Cynllun Adnoddau Coedwig Afan

Trosolwg

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli’r coetiroedd a’r coedwigoedd yng Nghymru sy’n eiddo i’r cyhoedd yn gynaliadwy.  Fe’u rheolir er budd a llesiant y bobl sy’n ymweld â hwy a’r rheiny sy’n dibynnu arnynt er mwyn gwneud bywoliaeth. Mae’r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu mwynhau’r buddion a ddarperir ganddynt. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu’r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu crybwyll mewn Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Afan yn cwmpasu tua 3500 hectar ar draws un goedwig gyfagos sy'n rhedeg ar hyd Dyffryn Afan ac un bloc llai o'r enw Mynydd Emroch. Mae pedwar coetir sy'n ffurfio craidd Cynllun Adnoddau Coedwig Afan.

  • Penhydd
  • Foel
  • Glyncorrwg
  • Michaelston
  • Mynydd Emroch

 

Cyfleoedd o fewn coedwig Afan

Ymarfer Coedwigaeth Gyffredinol – Byddwn yn parhau i gynhyrchu pren mewn ffordd gynaliadwy ac yn dal i amrywio ein rhywogaethau coed. Byddwn yn mabwysiadu systemau coedwigaeth gorchudd parhaus pan fo'r amodau'n addas. Byddwn yn cynyddu lefelau teneuo coed er mwyn cefnogi'r amcan hwn.

Coedwigoedd a Bioamrywiaeth - Byddwn yn rheoli’r rhostir sydd wedi’i adfer ar y Foel. Byddwn yn parhau i reoli rhywogaethau goresgynnol a llysysyddion mawr. Byddwn yn parhau i adfer coetir hynafol a datblygu rhwydweithiau cadwraeth o fewn y goedwig er mwyn gwella gwytnwch ecolegol.

Coedwigoedd a Newid Hinsawdd – Byddwn yn manteisio ar gyfleoedd i adfer mawndiroedd wedi'u coedwigo pan fo hynny'n briodol a chynyddu'r gorchudd coed llydanddail i helpu i dynnu CO2 o'r atmosffer. Byddwn yn cefnogi datblygiad ynni adnewyddadwy priodol.

Coedwigoedd a'r Amgylchedd Hanesyddol – Byddwn yn parhau i reoli'r henebion cofrestredig yn y goedwig.

Coedwigoedd a Thirwedd – Byddwn yn parhau i ddewis coed sy'n ategu cymeriad Dyffryn Afan wrth i ni barhau i adfer yn dilyn effeithiau clirio coed llarwydd.

Coedwigoedd a Phobl – Byddwn yn cynnal a chadw’r ddarpariaeth hamdden yn Afan a lle bo modd yn ei gwella. Mae hyn yn cynnwys 4 llwybr cerdded sydd wedi’u henwi a 150km o lwybrau beicio mynydd, darpariaeth i rai sy’n marchogaeth ceffylau a 3 'canolfan' hamdden.

Coedwigoedd a Phridd – Byddwn yn cymryd cyfleoedd i adfer mawndiroedd sydd wedi dirywio.

Coedwigoedd a Dŵr – Byddwn yn nodi perygl posibl o lifogydd o ganlyniad i'n gweithrediadau a phan fo angen byddwn yn cymryd camau i leihau'r risg. Byddwn yn ceisio gwella gwytnwch y feithrinfa bysgod yn afon Corrwg drwy reoli dalgylch lle bo hynny'n bosibl.

Lleoliad

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 1 - Amcanion Hirdymor

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 2 - Systemau Rheoli Coedwigoedd

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map 3 – Dangosol o'r Mathau o Goedwigoedd

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Pam bod eich barn yn bwysig

Hoffem wybod eich barn a'ch teimladau ynghylch y cynlluniau newydd ar gyfer coedwig Afan er mwyn ein helpu i wella rheolaeth hirdymor y goedwig.

 

Rhowch Eich Barn i Ni

Bydd y gweithgarwch hwn yn agor ar 1 Tach 2026. Dychwelwch ar y dyddiad hwn, neu ar ôl hynny, i roi eich barn.

Yn agor 1 Tach 2026

Yn cau 30 Tach 2026

Ardaloedd

  • Glyncorrwg

Cynulleidfaoedd

  • Rheoli coedwigoedd

Diddordebau

  • Rheoli Coedwig