardal goedwig (yn enwedig Fron Derw a Choed Gilfach) o flaenoriaeth uchel ar gyfer adfer i goetir brodorol.

Coedwigoedd a newid hinsawdd

  • Mae coedwigoedd amrywiol yn fwy cadarn a gwydn yn wyneb y pwysau sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd.
  • Parhau i ehangu’r amrywiaeth o ddosbarthiadau oedran a rhywogaethau coed o fewn y coetiroedd, gan ddefnyddio Systemau Coedwriaeth Effaith Isel lle bo’n briodol, a lleihau maint ardaloedd llwyrgwympo yn y dyfodol lle bo modd.
  • Bydd dyluniad y goedwig yn sicrhau bod Systemau Coedwriaeth Effaith Isel yn cael eu defnyddio mewn ardaloedd addas, tra gellir defnyddio llwyrgwympo i ddelio ag ardaloedd ble chwythwyd coed i lawr gan y gwynt, a ble nad yw’r cnydau’n ddigon sefydlog i’w rheoli drwy Systemau Coedwriaeth Effaith Isel.
  • Gellir defnyddio adfywio naturiol, a gellir ategu hynny gyda phlannu dethol at ddiben ailstocio neu gyfoethogi er mwyn gwella’r amrywiaeth o rywogaethau.
  • Dylid teneuo’n rheolaidd i wella sefydlogrwydd coed a manteisio ar gyfleoedd ar gyfer gwella gwytnwch a chyflawni’r amcanion eraill.

Coedwigoedd a’r amgylchedd hanesyddol

  • Nodi a gwarchod nodweddion treftadaeth ac archeolegol pwysig.
  • Lle bo’n briodol, gwella gwelededd a dehongliad nodweddion tirwedd hanesyddol.

Coedwigoedd a'r dirwedd

  • Addasu’r coetiroedd yn raddol er mwyn gwella amwynder y dirwedd: ar y cyd â’r defnydd o Systemau Coedwriaeth Effaith Isel ac amrywiaethu (a ddisgrifir yn yr amcanion uchod), mae hyn yn golygu lleihau terfynau caled/artiffisial yn raddol yn y dirwedd, annog coetir cymysg ar ffiniau a rhoi ystyriaeth i nodweddion cyfagos.
  • Bydd maint yr ardaloedd llwyrgwympo yn cael ei leihau lle bo’n ymarferol (gan nodi bod tir serth a choed wedi’u chwythu i lawr gan y gwynt yn peri anawsterau). Lle defnyddir llwyrgwympo, bydd safleoedd yn cael eu hailstocio mewn ffordd sy’n sensitif i’r dirwedd.

Coedwigoedd a phobl

  • Cynnal a, lle bo modd, gwella profiad ymwelwyr â’r coetir, gan ddarparu amgylchedd diogel, pleserus ac amrywiol.
  • Dylai’r coetiroedd fod yn fuddiol i iechyd a lles pobl leol ac yn groesawgar i ymwelwyr o bellach i ffwrdd.
  • Dylid cydnabod pwysigrwydd llwybrau pellter hir a llwybrau hanesyddol. Bydd y coetiroedd yn dod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Coedwigoedd a phridd

  • Bydd priddoedd y goedwig yn cael eu diogelu trwy waith reoli gweithrediadau gofalus, gan ddilyn arferion gorau diwydiant a Safon Coedwigaeth y DU ar gyfer pridd.
  • Bydd yr ardal fwy o faint a neilltuir ar gyfer ymyrraeth leiaf a Systemau Coedwriaeth Effaith Isel hefyd yn lleihau effaith defnyddio peiriannau ar y pridd ac yn cynnal strwythur pridd heb ei darfu.

Coedwigoedd a dŵr

  • Defnyddio arferion coedwigaeth da i wella ansawdd y dŵr a swyddogaeth afonydd, gan leihau perygl llifogydd i lawr yr afon.
  • Gwella cynefinoedd glannau afon, gan ddisodli coetiroedd conwydd â choetiroedd llydanddail â chanopi agored ar lannau nentydd, a sicrhau bod y rhain yn dod yn rhan o rwydweithiau natur cysylltiedig.
  • Manteisio ar gyfleoedd (wrth gynnal gweithrediadau coedwigaeth) i ddatgysylltu hen ddraeniau coedwig oddi wrth gyrsiau dŵr, a gwella ardaloedd clustogi o amgylch cyrsiau dŵr i ddal gwaddod a lleihau bygythiadau i ansawdd y dŵr yn sgil erydiad.

Crynodeb o’r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig:

  • Bydd ardaloedd ble chwythwyd coed i lawr gan y gwynt yn cael eu cwympo a’u hailstocio, yn unol â’r amcanion rheoli a nodir yn y Cynllun Adnoddau Coedwig.
  • Bydd clystyrau ifanc o goed yn cael eu teneuo’n brydlon, er mwyn gwella eu sefydlogrwydd a’u gwydnwch, gan ganiatáu rheolaeth effaith is yn y dyfodol.
  • Bydd yr ardaloedd sy’n weddill o goed llarwydd (sy’n agored i glefyd) yn cael eu lleihau’n raddol a’u disodli gan rywogaethau addas eraill. Os bydd coed yn cael eu heintio, efallai y bydd angen eu cwympo’n gynharach nag a gynlluniwyd.
  • Byddwn yn parhau i ailstrwythuro’r coedwigoedd fel eu bod yn cynnwys amrywiaeth ehangach o rywogaethau o goed a dosbarthiadau oedran. Bydd hyn yn eu gwneud yn fwy gwydn i’r effeithiau sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd.
  • Bydd ardaloedd o Blanhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol yn parhau i gael eu hadfer i goetir sy’n frodorol i’r safle yn bennaf. Lle bo modd, gwneir hyn yn raddol drwy deneuo yn hytrach na llwyrgwympo, er mwyn lleihau’r effeithiau ar nodweddion sensitif.
  • Byddwn yn cynyddu arwynebedd y coetiroedd llydanddail brodorol, ac yn gwella rhwydweithiau cynefinoedd. Bydd hyn yn bennaf o amgylch nentydd ac afonydd, gan ddilyn nodweddion tirwedd naturiol i ddarparu cysylltiadau rhwng cynefinoedd.

Mapiau Cynllun Adnoddau Coedwig

Esboniad o allweddi’r map

Map 1 - Prif Amcanion Hirdymor

Tudalen 1 (gogledd)

Tudalen 2 (de)

Tudalen 3 (Fron Derw)

Tudalen 4 (Coed Gilfach)

Map 2 - Systemau Rheoli Coedwigoedd

Tudalen 1 (gogledd)

Tudalen 2 (de)

Tudalen 3 (Fron Derw)

Tudalen 4 (Coed Gilfach)

Map 3 - Cynefinoedd a Mathau o Goedwigoedd

Tudalen 1 (gogledd)

Tudalen 2 (de)

Tudalen 3 (Fron Derw)

Tudalen 4 (Coed Gilfach)

Pam bod eich barn yn bwysig

Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Ceri er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.

Yn cau 24 Meh 2026

Wedi agor 22 Mai 2026

Ardaloedd

  • Kerry
  • Newtown East

Cynulleidfaoedd

  • Forest Management
  • MSs and MPs

Diddordebau

  • Forest Management
  • Rheoli Coedwig